Articles: October - December 2008

Eleni, ffilm Nadolig S4C oedd yr addasiad hir-ddisgwyliedig o Martha, Jac a Sianco, gan Caryl Lewis. Y gwˆyn bennaf dwi ‘di glywed yn ei chylch yw mai ffilm dywyll, ddigalon yw hi, gyda’r gwylwyr pybyr yn dadlau nad oes neb eisiau’r fath drasiedi ar ddiwrnod Nadolig. Ond doedd hynny ddim yn fy mhoeni i. Dwi’n cofio gwylio’r ffilm arswyd “The Omen” ar ddydd Nadolig unwaith, ac yn fy nhyb i, gwell ffilm dda, dywyll, na ffilm sâl, ysgafn.

Rhinwedd y ffilm hon yn bennaf oedd ei hedrychiad a’i harddull, a oedd o’r dechrau yn dal sylw ac yn creu awyrgylch arbennig. Roedd y cyffyrddiadau lleiaf o ran lliw a golau yn dal naws y nofel yn berffaith; gyda’r cyfarwyddo goleuedig yn caniatáu i sawl golygfa ddieiriau fod yn rymus dros ben. Wyneb Sianco yn ffrâm y ffenest, er enghraifft, neu Martha’n gefnsyth yn y caffi sgleiniog. Ro’n i’n arbennig o hoff o’r ffordd y denwyd ein sylw at nifer o wrthrychau o gwmpas y ty a’r fferm, a rheiny’n adrodd cyfrolau am hanes y teulu, ac yn rhoi gofod i’r gwylwyr feddwl am arwyddocâd y pethau bychain hyn. Roedd presenoldeb y brain hefyd yn gynyddol sinistr ac effeithiol drwyddi draw.

Ond fe gollwyd ambell elfen wrth drosglwyddo i’r sgrin. Nid oedd y ddeialog na’r cymeriadau, er enghraifft, yn clecian fel y maen nhw o fewn y nofel, ac roedd i’r cyfan ryw deimlad digyffro, anystwyth, fel pe bai’r actorion yn gwawdlunio’r cymeriadau, yn hytrach nag ymdoddi iddyn nhw. Hefyd, roedd cyflymder y naratif ychydig yn anwastad, yn hercian o un datblygiad i’r llall heb aeddfedu ar raddfa gynyddol, bwrpasol fel y mae o fewn tudalennau’r nofel.

27/12/08

 


Gyda’
r gyfres olaf un o Con Passionate yn tynnu at ei therfyn, dwi am achub ar y cyfle i sôn am rai o berfformiadau cofiadwy’r gyfres hon.

Cryfder Con Passionate yw bod y cyfarwyddo clyfar wedi caniatáu perfformiadau cynnil wrth nifer o’r actorion. Hawdd iawn fyddai mynd dros ben llestri, ond mae’r actorion yn ymatal rhag gwneud, gan osod cywair unigryw.

Parau gwrthgyferbyniol sydd wedi cynnal y gyfres hon ers y dechrau. Cyflwynir penboethedd abs?rd Judith, er enghraifft, fel gwrthbwynt gwych i hunan-fodlonrwydd ei gwˆr, Andy, gyda pherfformiadau Steffan Rhodri a Beth Robert weithiau’n arswydus o gredadwy, ac yn ddifrifol-o-ddoniol. Ffefryn arall gen i yw Toni Caroll, sy’n ddewines ar ddal anwyldeb lliprynnaidd Glesni, wrth i Glyn (William Thomas) gyd-chwarae â hi gyda’i ddigrifwch athrylithgar arferol. Dau gymeriad arall y byddaf yn hiraethu amdanyn nhw wedi i’r gyfres hon ddod i ben yw’r anffodus-annwyl Eurof (Matthew Gravelle) a’r anghofus-ofalus Brian (Phylip Hughes), y naill a’r llall yn actorion deallus dros ben, sy’n codi’r creadigaethau comig hyn i lefelau newydd ac annisgwyl.

