| Mae
unrhyw un sy’n gwrando ar Radio Cymru yn gyson
wedi hen arfer â ffenomenon ‘Cofio’
– y rhaglen radio sy’n ein tywys yn ôl
i’r gorffennol, a hynny mor gynnar ar fore Sadwrn
nes ‘neud i chi gredu eich bod wedi deffro mewn
oes arall. Yn y pendraw, roedd hyn yn bownd o gydio
yn nychymyg S4C, sianel sy’n or-hoff o symud am-yn-ôl
yn hytrach nag ymlaen.
Yr
oedd y fersiwn deledu o ‘Cofio’ yn rhaglen
ddof iawn, gyda Heledd Cynwal yn dangos y parch arferol
i’w gwesteion a’r rheiny’n ymateb
yn ddigon cwrtais yn ôl. Ond eto, roedd ‘na
rhywbeth anghyfforddus am yr holl beth, a’r hyn
sy’n fy nharo am y rhaglen hon yw’r ffaith
ei bod yn cynnwys pobl nad ydynt wedi cael eu anghofio
o bell ffordd. Gyda archif itv Wales mor gynhwysfawr,
does dim angen mynd yn bell iawn i ganfod clipiau o
raglenni unigryw Caryl Parry Jones nac i ffeindio clipiau
o oes aur Gareth Edwards – ac mae ffocws y rhaglen
hon ar bobl sydd wedi parhau yn llygad y cyhoedd, yn
hytrach na’r rheiny sydd ychydig ar y cyrion –
y rheiny sydd o bosib angen cael eu hatgyfodi a’u
dathlu.
Peth
rhyfedd ar y naw yw talu teyrnged i bobl sydd yn dal
i fod yn fyw – a sydd dal a chyfraniad i’w
wneud – a rhyfeddach fyth yw natur ail-adroddus
ein hanes, a’r tueddiad yma sydd gennym i atgyfnerthu
cyfnodau penodol. Ry’n ni, wrth wneud hyn, yn
cryfhau’r cysyniad mai dyma’r bobl bwysig,
a dyma’r cyfnodau ffurfiannol yn ein diwylliant,
ac mae hi’n amhosib i wneud hyn heb hepgor nifer
o bobl eraill sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol –
y rheiny fydd yn cael eu dileu’n ara’ deg
o’n hanes ni os nad ydym yn ofalus. A phwy yw’r
rheiny meddech chi? Dwi ddim yn gwbod, am ‘mod
i eisioes wedi cael fy nghyflyru i anghofio amdanyn
nhw…
27/06/09

Dychwelodd
y gyfres Caerdydd i’r sgrin yr wythnos hon, yn
llawn delweddau tywyll a golygfeydd trawiadol. Mae hon
yn un o’r cyfresi prin sydd yn fy nghyffroi, ac
er nad yw hi’n taro deuddeg bob tro, dwi yn meddwl
ei bod hi’n gofnod diwylliannol pwysig iawn o
hyder newydd ein prifddinas, yr amrywiaeth o bobl sy’n
byw ynddi, ac y dylem fod yn ddiolchgar bod modd mynegi
y profiad dinesig trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn
ffordd sydd mor gyfredol a heriol.
Erbyn
hyn, mae ‘na dros flwyddyn ers i ni adael Peter
Marshall mewn pwll o waed ar lawr yr ystafell ‘molchi,
ac er nad oedd hi’n syndod i neb ei fod wedi goresgyn
(yn bennaf am fod Ryland Teifi wedi gwneud sawl cyfweliad
am y gyfres newydd – cliw bach cyfleus!), roedd
perfformiad yr actor hynod hwn yn gynnil dros ben, ac
o fewn rhai munudau roeddem ni eisoes wedi esgyn i dir
tipyn mwy cyfoethog o ran naratif a chymeriad. Unwaith
eto, y mae Mali Harries yn wrthbwynt gwych– ac
mae pob eiliad o berfformiad y ddau yma yn gwneud i
chi anghofio’n llwyr mai cymeriadau yw’r
rhain, yn hytrach na phobl go iawn. Nhw yw canol llonydd
distaw y trobwll prysur hwn, ac mae’r cyfan sy’n
digwydd o’u cwmpas yn gryfach o’r herwydd.
Trueni,
felly, am y perfformiadau anghynnnil – ac mae’n
rhaid i mi gyfaddef ‘mod i’n ei chael hi’n
anodd i weld sut fydd modd datblygu cymeriadau Natasha
(Ffion Williams) a Ceri (Siwan Morris) o fewn y gyfres
hon – cymeriadau sy’n gwneud imi deimlo’n
bur anghyfforddus wrth wylio. Efallai mai’r prif
broblem yw fod y cymeriadau yma wedi ei selio ar stereoteip-o-fath,
a’i bod hi’n anodd, felly, i’r actorion
i ddatblygu tu hwnt i hynny. Yn achos y ddwy, ry’ch
chi’n ymwybodol iawn mai actorion yn adrodd sgript
sydd yma, ac mae eu llygaid dramatig fel petaen nhw
ar fin ffrwydro allan o’u socedi!
20/06/09

