| Meddal
Ti’n feddal heb orfod dweud gair
Meddal
Yn cuddio tu ôl i’r gwair
Efallai daw dydd i ti gael gweld bo ti’n rhydd
A thithau’n gynnes mewn ffydd
Fe fydd rhaid i ti
Wylio dy gefn di
Fydd y byd ar dy ôl di
Fydd y cyfan a weli di, fydd e wedi mynd
Meddal
Dwy lygad yn galed fel marblen
Meddal
Yn cuddio tu ôl i’r llen
Efallai daw amser i ti gynnau dy hyder
A chwalu dy bryder
Fe fydd rhaid i ti wylio dy gefn di
Fydd y byd ar dy ôl di
Fydd y cyfan a weli di
Fydd e wedi mynd...
Rwyt
ti mor feddal,
Yn llosgi dy hun i ffwrdd.
Rwyt
ti mor feddal
Heb ddweud ‘run gair.
«
back to 'music'
|