Articles: July - September 2008

Mae Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi tyfu bellach i fod yn rhyw fath o X-Factor ar gyfer S4C, ond gyda’r bonws ein bod ni’n hepgor y rowndiau cyntaf. Dy’n ni ddim, er enghraifft, yn mynnu dangos rhagbrofion aflwyddiannus, a dy’n ni ddim hyd yn oed yn dangos perfformiadau’r rheiny a ddaeth yn ail neu’n drydydd, dim ots pa mor glodwiw. Na, mae ein safonau ni fel cenedl llawer uwch na hynny, gan sicrhau fod y rheiny sy’n ymgiprys am yr ysgoloriaeth eisioes wedi cyrraedd safon arbennig.

Roedd tri yn sefyll allan eleni yn fy nhyb i; Tudur Phillips, a’i ddyfeisgarwch a hiwmor wrth foderneiddio’r ddawns werin, Mared Emlyn a’i awen gerddorol yn cynnau’r piano, a’r enillydd, Rhian Lois Evans, a lwyddodd i arddangos proffesiynoldeb, disgyblaeth, ac aeddfedrwydd llais hynod. Ar ben hynny, llwyddodd y cynhyrchiad i gadw’r naws yn ysgafn ac yn ddeinamig; gan wneud ymdrech bwrpasol i gynyddu proffil y gystadleuaeth ar gyfer cynulleidfa iau, yn ogystal â chynnig pecyn safonol ar gyfer y to hyn. Roedd dewis Elin Fflur fel ‘angor’ i’r rhaglen (yn hytrach na’r rhywun-rhywun arferol) hefyd yn gam clyfar – gan bod ei phrofiad cerddorol yn cynnig rhyw agosatrwydd a pherthnasedd arbennig.

Er ‘mod i mewn peryg o swnio fel hen famgu fan hyn – mae’n braf gweld talentau’r to ifanc yn dominyddu’r sgrin fach yn nosweithiol, yn enwedig ar ddiwedd wythnos lle bu pryderon am eu hiaith a’u hagwedd. Cyn belled a’n bod ni’n parhau i’w denu at ein sianel gyda chyfleoedd gwych fel yr ysgoloriaeth hon, gan gyflwyno’r cyfleoedd hynny mewn modd atyniadol, fe fydd yr X-Factor – a’i rhagbrofion gwael - wedi mynd yn angof.

27/09/08

 

Yn dilyn ei chyfnod fel bardd plant Cymru, fe leisiodd Caryl Parry Jones y farn fod safon y Gymraeg yn dirywio o fewn ysgolion Cymru. Roedd hi’n gwybod wrth wneud hynny, ei fod e’n destun tabw i sawl un, ac mae’n rhaid edmygu ei dycnwch a’i dewrder wrth dynnu sylw’r cyfryngau at y pwnc llosg hwnnw.

Ro’n i wedi disgwyl y byddai’r rhifyn yma o Taro 9 yn dilyn y patrwm rhagweladwy arferol; cynnal ambell gyfweliad, dangos ambell glip dogfennol cyn lluchio’r cwestiwn (a’i ateb amhosib) i isymwybod y gwyliwr gydag un troslais dramatig i orffen. Ond yn hytrach, cafwyd ymdrech i greu rhaglen llawer mwy swmpus na hynny, yn cynnwys panel o sylwebyddion. Fel arfer, cafwyd ymatebion gonest gan y rhan fwyaf, a’r aer poeth arferol gan y Bwrdd Iaith. Ond nid oedd yr egin-Pawb-a’i-Farn hwn yn caniatáu amser i ddadansoddi’r sefyllfa go iawn nac i roi darlun cytbwys, gan mai cyfres o sylwadau unigol a wnaed yn hytrach na gadael i’r panel ymateb i sylwadau ei gilydd. Gwnaed cam, hefyd, a’r ddau wr ifanc ar y panel, a phobl ifanc yn gyffredinol, wrth beidio a rhoi cyfle iddyn nhw ymateb yn fwy uniongyrchol i’r honiad.

