Articles: January - March 2009

Rhun a’r Rhufeiniaid sydd gen i dan sylw yr wythnos hon, a hynny mewn cyfres hanesyddol o fath gwahanol iawn. Er ein bod yn hen gyfarwydd â chael ein llethu gan gyfresi hanesyddol dibendraw am hanes Prydain Fawr o safbwynt Lloegr – a hynny fel arfer ‘ar ran’ y deyrnas honedig-unedig – mae’n wych o beth i gael cyfres sy’n perthnasoli’r hanes cynnar hwn o fewn cyd-destun Cymreig, gan ein tywys yn ôl i gyfnod yr hen Brydain a’r Brythoniaid.

Rhun ap Iorwerth sydd wrth y llyw, yn cyflwyno’r deunydd mewn modd awdurdodol ond ymlaciedig, fel athro hanes ar ei awr ginio - gan ein hargyhoeddi’n llwyr fod ganddo gymaint o ddiddordeb yn y pwnc ag sydd gan ei sylwebyddion craff. Cafwyd cyflwyniad pwysig a lliwgar i nifer o’n harwyr coll – fel Buddug a Caradog – ac ymdrech i ateb nifer o gwestiynau dyrys ynghylch agweddau ac arferion y Rhufeiniaid pwerus.

Strwythurwyd y ddogfen yn hynod ofalus hefyd, gan roi naratif clir i bob un rhaglen, gan wneud y pecyn yn un hynod afaelgar. Cafwyd pob math o haenau gwahanol – â’r rheiny wedi eu rhannu’n hafal rhwng sylwebaeth, delweddau, ac ambell i ddehongliad dramatig. Ac er bod dramateiddio deunydd hanesyddol fel arfer yn gallu edrych yn amaturaidd, cafwyd cyfarwyddo gofalus fan hyn i sicrhau eu bod yn taro’r nodyn cywir gyda’r golygfeydd hanesyddol.

Ac er ein bod eisioes yn gwybod sut mae’r stori’n gorffen – mae’r rhaglen hon yn gofnod pwysig o ddechrau ein hanes, gyda’r ffaith ein bod wedi cael y cyfle i brofi hynny trwy ein hiaith a’n golygfeydd ein hunain yn gam pwysig ymlaen, yn ogystal ag yn ôl.

28/03/09

 

Mae Mosgito, fel mae’r teitl yn awgrymu, yn un o’r rhaglenni hynny sy’n sleifio i fyny ar rywun, yn creu stwˆr uwch eich pen na fedrwch ei anwybyddu. A’r wythnos hon, ces fy mrathu.

Er ‘mod i’n cofio gwylio rhai o’r penodau cyntaf, a theimlo ei bod hi heb setlo fel cynhyrchiad byw – roedd hi’n braf dychwelyd ati a gweld fod ‘na ffocws ac egni pendant yno erbyn hyn, gyda pob dim - o’r graffeg hynod fodern i’r gerddoriaeth agoriadol pigog, yn cysylltu’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, ac yn cynnig rhywbeth gwahanol eto i Uned 5 neu Ffeil. Yn y rhifyn arbennig ar gyfer ‘Comic Relief’ cafwyd ymdrech i daflu’r rhwyd yn eang iawn, gan gynnig popeth o gomedi ysgafn i chwaraeon, gan gynnwys hefyd eitem hwyliog am yr Eidal. I’r pegwn arall, cawsom glywed am Sbectrwm, rhaglen sy’n codi ymwybyddiaeth ymhlith plant, pobl ifanc ac athrawon am gamdrin seicolegol – a’r cyfan yn cael ei drosglwyddo mewn modd syml, heb fod yn nawddoglyd.

A’r peth pwysicaf oll am y rhaglen hon yw mai plant a phobl ifanc sydd wrth y llyw. Er bod afiaith egnïol y cyflwynwyr Ifan a Trystan yn greiddiol i lwyddiant y rhaglen, mae’n braf mai plant (neu plant mawr, fel Iwan John) yw’r gwesteion gan amlaf, a nhw, hefyd, sy’n cyfrannu at nifer o’r eitemau, fel yr eitem hyfryd gan Llion am y newyddiadurwr chwaraeon Sean Fletcher.