Un o’r portreadau mwyaf effeithiol yw’r un o berthynas bwyllog Helen (Eiry Thomas) a Pete (Ifan Huw Dafydd), ac mae’r sefyllfa hon wedi ei phortreadu gyda’r fath dynerwch nes gwneud i ni werthfawrogi hyd yn oed eu distawrwydd.

Mae cymaint mwy i’w ddweud, gan fod bron pob perfformiad yn wirioneddol arbennig. A dyma sy’n adlewyrchu cyfraniad y gyfres hon i mi yn fwy ‘na dim byd; sef bod Siwan Jones wedi creu cymeriadau y gellid eu portreadu fel rhai o gig a gwaed, cymeriadau a fydd yn parhau i oleuo ein diwylliant ni ymhell wedi i’r sgrin fach dywyllu.

13/12/08

 

Yr wythnos hon darlledwyd rhifyn arbennig o O Flaen Dy Lygaid, a fu’n trafod newid hinsawdd yng Nghymru. Er ein bod yn ymwybodol o’r effeithiau ar draws y byd, mae’n bosib ein bod yn dueddol o ymbellhau wrth y pwnc ar adegau, ac angenrheidiol, felly, oedd cael rhaglen a oedd yn perthnasoli’r mater hwn, a hynny mewn modd uniongyrchol a holl-wybodus, heb fod ychwaith yn hunangyfiawn na phregethwrol.

A dyma’n union a gafwyd, wrth i Iolo ap Dafydd ein tywys o gwmpas yr ardaloedd trafferthus gyda difrifoldeb pwrpasol, wrth iddo yntau – a’r gynulleidfa – ddeffro i’r peryglon sydd yn wynebu Cymru dros y degawdau a’r canrifoedd sydd i ddod. Cafwyd hefyd ymdrech i fod yn arbrofol gyda’r cynnwys - i gael graffiau’n saethu fel rocedi o’r ddaear, a’r llifddorau’n cael eu hagor mewn mwy nag un ffordd - a oedd yn effeithiol mewn mannau, ond yn tynnu oddi ar y cynnwys mewn mannau eraill. Serch hynny, braf oedd cael amrywiaeth o gyfraniadau pwysig gan lu o arbenigwyr yn ogystal â chynnwys barn y rheiny sy’n gorfod wynebu’r broblem o fewn eu milltir sgwar. Rhagolygon tywyll a gafwyd gan sawl arbenigydd, ac roedd y diweddglo arswydus rhywsut yn angenrheidiol er mwyn ennyn trafodaeth bellach ar y mater argyfyngus hwn.

Ehangwyd y drafodaeth hon ar Pawb â’i Farn, ac roedd ‘na hefyd fwriad i gynnal rhaglen arbennig o Taro'r Post ar C2 Radio Cymru ar yr un adeg, gan ddilyn y drafodaeth stiwdio ac ymuno â hi. Dwi’n ‘sgwennu’r golofn hon ar nos Fercher, heb allu darogan pa mor llwyddiannus fu’r arbrawf ‘byw’ hwnnw, ond gan obeithio mai llifddorau o fath fwy gobeithiol a agorwyd y tro hwn.

06/12/08

 

Yr wythnos hon fe fûm i’n ymweld â chegin danboeth Casa Dudley, y rhaglen gogyddol boblogaidd sydd erbyn hyn ar ei thrydedd cyfres. I Ronda, ardal fynyddig yn nhalaith Málaga, yn Sbaen, y tywyswyd y cystadleuwyr eleni, gyda’r gwaith camera bendigedig yn gwneud defnydd gwych o’r lleoliad hafaidd hwnnw, gan gynnig ffrwydriad celfydd o liw a thirluniau.