Dy’n ni ddim yn debygol o ddatrys dim mewn hanner awr o raglen, yn enwedig un nad yw’n archwilio deinameg iaith pobl ifanc Cymru yn ei holl amrywiaeth. Ac er fod ‘na barodrwydd yma i gyfrannu at y drafodaeth, mae angen gadael llonydd i bobl ifanc a dechrau trafodaeth ehangach am y grymoedd sydd angen arnom fel cenedl er mwyn diogelu’r Gymraeg, cyn y gallwn sicrhau bod iaith y sgrin yn ôl yn ein stafelloedd byw.

20/09/08

 

Fy enw i yw Fflur Dafydd a dwi’n gaeth i Wedi 7. Dyna ni. Dwi ‘di’i ddweud e o’r diwedd ac mae’n deimlad braf cael cyffesu. Dros y blynyddoedd ddiwethaf, gyda chymaint o newidiadau yn cael ei wneud i’r amserlen, mae Wedi 7 wedi darparu hafan glyd, brydlon i rywun sy’n credu mewn trefn; neu i rywun sy’n credu mewn anhrefn, yn ddibynnol ar bwy yw’r gwestai yn y stiwdio, wrth gwrs. Bellach mae’n rhyw fath o gyffur imi, dwi’n gorfod cael fy mhilsen goch ar ffurf llythrennau Wedi 7 yn nosweithiol, neu wna i ddim cysgu.

Ond yr wythnos hon, mae’n rhaid imi gydnabod bod fy nibyniaeth wedi cyrraedd lefel arswydus. Ar ôl cyfnod o weithio adre, dwi ‘di croesi’r llinell. Dwi ‘di dechrau gwylio Wedi 3. Wel, tan y toriad cyntaf, o leiaf. Cyn bo hir fydda i’n chwilio am esgus i fynd i’r lolfa am dri o’r gloch ac yn cael te-hufen-hirfaith yn ddefodol bob dydd. Fe fydda i’n un o’r rheiny sy’n edrych ymlaen at weld John Hardy yn cyflwyno mewn arddull traed-ar-ddesg tra bod Elinor yn perffeithio’r grefft o edrych ar ei wats a’r autocue ar yr un pryd.

Mae hyn i gyd wedi digwydd am fod fy nghymar wedi cyfyngu’r dôs o Wedi 7 lawr i hanner rhaglen yn unig, er mwyn cynorthwyo gyda fy ngwellhad. Ond fedrith merch ddim byw ar hanner Wedi 7, a dyna pam mae’n rhaid trio gwneud lan am hanner Wedi 7 gyda chwarter Wedi 3. A fûm i erioed yn dda iawn gyda mathemateg ond dwi’n siwr nad yw hynny’n gwneud cyfanswm synhwyrol, hyd yn oed i jynci fel fi.

13/09/08

 

Agorwyd drysau’r cwpwrdd dillad yr wythnos hon drachefn, wrth i’r gyfres boblogaidd ddychwelyd am gyfres arall, gyda’r Ty Cymreig yn dynn wrth ei sodlau-stileto. Mae adolygu un o’r ddwy rhaglen hon wastad yn gwneud imi deimlo ‘mod i’n troi mewn cylchoedd, a hynny’n fwy fyth pan na allaf i ddod o hyd i bethau negyddol i’w ddweud am y naill na’r llall. Mae’r cyfresi’n parhau i fynd am eu bod yn parhau’n sylweddol ac yn weledol-apelgar, â’r safon yn codi’n uwch gyda phob brethyn neu fricsen sy’n cael ei osod yn dwt o flaen ein llygaid.

Yr wythnos hon cafwyd clyfrwch gweledol a sylwedd arbennig unwaith yn rhagor, wrth dwrio yng nghypyrddau tri mor wahanol â’r maestro Owain Arwel Hughes, y pync-rocar Efa Thomas, a’r wraig rygbi chwaethus Maureen Edwards. Gwelwyd ôl cynllunio arbennig ar bob un eitem, gydag eitemau Owain yn bennaf yn yr awyr agored, neu yn erbyn cefnlen glasurol; tra bod Efa yn swatio yng nghlydwch tywyll ei llofft, a Maureen yn hamddena yn ei gardd yn ei dillad gorau. Cafwyd hiwmor a gweledigaeth yn y cynhyrchu a’r gwaith camera; bron nad yw pob un eitem yn ffilm fer, gelfyddydol, gain – sy’n parchu’r cyfranydd a’r cyfraniadau yn llwyr, ac yn dehongli gofod mewn ffordd ddeallus sy’n codi uwchlaw raglenni ffordd-o-fyw ar sianeli eraill.