A’r cyfan oll yn fy argyhoeddi fod yr arlwy i blant yn parhau i hedfan yn uwch o hyd – a’i bod hi’n werth gwrando ar swnian y Mosgito prysur o bryd i’w gilydd.

21/03/09

 

Dychwelodd Côr Cymru i’r sgrin rai wythnosau’n ôl bellach, yn ffrwd o liw a bywiogrwydd a nodau persain. Cafwyd deuawd caboledig i lywio’r cyfan, ar ffurf Heledd Cynwal a Morgan Jones, a hefyd ychwanegiadau hyfryd gan y ‘beirniaid answyddogol’ sef Elin Manahan Thomas a Gareth Glyn. Ond wrth gwrs, mae’n rhaid hefyd wrth feirniaid ‘swyddogol’, a’r rheiny’n rhai o safon – ac yn anhysbys i’r rhan fwyaf ohonom. Dyma ragoriaeth y gystadleuaeth yn ôl un arweinydd, fod modd parchu niwtraliaeth y feirniadaeth derfynol, sy’n awgrymu fod hyn yn rhywbeth anghyfarwydd i ni fel Cymry.

Ac er mor safonol yw’r gystadleuaeth ei hun, gwelwyd ychydig o newid naws o fewn y cynhyrchiad ers poblogrwydd ‘Last Choir Standing.’ Er mai ein syniad ni oedd e gyntaf (am unwaith), gwnaed ymdrechion i arddel tactegau’r sioe realaeth honno drwy greu tensiwn a chynnwrf lled-hysterig cyn ac ar ôl bob perfformiad, gyda’r cyflwynwyr yn gwthio’r meic i wynebau’r arweinwyr ar bob cyfle, a chan annog y corau - boed yn blant bach neu’n oedolion - i sgrechian nerth eu pennau wrth i’r camerâu agosáu.

Ond yr hyn sy’n ddoniol am y sbloets yw bod cynifer o’r arweinyddion, wrth reddf, yn bobl sydd yn ymwrthod â’r fath sylw. Mae mwy nag un arweinydd wedi gwawdio’n gynnil ymdrechion y cwmni teledu i’w portreadu fel cythreuliaid canu, a hynny trwy wenu’n gynnil trwy’r sgript a osodwyd iddyn nhw. Mae ‘na rhai eraill, serch hynny, sy’n fwy na pharod i chwarae’r rhan fel tasen nhw’n mynd am glyweliad i fod yn ddihiryn ym mhanto Felin-fach. Ac yn arwyddocaol-ddigon, y rhai sy’n methu’r clyweliad hwnnw yw’r rhai sy’n ennill y gystadleuaeth!

14/03/09

 

Ers rhai blynyddoedd bellach, fe fu ymdrechion i drawsnewid delwedd Cân i Gymru er mwyn apelio at gynulleidfa ehangach. Cafwyd pob math o arbrofi gyda’r fformat – categorïau, panelwyr, chwarae byw, rhannu canran pleidleisiau – ac yn raddol bach gwelwyd un datblygiad arwyddocaol - sef bod y gân orau bellach yn dod i’r brig.

Ond y flwyddyn hon, roedd hi fel petaen ni nôl yn y dechrau. Roedd agenda’r panel o geisio chwalu rhagfarnau eisioes yn hen-ffasiwn, wrth ystyried y camau breision a wnaed gan y rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf. Cafodd y cyfansoddwyr safonol Al Lewis a Lowri Evans, er enghraifft, gyfle gan y gystadleuaeth hon yn ddiweddar, er iddynt gael eu hanwybyddu yn y gorffennol.