Ond fel yn achos pob rhaglen realiti, mae ôl blinder ar y gyfres hon bellach, gydag ambell gynhwysyn eisioes wedi dechrau colli ei flas. Mae Dudley ei hun fel petai wedi colli amynedd gyda’r seibiau hirion anorfod sy’n rhaid eu harddel cyn cyhoeddi enwau’r enillwyr a’r collwyr, ac mae’r rheiny sydd yn gorfod gadael y gyfres ychydig yn rhy raslon a chwrtais wrth wneud hynny, o bosib - tra dwi’n ysu iddyn nhw chwyrlïo i ffwrdd mewn chwip o dymer. Efallai mai’r ategiad mwyaf bisâr at y rysait eleni yw ddefnyddio trosleisiau ar gyfer y cogyddion; un troslais deheuol ac un gogleddol, a’r rheiny yn mynd i hwyl wrth wneud hynny, gan adrodd y sylwadau mewn arddull a fyddai’n ddigon derbyniol mewn sgets gomedi, ond ychydig yn rhyfedd wrth drafod diffygion tomatos a garlleg...

Emma Walford sydd wrth y llyw y tro hwn, ac er ei chyflwyno cynnil a’r adwaith cynnes rhyngddi hi â’r cystadleuwyr, ry’n ni’n ysu iddi gael mwy i adweithio ag e - mwy o densiwn, mwy o ffraeo, mwy o dortillas yn mynd trwy’r to. Ond yn anffodus, ry’n ni’n gorfod derbyn fod yma griw hynaws iawn o bobl, heb air drwg i ddweud am ei gilydd - sy’n wych o beth mewn realiti - ond nid mor ddifyr ar deledu realiti...

29/11/08

 

Pur anaml dwi’n canfod fy hun yn chwerthin yn fy nghwsg, ond dyna ddigwyddodd wythnos diwethaf ar ôl i mi wylio’r bennod ddiweddaraf o Con Passionate. I ddweud y gwir, ro’n i’n chwerthin yr holl ffordd lan y grisiau, yn chwerthin wrth frwsio fy nannedd, ac yn dal i chwerthin gymaint ag awr wedi hynny, nes y bu’n rhaid i’r dyn drws nesa’ guro ar y wal i ddweud wrtha’ i am roi’r gorau iddi.

Mae hi’n faen prawf da i unrhyw gomedi, yn fy nhyb i, os allwch chi chwerthin pan ry’ch chi’n gwylio’r rhaglen ar eich pen eich hun. Yn aml iawn ry’n ni’n mwynhau chwerthin yng nghwmni rhywun arall - chwerthin ar y ffaith eu bod nhw’n chwerthin - ond y tro hwn, ro’n i’n rowlio chwerthin heb orfod profi ‘mod i’n mwynhau i neb ond myfi fy hun (a’r dyn drws nesa.) Yr hyn sy’n gwneud y comedi mor arbennig yw bod sgript Siwan Jones yn cymryd yr agweddau gorau o hiwmor ffarsaidd a’u gwau o fewn strwythur llawer mwy soffistigedig. Mae’r cyffyrddiadau yn rhai hynod o glyfar, ac yn hynod Gymreig, sy’n amrywio o’r gags gweledol i’r rhai mwy cyfrwys. Ar un llaw, ry’n ni’n chwerthin wrth weld Judith yn dal par o drôns i fyny a Brian ar ei bengliniau yn y ty bach, ond ry’n ni hefyd yn chwerthin wrth glywed Glyn yn gwneud ffws am y bwrdd yn y bwyty, a’r ffaith bod Pete yn gwrthod mynd i unman mewn limo pinc.

Ac yn fwy na hynny, mae yma berfformiadau ardderchog sy’n cludo’r comedi i’r uchelfannau, ac mi wna i son am y rheiny, hefyd – unwaith i mi stopio chwerthin.

