| Cefais flas annisgwyl ar ddwy raglen go wahanol i’w gilydd yr wythnos hon. Y cyntaf o’r rhain oedd ‘Natur Cymru,’ cyfres dwi’n dueddol o’i hosgoi gan nad yw rhaglenni natur yn cynnig digon o ddihangfa oddi wrth fywyd ‘go iawn’ i ryw slebog-sebon fel fi. Ond wedi pum munud o gael fy syrffedu gan ailbobiad o fywyd real (yn ei holl ddiflastod) mewn sebon, roedd bod dan wyneb Y Fenai ymhlith y cranc hirgoes a’r seren fôr biws yn teimlo fel rhyddhad pur!
Roedd hon yn rhaglen safonol dros ben, gyda Iolo Williams yn traethu’n wybodus am yr holl destunau dan sylw mewn sylwebaeth eglur-ddigon, a hynny heb fod yn nawddoglyd i anwybodus-rhai, fel myfi. Roedd gwaith camera cywrain yma yn ogystal, gyda’r golygfeydd bendigedig o adar prin a morloi’r arfordir yn cyfoethogi’r profiad.
Rhaglen arall wirioneddol odidog oedd ‘Maestro Carlo Rizzi’ gan gwmni Torpedo, potread awr o hyd yn dilyn hynt a helynt yr arweinydd a’r cyfarwyddwr cerdd Carlo Rizzi, a hynny ar adeg dathlu chwarter canrif ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf ar y podiwm fel arweinydd. Roedd ei glywed yn adrodd hanesion am ei fywyd a’i yrfa mewn Cymraeg lliwgar, egniol-o-Eidalaidd yn brofiad arbennig iawn, ac fe lwyddodd i drosglwyddo ei brofiadau diwylliannol unigryw i’r gynulleidfa trwy gyfrwng ei bersonoliaeth cynnes, a’i hyder tawel, diffuant. Roedd cael bod yn llygad-dyst i’r parch aruthrol sydd iddo fel arweinydd, trwy gyfrwng ei gynulleidfa, ei gydweithwyr, a’i deulu yn sicr yn gwneud hon yn rhaglen gynnes, agos-atoch, gyda’r gerddoriaeth yn rhan greiddiol ohoni.
Dyma ddwy raglen a brofodd imi, felly, nad oes angen dihangfa wrth fywyd go iawn, bob tro...
29/03/08

A
hithau’n adeg lle mae pawb ar dân eisiau
symud am-yn-ôl, mae cysyniad rhaglen gerddorol
newydd “Chis a Meinir” yn ddigon amserol.
Fedrwch chi ddim troi’r radio ymlaen heb glywed
rhyw fersiwn newydd o hen ‘glasur’ ac mae
hi fel petai pob has-bîn-dan-haul eisiau bod yn
rhan o’r sîn roc gyfredol, ac i brofi eu
bod o flaen eu hamser, yn hytrach na’n henffasiwn.
Be’
well, felly, na raglen sy’n rhoi sylw dwys i gerddoriaeth
y gorffennol, gan wahodd artistiaid cyfredol y sîn
i ddehongli’r caneuon? Mae’n amlwg bod cynulleidfaoedd
wedi laru bellach ar gerddoriaeth honedig-fodern, ac
fe roddwyd taw ar greadigrwydd unigryw artistiaid fel
Gwilym Morus, Lleuwen Steffan a Lowri Evans am y tro,
a’u herio i ddehongli rhai o wir glasuron ein
hoes.
Yr
artist dan sylw yn yr wythnos gyntaf oedd Meic Stevens,
sydd yn ddi-os wedi ‘sgwennu rhai o ganeuon amlycaf
y sin roc. Ond mae’n ddiddorol bod Meic wedi nodi
yn ei gyfweliad â Huw Chiswell, na fyddai wedi
ysgrifennu rhai o’r clasuron hynny, (a’r
‘Brawd Houdini’ yn benodol), oni bai iddo
gael ei gomisiynu gan gynhyrchydd teledu, a oedd eisiau
iddo greu cerddoriaeth wreiddiol Gymraeg i wneud i bobl
ddawnsio ar raglen Disc a Dawn. “Dechrau Roc a
Rôl yng Nghymru,” yn ôl Meic, ac mae’n
anodd credu fod yr hyn sydd bellach yn cael ei ystyried
yn glasur wedi tarddu o weledigaeth cynhyrchydd, a hynny’n
llwyddo hefyd i fagu hyder a phroffil artist, ynghyd
â hybu’r broses greadigol a chyfrannu at
ddiwylliant Cymraeg.
Mae’n
debyg, yn y dyddiau hynny, roedd cynhyrchwyr yn credu
mewn comisiynu gweithiau newydd sbon gan artistiaid
ifanc. Sôn am henffasiwn!
22/03/08