Felly dyma fi, unwaith eto, yn gwenieithu am yr hen gwpwrdd (ac mi allwn draethu am harddwch tai Maesyfed, hefyd, ond dwi’n dal yn ôl y tro hwn), tra fy mod hefyd yn crefu am y newydd-deb a ddaw gyda’r Hydref, fel na fydd yn rhaid i mi droi mewn cylchoedd mwyach, er mor chwaethus y cylchoedd hynny.

06/09/08

 

Bob hyn a hyn fe fydd ‘na gwis yn ymddangos ar S4C sydd yn amlwg wedi ei gynllunio’n fanwl, wedi costio’n ddrud i’w wneud, ac wedi ei gynhyrchu’n raenus – ond eto sy’n gwneud dim synnwyr o gwbl. Rhywbeth felly yw 0 ond 1, cwis tramor ei naws sy’n ceisio bod yn eangfrydig ond sy’n portreadu gwledydd tramor mewn ffordd mor elfennol mae’n ymylu ar fod yn sarhaus (yn ôl y troslais, mae’r haul yn Ne Affrica, mae Sion Corn yn y Ffindir, ac mae Jamaica yn llawn cerddoriaeth.) Ar y llaw arall, mae’n llwyddo i bortreadu’r Gymraeg yn bositif fel iaith fyd-eang, ac mae’r cystadleuwyr oll yn deithwyr brwd a phrofiadol sy’n barod i rannu straeon.

Mae’r cyfan wedi ei lywio’n broffesiynol-ddigon gan Nia Parry a Morgan Jones, sy’n ceisio’u gorau i gadw’r naws yn ysgafn, tra bod Rhys ap William, i’r gwrthwyneb, yn trosleisio fel tasai’n godwr pwysau ar drothwy gornest ei fywyd. Mae’r set afreal yn cynnwys ‘pont’ cwbl ddiangen sy’n rhaid i’r cystadleuwyr ei chroesi wedi iddyn nhw golli eu lle ar y llwyfan, (mae’n amlwg nad oedd digon o arian yn y pot i gael llyn gyda chrocodeilod oddi tano), a hyd yn oed os ydyn nhw’n cyrraedd y rownd derfynol, mae ‘na siawns go lew i Gymro ‘oddi cartref’ (sydd wedi bod yn eistedd adre gyda’i draed i fyny nes hynny) ddwyn y cyfan am ei fod e neu hi yn digwydd gwybod enw cân gan y Proclaimers.

Ond dyna ni, nid Mastermind mohono, ac i’w roi yn ei gyd-destun, mae e’n llai dwl na Tipit ac yn llai brawychus na Risg. Ond serch hynny, wneith e fyth rhagori ar Jacpot!

30/08/08

 

Braf oedd gweld un wyl yn cael sylw o fath gwahanol mewn dogfen yr wythnos hon – wrth i ni gael cyfle prin i fwrw golwg dros hanes a datblygiad Gwyl Jazz Aberhonddu. Fel mewn nifer o ddigwyddiadau eraill sydd yn agos at y ffin ac sydd ag apêl rhyngwladol – mae’n braf gweld nad yw’r elfen Gymreig yn cael ei cholli’n gyfangwbl ynghanol y digwyddiadau hynny, gyda artistiaid fel Osian Roberts, Huw Warren a’r triawd jazz Burum yn sefyll ochr yn ochr â’r cewri, ac yn ennill eu lle gyda pherfformiadau o safon arbennig. Roedd y cyfweliadau hefyd yn cynnig dyfnder i’r ddogfen, gan fod y cerddorion hyn oll yn bobl sydd â diddordeb brwd yn yr wyl ei hun, ac yn gallu cynnig gweledigaeth a phrofiad wrth drafod ei chyd-destun diwylliannol.

