| Ma
‘na duedd, i feddwl
Nad yw’r bore byth yn para am hir
Ond gyda hi, o’dd e’n ddi-ddiwedd
O’dd na frecwast rôl brecwast o hyd
Pryd
ti’n mynd i sylweddoli fod y platiau’n cracio
yn y gwres?
Pryd ti’n mynd i dderbyn fod ‘na fai?
Sut dwi fod i weiddi mas yn gas pan fydd y pnawn yn
dod yn nes?
Haws i iste nol, cadw ngheg ar gau, fel pob tro o’r
blaen.
Dyddiau
hir, cariad a minlliw,
Cwpan coffi sy’n gusan i gyd
Dyma ni, dyma’n stori
Y cwpan gwag a’r tywelion yn ‘lyb.
Be
dwi fod i neud ond dal i drio cyfareddu un neu ddau
A dal y ‘ngalon fach yn gynnes yn fy llaw?
Dwi ddim yn mynd i fyw fy mywyd i gyd yn credu ma arna’
i ma’r bai
Gad fi fynd a gad fi fod a gad y trai
Ma
bywyd yn galed, a brecwast yn ddoniol,
A ‘does na ddim troi nôl.
Un dywediad ynfyd, mewn byd o wendid
Dyna’r gwir am gelwydd.
«
back to 'music'
|