A
hithau’n
ddiwrnod tyngedfennol i dîm rygbi Cymru, a strydoedd
Caerdydd yn llenwi gyda chefnogwyr a chantorion fel
ei gilydd; mae hi’n addas ddigon fod y sianel
yn canolbwyntio ar ffyrdd o greu awyrgylch bythgofiadwy
i’r gêm fawr. Er bod y syniad tu nôl
i’r rhaglen ‘Codi Canu’ yn un digon
abswrd yn ei hanfod, a’r rhaglenni ansoniarus
cyntaf yn aml yn boenus i’w gwylio, mae’r
rhaglen wedi tyfu’n rhyw fath o ffenomenon bellach.
Mae aelodau’r corau yn syllu i’w camerau-cartref
gyda difrifoldeb dwys, mae’r baswyr yn bwrw’r
nodau gwaelod gydag arddeliad, ac mae ambell soprano’n
esgyn i’r entrychion.
A
pham lai? Mae ‘codi canu’ yn y stadiwm yn
sicr yn rhywbeth hanfodol i’w wneud ar ddiwrnod
fel heddiw, ac yn allweddol wrth osod naws y prynhawn
‘ma. Dwi ddim am roi pwysau ar neb, ond y gorau
fydd y canu, y gorau fydd y chwarae…
Un
sy’n sicr wedi taro’r nodyn cywir gyda S4C
yw Cerys Mathews, un o gantoresau mwyaf llwyddiannus
gwlad y gân erbyn hyn, ac un o’n perfformwyr
mwyaf cyfareddol ac unigryw, ac ry’n ni ddwl-o-ddiolchgar
iddi am gefnu ar Nashville a dod nôl i Gymru fach.
Cafwyd cyfweliadau difyr a pherfformiadau trydanol ganddi
yn y rhaglen ‘Cerys Nôl Adre’, a oedd
hefyd yn cynnwys cerddorion gwych fel y delynores amrywddawn
Catrin Finch.
Ond
tra bod aelodau di-Gymraeg corau Codi Canu yn straffaglu’n
ddewr i lafaru llond pen o Gymraeg, rhoddwyd rhwydd-hynt
i Cerys ganu faint bynnag o ganeuon Saesneg ag oedd
hi eisiau, a hynny mewn ymdrech i sicrhau ffigyrau gwylio
uwch na’r arfer. Ai codi canu yw peth felly, neu
godi pais?
15/03/08

Beth
fyddai Gwyl Ddewi ar S4C heb ‘Cân i Gymru’
gwedwch? Ry’n ni’n gwisgo cennin pedr, yn
canu clodydd Dewi Sant, ac yn gwneud y pethau bychain,
fel pleidleisio ugain o weithiau i’r un gân,
a hynny am resymau cwbl blwyfol.
Ond diolch i’r fformat newydd, mae ‘na banel sydd yn gallu cydbwyso’r bleidlais blwyfol erbyn hyn. Wedi i gwmni Avanti gymryd yr awenau rhyw dair blynedd yn ôl, fe wnaed amryw o fân newidiadau i’r raglen boblogaidd hon, mewn ymgais i ffeindio’r fformat mwyaf llwyddiannus. Ac yn ôl y disgwyl, tra fod ‘na ambell beth yn taro deuddeg, mae pethau eraill yn taro’r glust fel gordd.
Eleni, cafwyd adwaith digon effeithiol rhwng y cyflwynwyr Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips, wrth iddyn nhw benderfynu cyflwyno mewn steil Eurovision-aidd, egnïol, siwdaidd-o-slic, a oedd yn gweddu’n berffaith i naws ysgafn y rhaglen, er i’r cwestiwn di-ddim ‘Sut ti’n teimlo?’ gael y gor-ddefnydd arferol.
Ar y llaw arall, roedd dilyn model yr X-Factor wrth gyflwyno’r canlyniadau yn gam gwag, gyda’r ymgais ymdrechgar i greu mwy o fomentwm yn llwyddo i ddileu unrhyw awyrgylch neu fomentwm yn llwyr. Ac wrth ystyried mai holl bwrpas y rhaglen oedd rhoi gwrandawiad teg i ganeuon, roedd y lefelau sain yn bur anwastad, a’r canu cefndir ‘ffug’ fel cystadleuaeth meim ar brydiau.
Ond er gwaetha’r ffaeleddau, un gwellhad arwyddocaol yn y blynyddoedd diweddar yw’r ffaith mai’r caneuon gorau sydd bellach yn dod i’r brig bob blwyddyn, a llongyfarchiadau mawr i Aled Myrddin a Lowri Evans, felly, nid yn unig am gyfansoddi caneuon o safon, ac am eu perfformiadau caboledig ar y noson, ond hefyd am sicrhau parhad y datblygiad pwysig hwnnw.
08/03/08