Ac os newydd-deb oedd y nod, yna roedd hi’n eironig fod y rhaglen yn efelychu syniadau treuliedig X-Factor, wrth fynnu cael sylwadau ar ôl pob cân (gyda Owen Powell yn llywio’r cyfan fel pe bai’n cynnal seminar gyda grwˆp o fyfyrwyr chweched dosbarth), a chan arddel hefyd y seibiau mawr dramatig cyn cyhoeddi’r enwau’r enillwyr. Ac roedd hi’n amlwg fod hyd yn oed y cyfweliadau wedi eu cynllunio o flaen llaw, rhywbeth a ddaeth i’r amlwg wrth i Rhydian Roberts rhoi braw i Sarra Elgan wrth wneud sylw chwareus am ei beichiogrwydd. “Doedd hwnna ddim yn yr ymarfer!” meddai hi wrth y camera, fel ‘tasai’r syniad o ddweud rhywbeth gwreiddiol yn arwydd o amhroffesiynoldeb.

Yn fwy eironig byth, wedi’r holl sbloets a’r ‘abrofi’ honedig, roedd y gân fuddugol yn swnio’n fwy ‘Cân i Gymru’ nag un o ganeuon y tair blynedd diwethaf. Ond o leiaf roedd ganddi deitl addas ar gyfer yr achlysur. Gofidiau.

07/03/09

 

Ers misoedd bellach, dwi ‘di teimlo fod ‘na rywbeth ar goll ar ein sianel. I ddechrau, ro’n i’n amau mai comedi oedd e, wrth ystyried natur leddf ein dramâu a’n hoperâu sebon y dyddiau ‘ma. Prin hanner awr o gomedi ry’n ni’n ei gael ers diflaniad Con Passoniate - a hynny ar ffurf rhaglen Tudur Owen o’r Doc, sydd, i fod yn deg, wedi gwella’n sylweddol dros yr wythnosau diwethaf, ac wedi llenwi bwlch adloniant ysgafn yn effeithiol dros ben. Ond dyw hi ddim yn deg fod yn rhaid i’r rhaglen hon gario holl faich ein hanghenion comedïol, chwaith.

Wrth bori trwy wefan newydd ITV Cymru yn ddiweddar, mi ddois ar draws dau glip o archif HTV Cymru, ac un o’r rheiny oedd rhifyn Nadolig arbennig o raglen Caryl Parry Jones o’r 80au. A dyna pryd y sylweddolais beth sydd ar goll o’r arlwy gyfredol: dychan. Roedd y rhaglen hon yn lawn dop o ddynwarediadau dychanol gwych - gan ddychanu pob dim o’r dosbarth canol Cymreig i aelodau’r to iau - gan brofi fod gan y Cymry allu i chwerthin am ben eu habswrdiaeth nhw’u hunain.

Hefyd ar y safle we yr oedd ‘Pobol y Chyff’ sef sioe gomedi’r ddau Frank, sy’n cynnwys yr un math o hiwmor dychanol, crafog, deallus - gyda rhai o ffigyrau amlwg Cymru yn barod iawn i ymuno yn yr hwyl, ac i beidio â chymryd eu hunain ormod o ddifrif.

Ac er mor wych yw’r ffaith fod modd canfod y clasuron hyn bellach ar y we – onid yw hi’n argyfwng arnom os yw dychan bellach yn rhywbeth sy’n perthyn i’r archif?

28/02/09

 

Dewr ac uniongyrchol oedd gogwydd y Byd ar Bedwar yr wythnos hon – wrth daclo pwnc anodd a phoenus. Er ein bod yn ymwybodol, yn gynyddol, o’r plant a’r babanod sydd yn cael eu lladd yn eu cartrefi eu hunain– pur anaml yr ydym ni’n clywed am hanesion torcalonnus y rheiny sydd yn cael eu niweidio’n ddifrifol yn y cartref, a’u dedfrydu i fywyd o anabledd corfforol a meddyliol. Yn yr achosion hynny, fel y dangoswyd yn glir gan y rhaglen hon, mae’r gosb yn gallu bod yn un llawer llymach i’r teulu – ond nid felly i’r troseddwr.

Achos trist Shauna a ddaeth a’r mater hwn i’r amlwg – merch a gafodd ei niweidio gan bartner ei mam pan yn faban, ac a fu’n dioddef am flynyddoedd cyn marw o ganlyniad i’w hanafiadau, yn 7 mlwydd oed. Dim ond blwyddyn ychwanegol o garchar a gafodd ei hymosodwr, ac roedd hi’n angenrheidiol i bwysleisio mor annelwig yw’r gyfraith wrth ddelio ag achosion fel hyn.