22/11/08

 

Ry’n ni’n byw mewn oes o ail-becynnu ac ail-frandio, a dros y misoedd diwethaf, mae nifer o’n rhaglenni ni wedi cael eu haddurno mewn pob math o ffyrdd er mwyn rhoi’r argraff mai rhaglenni newydd sbon ydyn nhw. Fe aeth Chez Dudley yn Casa Dudley, trodd y Noson Lawen i fod yn Hwylio’r Noson Lawen, fe esblygodd Bandit i mewn i’w chwaer raglen Nodyn, ac fe aeth Jonathan yn Eleri ac Eleri yn Rowland ac Eleri. Y diweddaraf o’r ymdrechion hyn yw Bwrw’r Bar, sy’n ceisio’n darbwyllo nad y rhaglen Jonathan nac Eleri na Rowland (na Nigel) mohoni, er ei bod hi’n cynnwys yr un criw o gyflwynwyr, yr un gwesteion a’r un gynulleidfa feddw.

Fel ffan o natur di-chwaeth y rhaglenni blaenorol, ro’n i’n ddigon parod i dderbyn y rhaglen hon ar ei thelerau ei hun, sef fel rhaglen ysgafn i ddiddanu cynulleidfa segur nos Sadwrn. Ond buan iawn y teimlais ‘mod i’n gwylio ail-ddarllediad, wrth wrando ar Imogen Thomas yn camddeall pob cwestiwn, Rhydian Roberts yn esgus chwerthin am yr un hen jocs am X-Factor, a’r gynulleidfa yn gwichian bob tro y byddai ‘na fymryn o gerddoriaeth yn seinio. Ond mae ‘na ambell i elfen newydd – yn hytrach na’r arfer hwyliog o fynd ‘Ar y Pyst’ – y nod bellach yw cynnal rhyw ras wyllt i gyffwrdd y rhifau cywir, sy’n ymdebygu braidd i wers ymarfer corff mewn ysgol gynradd.

Yn anffodus, roedd yr adwaith arferol rhwng y cyflwynwyr ar goll yn y rhaglen hon, gyda phawb - ag eithrio Rowland Phillips - yn edrych fel eu bod nhw’n ysu am fynd adre. Efallai’n wir mai ‘Rowland’ sy’n haeddu bachu’r teitl y tro hwn...

15/11/08

 

Yr wythnos diwethaf fe ddarlledwyd y bennod gyntaf o’r gyfres ‘Ista’n Bwl’, ymdrech ddiweddaraf S4C i fynd i’r afael â’r technegau uwch-real y mae pob sianel arall wedi eu defnyddio eisioes. Mae hi’n cael ei hysbysebu’n wyliadwrus fel ‘drama ysgafn,’ gan osgoi’r gair cas - comedi - ar bob cyfrif. Os fyddai rhywun yn troi rownd a dweud ei bod hi’n ddoniol, yna dwi’n siwr y byddai’r criw cynhyrchu’n barod i arddel y gair cas, ac i dderbyn unrhyw glod a ddeuai yn sgil defnyddio’r gair hwnnw. Ond os ‘na – yna mae hen rwyd ddiogelwch y ‘ddrama ysgafn’ yno o hyd, gan roi digon o arfogaeth i’r cynhyrchydd pan fydd angen amddiffyn y rhaglen ar Taro’r Post.
 
Ymgais i adlewyrchu’r asbri a’r adwaith rhwng cymeriadau brith sydd yma, gyda’r sgript yn cael ei chwblhau ar y diwrnod darlledu er mwyn cadw’r cynnwys yn ffres. Ond mae angen ychydig mwy o ffresni na dal copi cyfredol o’r Cymro i fyny at y camera, neu gwneud degau o gyfeiriadau diflas at Jonathan Ross. Er bod y syniad yn un difyr ac uchelgeisiol, mae ‘na hyfdra anhygoel yn perthyn i’r cysyniad bod hi’n bosib creu sgript sy’n clecian o fewn ychydig oriau. Ffwndrus ac anystwyth oedd ymdrechion nifer o’r actorion i fyr-fyfyrio, a dim ond Llion Williams oedd fel petai wedi sylweddoli nad drama slapstic yn ymdebygu i ‘9 tan 9’ oedd hon i fod. 
 