Yr wythnos hon, fe greodd y rhaglen ddogfen am Jennie Eirian
argraff ddofn arnaf, cymaint o argraff nes fy mod, bron
i wythnos wedi ei gwylio, yn dal i ail-fyw rhai munudau
tyngedfennol o’r ddogfen honno. Dyna sy’n
tystio i ddogfen dda, am wn i, un sydd yn gallu cyfathrebu
gyda’r emosiynau mewn ffordd gofiadwy, gan gysylltu
â’r dychymyg ar yr un pryd.
Yr
oedd llwyddiant y rhaglen yn ffynnu o’r modd gelfydd,
greadigol y’i strwythurwyd, a hynny trwy fritho’r
cyflwyniad theatrig gyda chyfweliadau crafog a diddorol,
a hynny gan gyfoedion, cyfeillion a theulu Jennie Eirian.
Mae sawl dogfen wedi ymdrechu i ddefnyddio strwythur
tebyg, a hynny’n aneffeithiol yn fwy na heb, ond
y tro hwn, roedd ‘na sensitirwydd arbennig wrth
y llyw. Roedd cyflwyno’r cymeriad trwy gyfres
o olygfeydd llwyfan byr, bachog, yn ffordd hynod o gadw’r
ffocws yn ddwys ar Jennie Eirian ei hun, gyda pherfformiad
ysgytwol Rhian Morgan yn ategu haen ar ôl haen
i’r cymeriad aml-ochrog, cymhleth, hynaws yma;
a hynny’n cyferbynnu’n effeithiol, ac yn
drasig-ddigon weithiau, gyda’r dadasoddiad gwleiddyddol,
craff o du ei chyfoedion a sylwebwyr.
Nid
yn unig oedd hon yn ddogfen haeddiannol, ond yn un hanfodol
rhywsut, i ddwyn i gof enw a chymeriad arbennig a fu’n
un o ffigyrau amlycaf Cymru, menyw gref a chanddi weledigaeth,
uchelgais a dewrder heb ei ail. A pha well ffordd o
gofnodi hynny na thrwy gelfyddyd ei hun, a gan ei chyflwyno,
nid fel gwrthrych absennol i’w thrin a’i
thrafod mewn pellter oer, ond yn agos atom, wrth i ni
gael cyfle unigryw i ail fyw Jennie Eirian, trwy ddehongliad
gwych Rhian Morgan, fel ffigwr tanbaid, bythgofiadwy.
01/03/08