Gellid bod wedi ehangu’r drafodaeth ymhellach eto o fewn y rhaglen hon. Er bod cyfraniad rhieni maeth Shauna yn cyfoethogi’r cynnwys, roedd yr orfodaeth i chwilio am gyfranwyr eraill, ac i fod yn ‘hafal’ wrth gyflwyno’r dystiolaeth yn golygu mai herciog ar adegau oedd llif y rhaglen, ac roedd rhywun yn ymwybodol o nifer o leisiau newyddiadurol tu ôl i’r camera, a oedd yn rhwystro undod y cynhyrchiad o bryd i’w gilydd.

Ond wedi dweud hynny, roedd yma fater pwysig a oedd yn haeddu gweld golau dydd yn y modd amrwd hwn – er mwyn i’r stori ein cyffwrdd, ein cythruddo – a rhoi llais pendant i’r dioddefwyr tawel yn ein mysg.

21/02/09

 

Anifeiliaid a dynion gwyllt sydd gen i dan sylw yr wythnos hon – yn gymysgwch rhyfedd o fleiddiaid, gwartheg a Dai Jones. Y Bleiddiaid oedd ffocws y gyfres ‘O’r Galon’, wrth i gwmni Fflic ddilyn hynt a helynt criw o feicars digon brawychus-yr-olwg o Ddyffryn Nantlle. Cafwyd agoriad dramatig, ac roedd hi’n anodd rhagweld ar y dechrau pa lwybr yn union y byddai’r naratif yn ei ddilyn.

Ond nid siwrne seithug oedd hi o bell ffordd – gan fod ‘na glyfrwch a chynildeb arbennig i’r rhaglen hon wrth iddi ganfod ei thrywydd distaw ei hun; gan ddatgelu cryn dipyn heb orfod dweud gormod. Buan iawn y datgelwyd mor addfwyn oedd y dynion hyn go iawn – boed hynny wrth weld eu cyfarfodydd cwrtais yn y “tyˆ clwb” cudd, neu wrth fwrw golwg o hirbell ar eu perthnasau gyda’r teulu – ac roedd yr hyn nas dywedwyd – wrth awgrymu y llwybrau a droediodd y beicars hyn cyn eu dyfodiad i’r clwb – yn rhoi islais digon tywyll a thrasig i’r cyfanwaith. Roedd y gwaith camera hefyd yn arbennig o dda, a’r manion gweledol yn rhoi haen arall o ystyr i ni fel cynulleidfa. A dwi’n siwr fod rhai o’r straeon unigol hynny yn dal i droi yn nychymyg sawl un ohonom.

Tipyn o newid byd wedyn oedd gweld Dai Jones yn hwylio dros y don at Enlli ar gyfer rhifyn arbennig o Cefn Gwlad, yng nghwmni Gareth Roberts a’i deulu. Dim ond un llwybr sydd yn y fan hon, a chafwyd cipolwg hyfryd iawn o’r ynys a’i hanifeiliad, a chyfle i ddianc at ffordd symlach o fyw, ymhell, bell o’r ffordd fawr a’i chymhlethdodau.

14/02/09

 

Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae S4C wrthi yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau – sef hybu rygbi o fore gwyn tan nos. Nid ‘mod i’n cwyno chwaith. Dwi bellach yn ffan o’r bêl-hirgron a’i hanturiaethau, ac yn edrych ymlaen at weiddi’n groch wrth wylio’r gêm gyntaf bnawn fory.