Roedd
gwylio ‘O Flaen dy Lygaid: Gorawen’ yr wythnos
hon yn brofiad anghyfforddus i ddweud y lleiaf. Ar un
olwg, roedd yma ymdrech ddewr, ac mae’n siwr,
diffuant, gan y cynhyrchydd a’r cyflwynydd Ali
Yassine i dynnu sylw at salwch meddwl, trwy ganolbwyntio
ar achos David Edwards, un o arloeswyr mwyaf y 90au
yng Nghymru. Serch hynny, roedd hi’n amlwg, er
nad oedd Dave ei hun mewn cyflwr i gael ei holi ar sawl
adeg, fod y camerâu wedi parhau i’w ffilmio,
doed a ddelo.
Un
o’r adegau mwyaf poenus imi oedd gweld Dave yn
mynd i brynu alcohol o’r archfarchnad. Ffilmwyd
ei gamau araf, ei weld yn cydio yn y botel oddi ar y
silff, hyd yn oed ei weld yn talu wrth y til. Mae’r
cysyniad o ‘greu’ golygfeydd fel hyn ar
gyfer cynulleidfa yn wyrdroedig, braidd, ac wrth ystyried
fod gan David broblem yfed ddifrifol, roedd hyn hyd
yn oed yn anghyfrifol ar ran y tim cynhyrchu. Wrth ystyried
ein bod yn gwybod fod ganddo broblem yfed, roedd y golygfeydd
yma yn gwbl ddiangen, a thu hwnt i weld Ali’n
dweud wrtho fod yfed ‘ddim yn gwneud lles iddo’,
gwnaed dim ymdrech i daclo’r broblem yma o gwbl
– ac roedd diweddglo’r rhaglen yn dduach
nag un o ganeuon Datblygu, a hynny heb y gic glyfar
yn ei chynffon.
Rhaid
oedd wedyn gwylio rywbeth arall er mwyn anghofio’r
profiad, a dyma fi’n glanio ym myd operatig Canwr
y Byd 2009 ar BBC 2. Hawdd anghofio fod gennym gystadleuaeth
mor safonol a hyn yng Nghymru, a’i bod yn ein
gosod ar y map rhyngwladol mewn ffordd unigryw dros
ben. Yr unig broblem gyda’r rhaglen hon oedd llediaith
ofnadwy Aled Jones wrth iddo ynganu enwau Cymreig. Er
ei fod yn Gymro Cymraeg, mae’n amlwg ei fod wedi
arfer â plesio’r glust Seisnig. Pwy ar y
ddaear, Aled, yw Alien Manahan Thomas?
13/06/09

Rhyw wythnos yn ôl fe ofynnwyd imi sôn am
Britain’s Got Talent ar raglen radio. Roedd hi’n
un o’r galwadau ffôn hynny lle'r oedd yr
ymchwilydd mor gyffrous fod rhywun o’r diwedd
wedi ateb, fe siaradodd hi am bum munud cyfan cyn oedi.
Cefais hanes y cynhyrchiad o’r dechrau cyntaf
un, a chrynodeb o bob un person i ymddangos arni erioed.
Yn
y diwedd, mi wnes i wrthod y cyfle i gael gwyntyllu
aer poeth am raglen nad wyf erioed wedi ei gweld, a
sut y mae hi’n ecsbloetio pobl nad wyf yn becso
iot amdanyn nhw, ar sianel nad wyf byth yn ei gwylio.
Ond ers hynny, dwi wedi sylwi fod y rhaglen hon yn dechrau
cyffwrdd â fy mywyd i – gan ei bod yn raddol
yn cripian i mewn i’n diwylliant.
Cafodd
‘Britain’s Got Talent’ ei chrybwyll
mwy nag unwaith yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd,
gyda dyfyniadau megis ‘Wales’s Got Talent’
yn atseinio trwy ganolfan y Mileniwm. Bwriad y cymariaethau
oedd dangos cymaint o ‘flaen ein hamser’
ydym ni fel cenedl, ond roedd ‘na rywbeth afiach
am orfod cydnabod ‘Prydeindod’ yn y cyd-destun
hwn ar S4C. Ymhen dim, roedd Paul Potts ar Wedi 7 ac
Aled Haydn Jones yn diffinio’r wyl ar Radio 1
fel “Britain’s Got Talent ond ni oedd yn
neud e gyntaf.” Mae pawb, fe ymddengys, wedi anghofio
mai gwyl ieuenctid fwyaf Ewrop yw hi!
Ac
os ydym ni i gyd yn poeni gymaint â hynny am iechyd
meddwl Susan Boyle druan (sy’n Albanes gyda llaw
– ond bellach, yng nghyd-destun y rhaglen, yn
Brydeinwraig) - fe fyddai’n dda i ni gydnabod
nad ydym ninnau’n llawn llathen chwaith.
06/06/09