Yn
ddiweddar, fe’m denwyd yn ôl at Rownd a
Rownd, fel sy’n dueddol o ddigwydd gyda’r
fath deitl bachog. Dyw hynny ddim i ddweud ‘mod
i erioed wedi cael fy ngyrru oddi wrth y sebon-slic
yma, ond mae’n rhaid fy ‘mod wedi anghofio
am ei bodolaeth rhwng hwn-llall-ag-arall, nes i wythnosau
cynyddol o ail-ddarlledu dynnu sylw at y ffaith fod
‘na ambell raglen sy’n dal i gynnig tamaid
wythnosol o wreiddioldeb.
Mae
‘na rhyw sicrwydd mewn dychwelyd at sebon sy’n
hen ffefryn, rhyw gynhesrwydd yn y ffaith y gallwch
chi lithro i’r byd dychmygol hwn o fewn eiliadau,
gan gau’r bylchau’n dwt ac yn ddiymdrech.
Yr wythnos hon, fe fum i’n chwerthin yn uchel
ar ystumiau Kay, yn torri ‘nghalon dros Iris,
ac yn gwenu’n foddhaol wrth weld Meical a Michelle
yn gafael am ei gilydd, a hynny gyda’r un difrifoldeb
a phetawn wedi bod yn gwylio’r rhaglen yn ddi-dor.
Yr hyn sy’n hynod am Rownd a Rownd yw’r
ffaith ei bod wedi llwyddo i gadw ei hâpel yn
ifanc ac yn ffres cyhyd, heb golli gafael ar yr hiwmor
a’r themâu dyfnach wrth wneud hynny. Mae’r
sebon hefyd yn arwain y ffordd o ran gwneud defnydd
gwych, pwrpasol a dramatig o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg.
Mae’n
bosib fod ‘na rhywfaint o gyfiawnhad dros yr ail-ddarllediadau
yr wythnos yma, wrth i ddwy rhaglen ddogfen –
Merch y Gadair Ddur a Martin Thomas – gael eu
henwebu ar gyfer gwobrau yng Ngwyl Gyfryngau Celtaidd
2008. Mae’n wych o beth i weld rhaglenni safonol
fel y rhain yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol. Ac mae’n
braf o beth cael dathlu bod safon ein rhaglenni dogfen
cystal â safon ein swigod, weithiau.
23/02/08

Yr
wythnos hon, Aled Glyn Williams oedd yr wyneb dan sylw
yn “Wynebau Newydd,” chef ifanc o Ynys Môn
a fu’n gweithio ym mwyty Gordon Ramsay yn Efrog
Newydd. Pytiog braidd oedd y rhaglen i ddechrau, a hynny’n
ddigon rhagweladwy, wrth feddwl ei bod yn cael ei ffilmio
ynghanol un o geginau prysura’r byd, yn ystod
adeg o densiwn uchel. Ro’n i’n hanner disgwyl
i’r camera ei hun gael ei ddwrdio gan y prif gogydd.
Ond
wrth i’r raglen fynd yn ei blaen, roedd ‘na
fflachiadau o waith camera celfydd a chyfarwyddo ysbrydoledig,
gyda’r ddinas ei hun yn cael ei phortreadu’n
ddifyr, a gydag ambell olygfa, fel gweld Aled yn eistedd
yn Central Park ymhlith y dorf, yn dangos fod yma gynhyrchiad
o safon. Y trueni mawr oedd, nad oedd ‘na fawr
o sylwedd yn y sylwadau a wnaed yn y cyfweliadau, rhywbeth
a wnaeth i’r elfennau hynny edrych yn addurniadol.
Ac roedd ambell gyfweliad yn well na’i gilydd
– roedd clywed Aled yn sôn am y grefft o
goginio ychydig yn fwy difyr na’i weld yn arogli
a didoli madarch, gan ddatgan am un: “dyma ‘di
favourite mushroom fi.”
Prif
wendid y rhaglen imi, oedd nad oedd hi’n bosib
gwneud mwy crafu wyneb “newydd” Aled, ac
roedd hi’n anodd iawn canfod y themâu dyfnach
angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn rhoi gwir sylwedd
i unrhyw rhaglen ddogfen. Fe nodwyd ar ddiwedd y rhaglen
fod Aled bellach wedi derbyn swydd fel Prif Gogydd ym
Mhlas Bodegroes, gwrthbwynt diddorol i’r cyd-destun
dinesig hwn, ond gan nad oedd modd cynnwys hynny, roedd
cyd-destun ‘ynysig’ y ddinas ychydig yn
oeraidd, er mor boeth oedd hi yn y gegin.
16/02/08