Ond rhaglen ‘Shane’ sy’n dwyn fy sylw yr wythnos hon, sef dogfen gynhwysfawr, difyr-ei-gwead, yn olrhain hanes y ‘dewin bach o’r Aman’ a gafodd flwyddyn anhygoel y llynedd. Er ei fod wedi hawlio sawl teitl yn ddiweddar, gan gynnwys ‘Chwarewr Gorau’r Byd’, nid gwenieithu na gor-ganmol oedd bwriad y ddogfen hon, ond rhoi darlun clir i’r gynulleidfa o’r diwylliant a’r gwreiddiau a fagodd y seren hynod yma. Cafwyd dadansoddiad, er enghraifft, o’i gefndir chwaraeon pan yn fachgen ifanc, gan ganolbwyntio ar ei ddoniau athletig a fu’n rhan mor allweddol o’i grefft, gan ein hatgoffa hefyd mai chwarae yn yr ail dîm rygbi y gwnaeth Williams pan yn ddisgybl. Yn ogystal â hyn, cafwyd cipolwg ar adegau tywyll ei yrfa, pan yr awgrymodd ambell un ei fod yn rhy ‘fach’ i lwyddo yn y gamp, gan beri iddo gymryd saib, ac ail-feddwl ei yrfa.

Stori ysbrydoledig, felly, o un a frwydrodd yn ôl o’r cyrion gyda phendantrwydd a disgleirdeb, sy’n sicr o gyfathrebu’n wych â’r gynulledifa. Roedd hi hefyd yn bwysig cael mewnbwn y sylwebyddion, a hynny er mwyn pwysleisio celfyddyd pur ei berfformiadau, gan beri i ni weld sawl golygfa o’r newydd.

Pan fydda i’n gwylio’r dewin bach yn rhedeg nerth ei draed ar ddydd Sul, felly, fe fyddai’n sicr o weiddi’n uwch eto…

07/02/09

 

Mae gwylio’r gyfres newydd o Teulu braidd fel gwylio Con Passionate ar deledu du a gwyn. Mae’n cynnwys nifer o’r un actorion, sy’n adweithio mewn ffyrdd tebyg i’w gilydd ar y sgrin, ond mae ‘na rhyw gynhesrwydd ar goll, sy’n gwneud y profiad o wylio yn un digon digynnwrf.

Mae’r sgript yn dueddol o fod yn gymysgedd bisâr o ieithweddau gwahanol - naill ai yn llond ceg o fratiaith od neu yn stribed hir o ystrydebau hen ffasiwn. Mae’r cymeriadau hefyd yn mynnu dweud enwau ei gilydd bob yn ail frawddeg - gydag enw ‘Hywel’ yn adleisio fel atalnod llawn mewn sawl golygfa. Ac yn hytrach na thorri’r golygfeydd yn eu blas ry’n ni’n aml yn gorfod dioddef diweddglo gwan y drysau caeedig, gan golli cyfle i adeiladu tensiwn.

Ond mae yma dynerwch hyfryd, hefyd. Mae’r berthynas rhwng Eirlys a Dr John yn cael cyfle i flaguro’n raddol – gyda’r sgwennu yn dreiddgar fan hyn, ac yn llawn haenau. Mae ‘na hefyd berfformiadau cyhyrog gan Rhian Jones a Beth Robert, sy’n llwyddo i chwistrellu egni i grombil sawl golygfa a fyddai’n ddigon tila fel arall.

Ond chwa o aer oer sy’n fy nharo pan awn i ymweld â Rich a Margaret ym Mryn Celyn - ac mae’n drueni fod yn rhaid i actorion safonol gael eu cyfyngu o fewn y dimensiynau du a gwyn hyn. Hyd y gwelaf i, y cyfan mae’r Morgans yn ei wneud yw troi mewn cylch ailadroddus o fwyta cacennau, yfed te, a siarsio’i gilydd i gael gair gyda’r hwn-llall-ag-arall. Ond dyna ni, maen nhw’n dweud yn aml y cewch chi ddewis eich ffrindiau, ond nid eich teulu…

31/01/09

 

Cefais fy nghyffwrdd i’r byw gan un rhaglen ddogfen yr wythnos hon, sef rhifyn arbennig o’r gyfres ‘O’r Galon’ yn olrhain hanes brwydr Jim Ostler â chanser. Yr hyn oedd yn hynod am y rhaglen oedd bod modd ymdrin â themau mor dywyll ac anodd mewn ffordd mor oleuedig a phositif, ac roedd hi’n amlwg o’r dechrau fod hynny’n gydnaws â gweledigaeth Jim ei hun.