Yr unig rhinwedd i raglen fel hon, hyd y gwela i, yw ei bod hi’n sicr o boblogeiddio ein tafarndai ni. Nid oherwydd y modd mae’r dafarn leol yn cael ei phortreadu yn ‘Ista’n Bwl’, ond am fod y dafarn leol yn ddihangfa llawer difyrrach.

08/11/08

 

Fe drawsnewidwyd Dewi Llwyd i ddimensiynau lliwgar yr wythnos hon, wrth iddo deithio o Gaerdydd i Fangor, nid ar hyd yr A470 di-enaid, ond ar hyd rhwydwaith o heolydd bras ar draws America. Nod y daith oedd cael barn bobl honedig-gyffredin ynghylch etholiad arlywyddol America, etholiad sydd bellach wedi denu sylw’r byd wrth i ni deithio’n nes at ddydd y farn, Tachwedd y 4ydd.

Roedd hi’n rhaglen safonol ar y cyfan, ag iddi naws fwy ymlaciedig na’r disgwyl – gyda Dewi Llwyd yn diosg y siwtiau ffurfiol er mwyn cyfweld yn chwareus mewn crysau haf. Yr unig drueni oedd nad oedd y daith ddaearyddol yn caniatau amrywiaeth ehangach o gyfranwyr, gan mai cyfraniadau digon bisâr a gafwyd ar y cyfan. Dyn o Amlwch gyda mohawk a dryll oedd yn honni nad oedd Obama’n deall “be ma’n meddwl i fod yn American,” dynes sy’n addysgu ei phlant gartref a sydd, fel Palin, yn erbyn erthyliad, tra bod nifer o’r cyfranwyr yn gwrthod gwneud penderfyniad y naill ffordd neu’r llall. I’r pegwn arall, cafwyd stori dorcalonnus tad a gollodd ei fab, ac oedd yn rhoi ei bleidlais i Obama er mwyn gwneud yn siwr na fyddai’r rhyfeloedd anghyfrifol yn parhau.

Fel rhywun sy’n gefnogwr brwd o Obama, fe fyddwn wedi gwerthfawrogi dyfnder ehangach i’r drafodaeth, a llai o bolareiddio, gan ‘mod i’n canfod fy hun yn gweiddi ar y sgrîn bob hyn a hyn. Ond dyna ni. Mae’n rhaid derbyn nad oes yr un amrywiaeth yn perthyn i heolydd America a sydd ‘na i’r hen A470, ac ymhen yr wythnos, fe fydd yr Unol Daleithiau wedi troi i ffwrdd o’r briffordd hirfaith hon, ac wedi mynd ei ffordd ei hun.

01/11/08

 

Wythnos o godi hwyl y bu hi’r wythnos hon; wrth i Aled Sam fynd i fyny’r Afon Nîl, a’r Noson Lawen i lawr y Fenai. Cafwyd dwy rhaglen bur wahanol i’w gilydd, wrth rheswm, gydag un yn llawn digrifwch a difyrrwch, a’r llall yn llawn o jôcs gwael gan gomedïwyr Cymraeg…

Yr wyf eisioes wedi sôn am rinweddau rhaglen ‘Yr Afon’, ac roedd hi’n ddiddorol clywed rhywun di-Gymraeg yn sôn yn ddiweddar iddynt gael ei denu at y rhaglen arbennig hon oherwydd safon a chlyfrwch ei marchnata. Mae hi’n rhaglen ag iddi sglein arbennig, ac mae hi’n amlwg fod yma dipyn o waith cynllunio. Gwnaed dewisiadau praff o ran lleoliadau, gan wneud ymdrech, hefyd, i osod cynnwys y rhaglen mewn cyd-destun diwylliannol. Roedd rhifyn Aled Sam yn un o’r goreuon hyd yma, wrth iddo ddilyn llwybr y Nîl Las o’r Aifft i’w tharddiad ym mynydd-dir creigiog Ethiopia. Dyma gyflwynydd sy’n gallu hwylio o raglen i raglen yn ddiffwdan, a braf gweld iddo gael caniatad i adael Cymru wedi treulio cyhyd yn crymu dan ei thoeon isel!