“Ma’
hyd yn oed Fflur yn lico rygbi dyddie ‘ma”
– dyna ddywedodd un o fy ffrindiau gorau rhyw
bythefnos yn ôl, mewn ebost a oedd yn ceisio hudo
criw ohonon ni i’r ddinas i wylio’r gêm
fawr ddydd Sadwrn diwethaf. Ac yn wir, yn dilyn buddugoliaeth
hanesyddol y tîm yn Twickenham, mae gen i deimlad
y bydd “hyd yn oed Fflur” yn parhau’n
un o ffrindiau gorau’r bêl hirgron dros
yr wythnosau nesaf, er ffrind mor aneffeithiol yw hi
fel arall – yn mynnu gwylio’r gêm
o ofod diogel ei stafell fyw. Ond dim ond yn y fan honno
oedd modd gwrando’n astud ar sylwebaeth safonol
Huw Llywelyn Davies, a oedd wedi cyffroi’n lân
erbyn y deng munud olaf.
Ac
efallai fod awyrgylch ffres rhaglen Jonathan wedi effeithio
rhywfaint ar atgyfodiad y tîm, wrth i’r
criw afieithus heidio nôl at ei gilydd i gynnig
adloniant yn ystod tymor newydd sbon o rygbi. Ro’n
i wedi pryderu rhywfaint am ddyfodol y rhaglen hon yn
ddiweddar, ond wrth i’r hen ffefrynnau ddychwelyd
i’r soffa, yn ffurf Roland Phillips a Nigel Owens,
ac wrth i Eleri Siôn barhau i ddal y wyneb siwdaidd-o-seriws
yna, dwi’n gwbl ffyddiog y bydd y rhaglen hon
yn ail-brofi llwyddiant i’r un graddfeydd.
Roedd
hi’n ddiddorol gweld un o gyfweliadau cyntaf Rhydian
Roberts, enillydd yr X-Factor, gwestai a oedd yn ddiffuant
o ddifrifol am ei yrfa a’i ddyfodol, yn wahanol
iawn i’r disgwyl, efallai. Ond roedd y ffaith
ei fod yn trin rhaglen Jonathan fel unrhyw rhaglen ‘sgwrsio’
arall yn rhywbeth hynod oleuedig, am fod y rhaglen hon
ar ei gorau pan mae’n llwyddo i gydbwyso’r
difrifol a’r digri. Mae angen saib ar bawb wrth
ddwli-pur, wedi’r cyfan, mae “hyd yn oed
Fflur” yn credu hynny...
09/02/08

Pryd
y’n ni’n bwriadu cymryd y busnes doniolwch
‘ma o ddifri, d’wedwch? Os oedd sioe PC
Leslie Wyn yn profi rhywbeth, yna’r ffaith ein
bod yn bodloni ar hiwmor eilradd oedd hynny, wrth i
gynulleidfa o Fôn biffian i mewn i’w peintiau
yn dilyn jôcs am organau rhywiol a baw defaid.
Thema’r noson oedd ‘byw’n ‘wyrdd’
ac er ‘mod i’n traethu’r efengyl honno
fy hun y dyddie ‘ma, dwi ddim yn credu bod ailgylchu
jôcs yn mynd i achub y blaned – nid yr un
a elwir yn S4C, beth bynnag.
Er
bod Tudur Owen yn actor ac yn gomedïwr penigamp,
dy’n ni ddim wastad yn gadael i rywun ymddwyn
fel nhw’u hunain ar deledu. Na, mae’n llawer
fwy diogel i daenu ychydig o golur oren dros ei wyneb,
gwneud iddo siarad mewn llais uchel, a rhoi gwisg blismon
amdano, gan fod hynny’n fwy ‘credadwy’
na gadael iddo gyfweld â gwesteion ar ei dermau
ei hun, a chan ddefnyddio ei hiwmor naturiol ei hun.
Ond
efallai’n wir mai’r ffaith imi wylio ailddarllediad
o ‘Rhagor o Wynt’ yn syth wedi’r rhaglen
hon a dynnodd sylw at y ffaith mai teithio am-yn-ôl
ydym ni o ran ein soffistigeiddrwydd. Ro’n i’n
ifanc iawn yn gwylio’r rhaglenni yma am y tro
cyntaf, a dim ond wrth wylio eto fel oedolyn dwi’n
deall pa mor wleidyddol-graff, mor grafog-o-Gymreig
a mor afieithus-abswrd oedd y sgriptiau hynny, wrth
iddyn nhw gael eu dehongli’n ddeallus gan actorion
comedi gwych fel Dewi Pws, William Thomas, Nia Caron
a Gareth Lewis.
Ac
mae’n eironig braidd fod ‘Rhagor o Wynt’
wedi mynd o fod yn deitl dychanol i fod yn destun un
o jôcs gorau Leslie Wyn...
02/02/08