Ei ferch, Nora, fu’n gyfrifol am lywio’r ddogfen, ac roedd ei gonestrwydd a’i dewrder wrth lunio’r portread teuluol yn drawiadol dros ben. Nid yn unig roedd y ddogfen yn rhoi cipolwg agos-atom o’r sefyllfa ar ei orau ac ar ei waethaf; ond roedd hefyd wedi ei lunio mewn ffordd a oedd yn annog y gwyliwr i fod yn rhan o’r profiadau, yn hytrach nag yn dyst oer ar y cyrion. Roedd y cyfarwyddo hefyd yn arbennig o sensitif; gan ychwanegu haenau gweledol deallus a oedd yn dehongli sawl golygfa mewn ffyrdd annisgwyl a chynnil, ac hefyd gan barchu preifatrwydd y teulu pan fyddai angen gwneud hynny. Ac er mor emosiynol oedd y cynnwys ar adegau, roedd cynhesrwydd a hynawsedd Jim yn codi’r ysbryd ac yn gwneud i ni ail-feddwl y triniaethau yr y’n ni mor barod i’w cymryd yn ganiataol.

Yn anad dim, portread o un teulu egwyddorol, agos ac agored a gafwyd yma, ac roedd ‘na rhywbeth mor deimladwy am grynhoi’r cyfan trwy ganolbwyntio ar y cariad oesol a fydd yn parhau rhwng Jim a’i deulu. Fe fydd y ddogfen bwysig hon yn gofnod o ddyn rhyfeddol ac unigryw – ac fe fydd cryfder ei gymeriad yn parhau i adleisio’n y cof.

24/01/09

 

A minnau wedi disgwyl noson o ail-ddarllediadau, ces fy siomi ar yr ochr orau i weld dwy rhaglen safonol ar y sgrin nos Wener. Roedd y naill – Tudur Owen o’r Doc – yn newydd sbon, a’r llall, Nodyn, yn llawn o gerddoriaeth nad oedd yn or-gyfarwydd i’r glust. Braf, felly, oedd gwylio’r rhain gefn wrth gefn heb deimlo ‘mod i’n gwylio rhywbeth eildwym o bopty’r Nadolig.

Yn ‘O’r Doc’, cafodd Tudur Owen y cyfle i fod yn ef ei hun o’r diwedd – ei wobr fawr, mae’n siwr, am flwyddyn a mwy o wisgo sodlau uchel a cholur trwm. Ac er fod ‘na ambell i foment chwithig, roedd y cynnwys ar y cyfan yn ysgafn-heb-fod-yn-boenus, gyda’r gwesteion, Gwenllian Jones a Rhys ap Hywel, yn deall naws y rhaglen i’r dim. Trueni, felly, am y diffyg naws yn y stiwdio, ac roedd ‘na sawl bwlch amlwg a oedd yn awchu am fand byw i danio’r awyrgylch.

A dyma gryfder Nodyn, wrth gwrs, sef cyflwyno perfformiadau byw o safon mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru. Mae’r rhaglen hon bellach yn ennill ei thir fel un o brif raglenni cerddorol Cymru, ac mae hi’n profi bod modd i raglen gerddorol gael gweledigaeth eangfrydig, gwmpasog. Georgia Ruth Williams oedd seren y sioe arbennig hon, a braf oedd gweld dau fand mor wahanol â’i gilydd a Radio Lux a’r Moniars yn cael eu cynnwys o fewn yr un rhaglen.

Yr unig wir siom a gafwyd oedd fy mod wedi fy hudo gymaint gan nos Wener ‘newydd’ S4C nes i mi aros mewn nos Sadwrn hefyd, dim ond i ddarganfod fod yr un rhaglenni ymlaen eto…

17/01/09

 

Yr wythnos hon darlledwyd cyfres newydd sbon yn bwrw golwg ar hynodrwydd pensaernïol ‘Y Dref Gymreig.’ Dwi’n defnyddio’r term ‘newydd sbon’ gyda pheth amheuaeth fan hyn, wrth gwrs, gan ein bod ni gyd yn gwybod mai’r Tyˆ Cymreig sydd yma o hyd yn y bôn. Lle fydd ‘na Dyˆ Cymreig, fe fydd ‘na Dref Gymreig, a thra fydd ‘na Dref Gymreig, fe fydd ‘na gyfle am gyfresi Cymreig diddiwedd.

