| Pan
oeddwn fachgen
O’n i’n mynd i neud pethe mowr
On i’n methu gyrru car so ges i gitar
I yrru fi rownd
A
unweth fi stopio gwenu
A dechrau chwarae’r bâs
Wel odd gen i lwyth o ffrindie
Gyd di gwisgo run fath
A chyn pen y noson
Odd y drysau ‘di agor mas...
Pan
oeddwn fachgen
On nhw’n gweud bo fi’n well na neb
So ges i hat a ges i grap ar rap
A’r amp lan i unarddeg
Ond nes i ddechre magu bola
Ath y crysau t yn llai
Nes odd pawb o fewn yr SRG
Di dechre gweld bai
A chyn pen y noson o’dd y drysau i gyd ar gau...
O’n
i’n meddwl mai llathen o’r un brethyn oedd
pawb
O’n i’n meddwl bod brethyn a llathen yn
mynd law yn llaw
Ond mewn un llathen o’u brethyn nhw es i’n
sownd
Odd dim cweit digon o’n llathen i fynd rownd
Pan
oeddwn fachgen
Odd na wastad rhyw fenyw well
Odd hi ddim yn gyrru car
Ond cyn hir odd hi’n gyrru popeth
Ac
er i fi golli’r bola
A dechre gwitho mas
Dringodd hi reit heibio
Fi yn ei sodlau mawr cas
Cyn pen y diwrnod
Oedd ei gigs hi ‘di gwerthu mas
O’n
i’n meddwl mai llathen o’r un brethyn oedd
pawb
O’n i’n meddwl bod brethyn a llathen yn
mynd law yn llaw
Ond mewn un llathen o’u brethyn nhw es i’n
sownd
Odd dim cweit digon o’n llathen i fynd rownd
Pan
oeddwn, oeddwn fachgen
Digon o frethyn yn fy llathen i.
WHEN
I WAS A BOY: A song about being a pseudo-macho, guitar-thrashing,
hat-wearing, superhero on the Welsh Music Scene, only
to have your popularity quashed by a female singer with
a stronger image and dangerous heels. It’s a hard
life.
«
back to 'music'
|