| Ti’n
cofio’r si, fod ‘na rhwbeth bach rhwng ti
a fi yn ’93?
Os dwi’n cofio’n iawn, doedd e’n ddim
byd mwy na mêl a mwg, ar ganol pnawn.
Ond
dyna ni, ma mil o sgerbyde wedi codi ers ‘ny
Cant o fynyddoedd wedi tyfu’n gry
A’r unig beth a gedwais oedd hosan brudd, yn ddistaw
dan y gwely
Cofia
di, ma ‘na dipyn mwy i gariad dau ‘na hanner
llun
Fel cefnau noeth, a’r lloer yn dripian-dripian
dros ein dannedd poeth.
Datod
croen, chwilio am ryw ffordd o rheoli’r boen
Cydio mewn wyneb sydd yn mynnu ffoi,
Datguddio pob un o ffeithiau ddoe, a’r cyfan er
mwyn rhoi.
Gronda
di, ma ‘na lot ‘di mynd a lot ‘di
rhoi ers ‘93
Ma mhen i’n well, a ma mhen ‘di datgan bod
hi’n well i fod yn bell
A
diolch i ti, am beidio cael dy dwyllo gan fy ngwallt
i gyd
Am droi rownd a dweud ‘wir sdim ots da fi’
Ti’n lot rhy dryloyw i gymryd fi, ti’n ddim
ond rhif
A
dyna ni, dyna’r stori, fel y gwelais hi.
«
back to 'music'
|