Roedd ‘Hwylio’r Noson Lawen’ yn arbrawf o fath gwahanol. Mae cynulleidfa’r rhaglen hon mor selog dwi bron yn teimlo y bydden nhw’n dilyn y Noson Lawen i unrhyw leoliad, mewn unrhyw fodd; boed hynny ar fws i’r stiwdio, ar gwch i lawr yr afon neu ar wennol i’r gofod. Braidd yn swreal oedd y profiad, gydag ymateb y gynulleidfa yn cyrraedd lefelau newydd o werthfawrogiad boch-goch, ac roedd ‘na rywbeth rhyfedd iawn am weld Gwibdaith Hen Frân yn canu ‘Trons Dy Dad’ yn eu siwtiau gwyn, gyda’r eironi yn raddol ddiflannu i lawr yr afon…

25/10/08

 

Dwi’n methu’n lân a phenderfynu ai Salon Imogen yw’r peth gwaethaf neu’r peth gorau dwi wedi’i weld ar S4C yn ddiweddar. Ar y naill llaw, dyma raglen cwbl disylwedd, arwynebol, yn cynnwys yr elfennau gwaethaf posib o’r diwylliant ‘seleb.’ Ond ar y llaw arall, ro’n i’n canfod fy hun yn chwerthin yn uchel mewn ambell fan, a dwi heb wneud hynny ers gweld Dai Jones yn mynd i mewn i bwll nofio.

‘Tasai’r rhaglen hon wedi cael ei sgriptio, fe fyddai ‘na elfennau o athrylith comedïol yn perthyn iddi. Roedd hi’n amlwg mor fas fyddai’r deunydd wrth wylio’r hysbyseb, lle y defnyddiwyd y dyfyniad bachog - “os byddai’n agor account heddiw, byddai’n cael, like, twenty percent off?” – er mwyn gwerthu’r rhaglen. Imogen Thomas yw’r unig ferch dwi erioed wedi’i chlywed yn defnyddio’r term “rhy gormod” heb ronyn o eironi, ac sy’n crio oherwydd bod drws yn rhy fach, a soffa’n rhy fawr. Gwell byth oedd cyfraniad tosturiol Sioned Mair, gyda’i hwyneb yn cuddio gwên, ac ymddangosiad ambell aelod o dim rygbi Cymru a gytunodd i gael triniaeth harddwch fel ffafr. Chwarae teg i Mike Phillips am gadw ei wyneb yn ddigon syth i allu esbonio fod ei aeliau ‘plyciedig’ yn sicr o wella ei gyflymder ar y cae.

Mae’n bosib y byddai cyfres gyfan o anturiaethau Imogen yr un mor abswrd. Imogen yn trio’i lwc fel cyfreithwraig. Imogen yn ceisio mynd i Landybie heb weud ie. Imogen yn ceisio gweithio allan sut i ad-dalu y budsoddiad o “12K” y gwnaeth hi sôn amdano o leiaf bum gwaith yn ystod y rhaglen. Ond wedi meddwl, mae’n bosib iawn y byddai hynny’n “rhy gormod”…

18/10/08

 

Dwi wrth fy modd gydag eithafiaeth S4C – ers misoedd dwi wedi bod yn teimlo fel ‘mod i’n ail-fyw’r ddwy flynedd ddiwethaf trwy gyfrwng ail-ddarllediadau dibendraw, a nawr, dwi’n teimlo fel ‘mod i’n cael fy ngadael ar ôl gan ddeunydd newydd sy’n llifo heibio imi ar ras, megis afonydd mwya’r byd. Ond o leiaf mae’r gyfres ‘Yr Afon’ yn ddogfen sydd yn gwbl wreiddiol ac yn ffres-ei-hagwedd, gyda’r cyflwynwyr amrywiol yn ategu rhywbeth difyr bob tro.