Ond wedi dweud hynny, mae’r cyfresi hyn yn fodern-o-Gymreig wrth ymdrin â’u cynnwys, ac ry’ch chi’n hyderus eich bod chi mewn dwylo diogel, gyda gwaith camera arbennig Stephen Kingston bob amser yn gwneud i chi gnoi cil ar y dehongliad gweledol.

Ond er mor ddiddorol oedd y rhifyn yma o Aberteifi, gresyn nad oedd modd treulio mwy o amser yn y dref ei hun, yn enwedig gan mai dyma honedig-ffocws y rhaglen. Fel Cardi, ro’n i ar dân eisiau gweld mwy o’m hoff lefydd yn cael eu dadansoddi’n fanylach; ac roedd y ffaith ein bod ni’n neidio’n sydyn i dai ar gyrion y dref yn tarfu ar gysondeb y rhaglen rhyw fymryn.

Ond braf oedd cael gosod nifer o’m hatgofion o’r dre mewn cyd-destun ychydig yn fwy diwylliedig. Fy mhrif atgof o Aberteifi yw syrthio i lawr grisiau’r bar gwin ar y gornel, ac roedd hi’n agoriad llygad i gael gwybod fod y briciau ‘na ro’n i’n ceisio cydio ynddyn nhw wrth faglu yn dod o ffatri friciau enwog Aberteifi, sy’n dyddio nôl i chwarter olaf y 19eg ganrif. A rhywsut dwi’n tybio y byddai’r ffaith honno yn un llawer mwy cynhyrchiol i’w hadrodd wrth basio heibio...

10/01/09

 

Beryl, Cheryl a Meryl. Dyma’r hyn oedd gan S4C i’w gynnig i ni ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn; sef rhyw fath o fersiwn trawsrywiol o Ibiza, Ibiza, gyda Tudur Owen, Iwan John a Rolant Prys yn gwasgu’u penolau gwrywaidd i sgertiau patrymog hyll a chlip-clopian eu ffordd tua’r machlud. Taflwyd perfformiad pantomeimaidd gan Johnny Tudor mewn i’r pair hefyd, ac yna ychwanegwyd gwên gan Geraint Todd, gwg wrth Catherine Ayers, ac fe’i galwyd yn ffilm. O ryw fath.

Ond nid drwg mo’r cynhwysion hyn oll. Roedd y cysyniad cwbl hurt yn atgoffa rywun ar adegau o The League of Gentlemen, gyda’r tri prif actor yn ymdoddi gyda’r fath argyhoeddiad i’w creadigaethau comig nes anodd credu nad menywod canol oed go iawn oedden nhw. Yn ddi-os, dyma dri actor comig penigamp, sy’n gwybod yn iawn sut i amseru eu hystumiau a’u hebychiadau, ac sy’n taflu pob dim i mewn i’w perfformiadau. Y brif broblem oedd nad oedd gan y cynhyrchwyr y weledigaeth i fynd yn gwbl dros ben llestri gyda’r cynnwys (fel, efallai, y byddai’r League of Gentlemen wedi’i wneud), gyda’r ychwanegiadau realaidd yn gwneud y ffilm yn rhy gyffredin o lawer. Mewn ffordd, roedd angen mwy o drawswisgo dwl, ac angen i bob un cymeriad fod yn grotésg; yn hytrach nac yn ddeniadol ac yn ‘real’, ac fe fyddai hynny wedi cryfhau effeithiolrwydd y naratif yn ddiamau.

Ond wedyn, mae’n siwr y gwnaed y penderfyniad i aros o fewn y terfynau diogel hyn er mwyn plesio canran uwch o’r gynulleidfa, sy’n nodweddu ein gwendid fel Cymry – wrth chwarae’n saff, ry’n ni’n cwympo rhwng dwy stol. Yng ngeiriau Beryl, Cheryl a Meryl: what are we like?

03/01/09