Rhaglen arall ‘rhyngwladol’ ei naws oedd y gyfres newydd Chwa, rhaglen i bobl ifanc sy’n dilyn cystadlaethau chwaraeon eithafol. Dyma faes sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n amlwg fod y rhaglen hon yn rhyw fath o ymdrech i adlewyrchu hynny, a hefyd i gyflwyno pecyn byrlymus, ifanc, lled-wallgof-ei-apêl. Yn y fan hon, serch hynny, mae’n amlwg y gwnaed ymdrech wan i geisio addasu a chyfieithu’r cynnwys, gyda’r troslais a’r is-deitlo yn swnio’n llafurus ac yn glogyrnaidd.

Cafwyd hefyd rhifyn arbennig o’r Sioe Gelf yr wythnos hon, yn dilyn Gai Toms wrth iddo droedio’r tir ‘Rhwng y llygru a’r glasu’ wrth greu ei albym eco-gysyniadol newydd, gan ddefnyddio deunyddiau ‘gwyrdd’ yn unig. Fel y CD ei hun, dyma raglen aml-haenog, a oedd yn codi cwestiynau pwysig am gynaladwyedd y broses ‘werdd,’ a fydd yn sicr yn ategiad pwysig at dymor amgylcheddol y sianel.

23/08/08

 

Mae hi’n dymor ail-ddarlledu, gyda phob noson ar ein sianel yn cynnig y gybolfa arferol o raglenni a ddioddefwyd eisioes – yn fflach o liw a heulwen pan fo’r awyr ‘go iawn’ yn llwyd. Rhaid mai ni yw’r unig genedl yn y byd sydd yn mynnu ‘mwynhau’ uchafbwyntiau yr un digwyddiad am flwyddyn gron, gan odro’r diferion lleiaf o gyffro’r Sioe Fawr, yr Eisteddfod Genedlaethol, Sesiwn Fawr Dolgellau, Y Faenol ac Eisteddfod yr Urdd yn ara’ deg dros gyfnodau hesb yr Haf. Ond os y’n ni’n benderfynol o grafu gwaelod y gasgen fel hyn, onid oes modd i ni ymestyn ymhellach i’r gofod du a dechrau cyflwyno’r isafbwyntiau? Glaw Eisteddfod Caerdydd, faux pas cyhoeddus ambell i seleb, perfformiadau gwael gan gewri’r sin roc, mae ‘na hen ddigon o ddeunydd pe bai rhywun yn ddigon dewr i dwrio amdano!

Dim syndod, felly, mai byngalo yw’r peth mwyaf cyffrous imi ei weld ar y sgrin yr wythnos hon, a hynny mewn rhifyn arbennig o’r Ty Cymreig. Dyma raglen sy’n cynnig achubiaeth gyson imi pan fydd pethau’n llwm arnaf o ran difyrrwch, a bob tro, dwi’n rhyfeddu cystal yw’r safon, ac mor ddifyr yw’r cynnwys. Unwaith eto, cafwyd cyfuniad deallus o raglen hanesyddol a raglen ffordd-o-fyw, ac fe fûm i’n canfon ceinder o fewn onglau twt, gan deimlo’n freintiedig i gael swatio mewn sawl gofod bach, a deall pam fod rhai yn honni mai trigolion byngalos yw’r hapusa’ ym Mhrydain.

Dyma fy uchafbwynt personol i yr wythnos hon, beth bynnag - neu isafbwynt, i fod yn fanwl gywir gyda’r mesuriadau. A yw hi’n werth i ni ystyried, felly, mai isafbwyntiau yw’r uchafbwyntiau newydd?

16/08/08

 

Fe fu hi’n wythnos ddifyr a chelfyddydol-gyfoethog yng Nghaerdydd yr wythnos hon – a diolch byth fod gennym ni S4C i adlewyrchu hynny, gan mai prin iawn oedd y sylw a gafodd yr Eisteddfod yng nghanol y ddinas. Fe fyddai’n hawdd iawn i rywun ymweld â’r ddinas heb syniad fod yna wyl anferthol yn ei chrombil – yn wahanol iawn i’r hw-ha sy’n digwydd bob tro fydd gêm rygbi yn cael ei chynnal.