Nid yn unig ry’n ni’n cael ein sbwylio gan ddogfennau ffeithiol, ond wythnos union wedi Omlet, dyma ni’n cael addasiad ffilm arall, sef addasiad o stori-sydyn Caryl Lewis, Y Rhwyd. Cefais fy hudo gan awyrgylch fodern, ddeinamig y ffilm hon, a oedd yn glyfar, yn graff, yn dywyll ac yn cynnig rhywbeth gwirioneddol newydd o ran ei hapêl a’i hedrychiad. Cafwyd cast gwych – gyda Mali Harries a Rhodri Evan yn cario’r cyfanwaith. Do’n i ddim yn hollol siwr am ddiweddglo rhagweladwy’r ffilm, chwaith, am fod y diwedd ‘taclus’ hwnnw yn tynnu oddi ar finiogrwydd y ffilm rhyw fymryn. Fel yn achos Omlet, efallai bod angen ail-ystyried sut mae naratif yn gweithio o fewn fframwaith fwy sinematig, gan fod y cyfrwng gweledol yn dueddol o gau’r bylchau a osodwyd yno mor fwriadol a chywrain gan yr awdur.

Ond roedd y ffilm yn sicr yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol ein dramâu cyfoes, ac yn enwedig ar gyfer ffilm arall o eiddo’r awdur – sef Martha, Jac a Sianco – a fydd yn ymddangos ar y sgrin fach ymhen dim. Dim ond gobeithio y bydda i wedi llwyddo i wneud cyfiawnder â’r degau o raglenni eraill sydd i ddod yn y cyfamser!

11/10/08

 

Cafwyd rhaglen ddogfen unigryw yr wythnos hon yn olrhain hanes Steffan Hughes, a fu’n dywysydd yn y Gemau Paralympaidd. Fel yr awgryma teitl y ddogfen – Law yn Llaw – roedd y ffocws ar rol y tywysydd, a’r her a oedd yn ei wynebu wrth wneud yn siwr fod y rhedwraig ddall, Tracy Hinton, yn llwyddo yn ei champ. Yn wahanol i nifer o’r campau eraill, mae rhedwraig ddall yn dibynnu ar dywysydd i fod yn bâr o lygaid, yn gyd-rhedwr, ac yn gorff cymesur.

Yr hyn a lwyddodd i wneud y ddogfen hon yn gofiadwy oedd gonestrwydd a didwylledd Steffan wrth gyfathrebu â’r gynulleidfa – a hynny nid yn unig mewn cyfweliadau huawdl, ffurfiol ond mewn sylwebu personol, ingol-o-onest i’r camera llaw. Mae’n cymryd math arbennig o berson i fod mor driw ynghylch ei deimladau o rwystredigaeth a siomedigaeth, ac roedd cryfder cymeriad Steffan yn rhoi grym arbennig i’r ddogfen. Roedd yma waith camera da, hefyd, a oedd yn cynnwys golygfeydd bendigedig, ac fe osodwyd y golygfeydd hynny o fewn strwythur naratif clir a phendant.

Nid yr un fu’r hanes gydag Omlet, serch hynny – sef addasiad ffilm Nia Medi o’i nofel ddiweddar. Cryfder y nofel i mi oedd y ffraethineb a’r ffresni yn y sgwennu, wrth i’r awdur greu darluniau a chymeriadau trawiadol trwy gyfrwng geiriau. Mae’n bosib iawn fod trosglwyddo’r naratif i’r sgrin wedi golygu tynnu’r wyau i gyd allan o’r fasged a rhoi wy yr un i’r actorion, y criw camera, y tim cynhyrchu a’r cyfarwyddwr, gan ofyn yn garedig iddyn nhw beidio a’u gollwng nhw. Ond, yn anffodus, nid pawb sy’n meddu ar y ddawn o gadw’r wy-ar-y-llwy…

04/10/08