Efallai’n
wir mai am resymau plwyfol yn unig y gwyliais i’r
rhaglen “Ty Cymreig – Sir Gaerfyrddin”
yr wythnos hon, ond braf oedd darganfod nad plwyfol
mohoni o bell ffordd. Yn wahanol i 04 wal, mae ganddi
weledigaeth ddiwylliannol eang, sy’n caniatau
i ni weld cartrefi hynafol o’r newydd, gan ddyfnhau
ein gwybodaeth hanesyddol o’r Cymry a’u
cyd-destun cymdeithasol trwy lygaid tri arbenigwyr praff
– Aled Sam, Dr. Greg Stevenson a’i gi.
Penyrallt
Fadog ym Mhentrecwrt oedd dan sylw yn gyntaf, ty a ddefnyddiwyd
wrth ffilmio Y Palmant Aur a Tân ar y Comin, a
braf oedd cael dysgu am gefndir pensaernïol yr
adeilad hwn, yn ogystal a’i berthnasedd i’r
gymuned amaethyddol. Yna ymlaen at Ty Mawr, Llwyndryssi,
a’i gynllun gwerinol, to gwellt, cyn esgyn i entrychion
bonedd gyda Neuadd Fawr Llanwrda a phlasty Castell y
Strade, Llanelli.
Mae’n
bosib, serch hynny, y byddai’n hawdd iawn i raglen
fel hon eich diflasu o bryd i’w gilydd, gyda’i
chorneli tywyll a’i thrafodaeth aml-haenog, heblaw
am y cyfarwyddo a’r gwaith camera bendigedig,
sy’n rhan mor greiddiol o’i llwyddiant.
Gyda’r defnydd celfydd o olau naturiol, cysgodion
a gwrthrychau mae’n bosib creu naratif weledol
ochr yn ochr â naratif mwy ffeithiol y cyflwynwyr.
Ac
nid ffeithiol mohoni bob tro, chwaith, gyda’r
sgyrsiau yn gyfuniad hyfryd o draethu brwd a thaer Greg
Stevenson a sylwadau cellweirus Aled Sam. Tra bod Greg
yn rhyfeddu ar hen gwt moch wedi ei drawsnewid yn ystafell
‘molchi modern, yr hyn sy’n poeni Aled Sam
yw ei fod yn arwain allan at y clos, a bod peryg i rywun
darfu ar ymolchwr yn ei noethni. Dim ond Aled Sam allai
wneud i “jingl-jangls” swnio fel terminoleg
ffeithiol...
26/01/08

Yr
un hen jôcs rhagweladwy sydd gen i am y gyfres
ddrama newydd ‘Teulu’ – sef ei bod
yn llawn ‘ysbrydion’ o Gwmderi. Mae cymeriadau
sebon cofiadwy fel Llew, Fiona a Barry John wedi eu
hatgyfodi er mwyn byw mewn alltudiaeth moethus yn Aberaeron,
ac wrth i weddill y cast ymddangos ar y sgrin, mae hi
fel rhifyn o ‘Cymar Pwy?’ (os oes unrhywun
bellach yn cofio’r sioe ryfedd honno o’r
wythdegau, lle roedd yn rhaid dyfalu pwy-oedd-yn-briod-â-pwy
ymhlith enwogion y genedl).
Ond
ta waeth am hynny. Yr hyn a geir yma yw drama difyr-ddigon,
hawdd ei gwylio, sy’n syrthio’n dwt i genre
y ddrama-saff-nos-Sul (er bod angen i’r parchusion
warchod eu clustiau mewn ambell olygfa.) A minnau wedi
nofio’n ddi-drafferth trwy bum pennod bellach,
dwi wedi llyncu’r abwyd, ac yn mwynhau cael fy
nhywys yn araf i’r lan gan y straeon slic, a’u
strwythur di-ffws, ffwrdd-â-hi.
Y
prif broblem sydd gen i hyd yma, yw fy mod yn methu’n
lân a chynhesu at y mwyafrif o’r cymeriadau.
Mae ‘na rhywbeth oeraidd am bob un, sy’n
fy rhwystro rhag poeni a fydd Llyr yn llwyddo i adeiladu
ei glwb, a fydd Llinos yn aros gyda Danny, neu a fydd
Hywel byth yn canfod cyfrinach ei fam. Cymeriadau un-dimensiwn
yw’r rhelyw ohonynt, yn llawn ystumiau ac ystrydebau,
ond gydag ambell linell euraid, glyfar yn eu codi uwchben
wyneb y dwr bob hyn a hyn.
Ond
mae gen i ddiddordeb yn stori Eric a Eirlys, a hynny’n
bennaf am nad yw Dewi Rhys Williams na Eiry Thomas yn
euog o gloffi llinellau na tagu ar eu hacenion fel petai’n
ddarn o bysgodyn yn llawn esgyrn…
19/01/08

|
|
|