Cafwyd rhaglenni nosweithiol swmpus, fel arfer, gyda Rhun Ap Iorwerth yn ein tywys o gwmpas yn ei arddull cynnes, prif-fachgennaidd arferol, gan ddirprwyo sawl digwyddiad i’w dîm cyflwyno afieithus. Yr oedd y darlledu o’r Babell Lên hefyd yn safonol, ac fe fyddai’n dda gweld rhagor o ddatblygiadau tebyg i hyn – gydag arlwy Theatr y Maes a’r Llwyfannau Perfformio hefyd yn cael sylw dyledus ar y sgrin fach.

A hithau bellach yn ddiwedd wythnos, braf yw cael bwrw golwg yn ôl ar rai o uchafbwyntiau’r wyl. Fel arfer, dwi’n sgwennu hwn ar drothwy prynhawn dydd Mercher, heb wybod pwy fydd gweddill enillwyr y prif wobrau llenyddol, ond gyda balchder arbennig o weld dau lenor ifanc yn dod i’r brig, gyda Hywel Griffiths yn cipio’r Goron a Ifan Morgan Jones yn cipio gwobr goffa Daniel Owen. “Ma’n neud fi’n sâl,” ebe Bethan Gwanas o’r soffa ddydd Mawrth, gan gyfeirio at gamp hynod Ifan Morgan Jones wrth gyfansoddi nofel ffantasïol anarferol, ag yntau’n 24 oed. Ond mor dda yw gweld – mewn oes sy’n gallu bod mor negyddol am barhad ein diwylliant hynod – fod ‘na ddiddordeb ymhlith y llenorion ifanc, sy’n sicr o wneud i’r to hyn grynu yn eu wellingtons gwyn.

09/08/08

 

Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol, fe aeth Llwyd Owen ar daith trwy isymwybod Caerdydd ar ei feic bach melyn, gan ymddangos ychydig yn llai bygythiol nag angylion uffern ei nofel ddiweddara’, a llawer mwy huawdl. Fel awdur a chyflwynydd y rhaglen, roedd hi’n amlwg o’r cychwyn cyntaf fod ganddo syniadau pendant am ba drywydd yr hoffai gymryd, wrth iddo wau ei ffordd trwy lwybrau amgen y ddinas, gan chwilio am y cilfachau a’r cysgodion.

Oherwydd natur anffurfiol y rhaglen, cafwyd safbwyntiau diddorol gan amryw o gyfranwyr, gyda chyfraniadau Geraint Jarman a Nia Wyn Jones yn gosod y ddinas mewn cyd-destun diwylliannol diddorol iawn, a hynny o safbwynt dau artist sy’n gweithio mewn meysydd gwahanol dros ben – y naill yn gerddor ac yn fardd sydd yn ddinesig-ei-weledigaeth, a’r llall yn artist mewn metel, sydd yn elwa o’r twf a’r bwrlwm cyfredol sydd yn y ddinas. Roedd hi hefyd yn braf clywed yr hyn oedd gan Lloyd Robson i’w ddweud, fel awdur sydd wedi dylanwadu’n drwm ar waith Llwyd ei hun – ac roedd gweld y ddau ‘Lwyd’ yn cerdded gyda’i gilydd fel gweld personoliaeth ddeuol y ddinas yn cael ei ymgorffori yn y fan a’r lle – er ‘mod i’n gresynu’r ffaith fod Lloyd wedi parchuso, a wedi torri’i wallt – gan ddinistrio’r elfen doppelgänger-aidd, braidd.

Dyma raglen hynod addas i’n paratoi ar gyfer wythnos o ddathlu yn y ddinas, wrth i’r pafiliwn pinc agor ei ddrysau unwaith eto i gynulleidfa newydd. Ac er ein bod eisioes yn gyfarwydd â’r hen le, mae’r wythnos hon yn gyfle prin i’w ddarganfod o’r newydd, wrth i ni droi y strydoedd i gyd yn gae ‘Steddfod.

02/08/08

 

Am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, do’n i ddim ym mwrlwm y Marian i wylio perfformiadau byw Sesiwn Fawr Dolgellau, ond yn hytrach yn gwylio’r uchafbwyntiau adre. Ac fel rhywun sydd wedi mwynhau sawl perfformiad byw ‘mond i glywed gan rywun wedyn ei fod yn ofnadwy ar deledu, roedd yn rhaid goddef (a maddau) ambell frycheuyn cerddorol mewn swig sydyn o win, gan atgoffa fy hun nad yw’r nodau amhersain hynny yn berthnasol i’r rheiny ynghanol y dorf, am eu bod nhw’n rhy brysur yn canu mas o diwn eu hunain.

Wedi dweud hynny, cafwyd sawl perfformiad godidog a chofiadwy. Mae’r cyfryngau wedi rhoi cymaint o sylw i ymddangosiad ‘hir-ddisgwyliedig’ Endaf Emlyn dros yr wythnosau diwethaf, nes ‘mod i bron yn rhy nerfus ar ei ran i wylio’r digwyddiad. Ond dyma gerddor hudolus, diymhongar, addfwyn a roddodd wledd o gerddoriaeth melodig a chynnes a chyfoethog-ei-wead i ni, a swynodd y rheiny’n sefyll yn stond o’i flaen, yn ogystal â’r rheiny ar soffas ledled Cymru. Band arall a lwyddodd i drosglwyddo’r perfformiad byw yn llwyddiannus i deledu oedd Gwibdaith Hen Frân, ac wrth feddwl fod teledu yn dueddol o ddofi egni cerddorol, a gwneud iddo ymddangos yn llai na’r hyn ydyw, dwi bron a dychryn wrth feddwl faint o egni oedd yng ngwythiennau’r band go iawn!

Yn gwau’r cyfan at ei gilydd yr oedd llais llorweddol Owen Powell a gwên blygeiniol Lisa Gwilym, ac er fod yr ymgais i efelychu arddull Glastonbury ychydig yn ffuantus ar brydiau, cafwyd sylwebaeth ddifyr a deallus, ac ymdrech i wneud i chi deimlo eich bod chi yn ei chanol hi, nid ar yr ymylon.

26/07/08

 

Bob hyn a hyn, fe fydd rhywun yn dadlau achos dros ddarlledu Hacio yn ystod yr oriau brig. A bob tro, dwi’n amheus-ddigon ohoni wrth droi’r teledu ymlaen, a hynny’n bennaf am fy mod i’n dal i gofio’r rhifynnau cynnar. Roedd hi, ac yn wir, y mae hi, yn rhaglen sydd yn targedu pobl ifanc yn bennaf, ac roedd hi’n arfer gwneud hynny trwy ddulliau amgen o ffilmio, diffyg cynhyrchu, diffyg ffocws (a dwi’n sôn am gynnwys a chamerâu) a chast rhyfedd o gyflwynwyr lled-hysterig.

Ac er ‘mod i lond fy nghroen o ragdybiaethau, buan iawn y toddodd fy amheuon yng nghwmni dau gyflwynydd graenus, hunanfeddiannol, sef Lisa Haf a Gwyn Loader. Hawdd iawn anghofio, am unwaith, mai cyflwynwyr ‘ifanc’ a oedd wrth y llyw, heblaw am y ffaith fod ganddyn nhw’r hyder i herio gwleidyddion, lle fyddai sawl cyflwynydd hyˆn wedi methu. Yn fwy na hynny, roedd y rhaglen wedi ei chynhyrchu’n ddeallus, gan roi cyd-destun polisi i’r materion dan sylw, a chan osod y materion mewn fframwaith Ewropeaidd. Yn hynny o beth, roedd hi’n rhaglen dipyn yn fwy blaengar o ran ei thrafodaeth na’r rhifyn dof o CF99 a’i dilynodd.

Ond wedi dweud hynny, mae ‘na olion o’r hen Hacio yno o hyd. Dyma raglen i bobl ifanc sy’n achlysurol yn gorfod ffugio ei bod hi’n rhaglen i bawb, a hynny trwy fod yn ddogfennol-blaen, gyda’r islais lleiaf o hunaniaeth ifanc yn y gerddoriaeth gefndirol. Yn fy nhyb i, fe fyddai’n rhaglen dipyn cryfach pe bai modd ei phecynnu yn fwy penodol a deniadol, er mwyn pwysleisio ymhellach ei hâpel ifanc a’i hasbri crafog, a hynny’n ddigyfaddawd.

19/07/08

 

Gyda ail-gylchu yn thema sy’n cael ei hail-gylchu yn gyson y dyddiau ‘ma, ro’n i wedi osgoi gwylio ‘Popeth yn Wyrdd’ tan yr wythnos hon, gan feddwl mai’r un hen syniadaeth a fyddai wrth wraidd y rhaglen. Ond nid felly y bu – gyda Ifor ap Glyn wrth y llyw-ffug fel rhyw gymysgedd cynnes a gwallgo’ o Louis Theroux a Dewi Pws – cafwyd rhaglen ddifyr, afieithus, a chynhyrchiol, a lwyddodd i rhoi ffresni arbennig i’r pwnc.

Yr hyn a oedd yn fwyaf trawiadol am y rhaglen hon oedd ei slicrwydd. Yn rhy aml o lawer y mae rhaglenni ffeithiol neu ddogfennol yn lafurus o hirhoedlog wrth geisio ymdrin â’r hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud – gan ddefnyddio tactegau gweledol i lenwi amser a gofod pan nad oes fawr o ddim yn digwydd ar y sgrin. Ond yn achos y rhaglen hon, yr oedd y dyfeisiadau hynny yn rhai pwrpasol, a oedd yn gwthio naratif y rhaglen ymlaen yn ddiymdrech. Braf oedd gweld fod egwyddorion ‘Popeth yn Gymraeg’ hefyd yno fel is-destun i’r cynnwys, gyda sawl cyfrannydd yn cael cyfle annisgwyl i ddefnyddio’r Gymraeg, gan edrych yn hynod falch o gael y cyfle i wneud.

Roedd ‘na gyffyrddiadau hyfryd eraill, hefyd, fel gweld ‘bws cerdded’ un o’r ysgolion cynradd yn lwybr melyn ar hyd y ffordd, a chael y cyfle i gydbwyso hynny gyda’r bysus ‘go iawn’ sydd yn teithio trwy gefn gwlad Cymry. Yn fwy na dim, ro’n i’n teimlo fod yma rhaglen hafal, realistig, nad oedd yn bregethwrol mewn unrhyw ffordd ond un a oedd yn benderfynol o newid agwedd ei chynulleidfa – ac un sy’n debygol o wneud hynny, hefyd.

12/07/08

 

Cafwyd rhifyn syfrdanol o’r Byd ar Bedwar yr wythnos hon, a fu’n ymchwilio i’r broblem gynyddol o ymddygiad gwrth gymdeithasol ymhlith pobl ifanc. Cyflwynwyd y mater mewn modd digon amrwd, gyda’r bwriad, am wn i, o greu argraff ddofn ar y gynulleidfa, a’n syfrdanu gyda’r canfyddiadau.

Yn sicr roedd hi’n syndod i mi fod cymaint o bobl ifanc mewn un ardal wedi derbyn tagiau, cardiau melyn ac ASBOS, ac roedd hi hefyd yn rhyfeddod i weld mor ddu a gwyn oedd agwedd yr awdurdodau a’r dioddefwyr ynghylch yr hyn y dylid ei wneud i gosbi’r troseddwyr. Ar ddiwedd y dydd, plant yw’r troseddwyr hyn, nid oedolion, ac mae hynny’n rhywbeth i’w archwilio a’i ddadansoddi’n fanylach. Yn sicr ni wnaed ymdrech i ehangu’r drafodaeth o fewn y rhaglen hon, ond mae’n bosib iawn mai rol y rhaglen yw cyflwyno’r sefyllfa fel y mae, fel y gall esgor ar drafodaeth fanylach maes o law.

Ar y llaw arall, y mae ieuenctid yn cael ei gynrychioli a’i ddathlu mewn ffyrdd llawer mwy positif ar hyn o bryd, a braf yw gweld y “Cyw” yn clwcian, gyda’r gwasanaeth newydd i blant bach yn tystio i ymroddiad y sianel i fagu cynulleidfa newydd. Dyma i ni ddarpariaeth gynhwysfawr a chreadigol i blant bach sydd bron yn gwneud i mi eiddigeddu wrth blant Cymru eu bod yn derbyn y fath sylw a safon! Mae’r rhaglenni’n egniol ac yn amrywiol, ac mae ‘na hefyd wefan hynod liwgar a diddorol sy’n ategiad pwysig i’r gwasanaeth. Ac mae hyd yn oed hen iâr fel fi yn canfod fy hun yn canu “Helo Cyw” yn ddiddiwedd!

05/07/08