Mae
hi’n ddiwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd ym Mae
Caerdydd, ac yn gyfle felly, i adlewyrchu ar yr abrawf
hynod hwnnw o ddenu ieuenctid Cymru i’n prifddinas
am yr eildro mewn pedair blynedd. Er y bu tipyn o drafod
ar hyn ymysg ffyddloniaid yr wyl, dwi’n meddwl,
erbyn hyn, fod y penderfyniad wedi hen ennill ei phlwyf,
a hynny’n syml am fod y ddinas ei hun wedi datblygu
cymaint yn ystod y cyfnod hwnnw, ac wedi datblygu a
chryfhau ei hunaniaeth.
Mae
sawl un wedi sôn am faint o fraint yw hi i’r
cystadleuwyr gael perfformio ar lwyfan enfawr Canolfan
y Mileniwm, ac i gael meddiannu ein Senedd am wythnos
gyfan. Ond rhaid peidio meddwl mai braint iddyn nhw
yn unig yw hyn – gan ei fod hefyd, yn fwy ‘na
dim, yn gyfle i atgoffa Caerdydd am fodolaeth gweddill
Cymru. Ac yn fwy na hynny – i gynnal digwyddiad
yn yr iaith Gymraeg, o fore gwyn tan nos, ar lwyfan
sy’n gartref i gynifer o gynyrchiadau di-Gymraeg,
ac i atgoffa’r gynulleidfa o gyfoeth diwylliannol
yr iaith honno.
O
safbwynt y darlledu, hefyd, mae gweld golygfeydd trawiadol
o’r balconïau opera wrth i ni wylio’r
cystadlu yn wefr arbennig iawn i’r gynulleidfa
adre. Yr wythnos hon fe glywais rhywun mewn tafarn yng
Nghaerdydd yn datgan yn uchel yn Saesneg fod ei mab
newydd fod ar y teledu! Tynnwyd sylw’r dafarn
i gyd, a dyna lle fuon nhw, yn syllu’n gegrwth
ar y teledu yn y gornel, heb neb yn swnian am droi’r
sianel. A dyna ydy gwir lwyddiant yr wyl – y ffaith
y gall pawb gael y fraint o fod yn rhan ohoni.
30/05/09

Dwi’n
teimlo
rhyw falchder mawr wrth weld llwyddiannau BAFTA Cymru
2009 yn fflachio ar y sgrin fach bob hyn a hyn. Enillodd
S4C 17 o wobrau eleni, a hynny am nifer o gynyrchiadau
gwahanol, sy’n profi mor eang yw’r ystod
o weithiau a gynhyrchwyd yn y cyfnod ffurfiannol diweddar.
Braf
oedd gweld Martha, Jac a Sianco, addasiad ffilm o nofel
rymus Caryl Lewis, yn cael sylw haeddiannol am ei chlyfrwch
gweledol – gyda’r wobr am y cyfarwyddwr
ffotograffiaeth gorau yn mynd i Richard Wyn Huws, y
cynllunio gorau yn mynd i Phil Williams a hefyd y colur
gorau yn mynd i Stephen Williams.
Roedd
hi’n wych hefyd i weld dau actor hynod safonol
– Ifan Huw Dafydd a Sharon Morgan - yn cael cydnabyddiaeth
wedi gyrfaoedd hir ac amrywiol, ac i weld Con Passionate
yn cyrraedd y brig yng Nghymru o’r diwedd.
Ond
fyddai hi ddim yn ddigwyddiad Cymreig heb fod rhywun
yn cael cam – ac ro’n i’n sicr yn
teimlo fod Siwan Jones yn haeddu’r wobr am y sgriptio
gorau, a Mari Lovgreen a’i hegni gwyllt a gwirion
yn haeddu’r ganmoliaeth am y cyflwyno gorau.
Ond
o fewn yr un wythnos lle y cafodd S4C sylw positif dros
ben, penderfynodd y papur hwn newid safle S4C yn yr
adran deledu ddyddiol. Fe fydd y rhai craff yn eich
mysg wedi sylwi mai BBC 1 & 2, ITV a Sianel 4 sydd
bellach yn cael eu nodi fel prif sianeli Cymru o ddydd
Llun i ddydd Gwener, gyda S4C wedi ei gwthio i waelod
y dudalen, islaw Sianel 5. Ai camgymeriad yw hyn? Neu
a yw’r sianel yn ‘cael cam’ go iawn
y tro hwn?
23/05/09

Cafwyd
rhaglen ychydig yn fwy swmpus yr wythnos hon yng nghyfres
‘Wynebau Newydd’, sef dogfen pry-ar-y-wal
yn dilyn criw o ffrindiau – Bethan Marlow, Laura
Jones, Eilir Pierce a Matthew Walter – wrth iddyn
nhw dreulio pedair wythnos yn Malawi yn cynnal cwrs
ffilm gyda’r bobl leol.
Roedd
hon yn ddogfen amrwd iawn ar brydiau - yn dangos eithafion
emosiynau o ran y ddau griw, a hefyd yn cymryd y cam
dewr o gydnabod anawsterau’r prosiect. Yn hynny
o beth, doedd hi ddim wastad yn hawdd ei gwylio, yn
enwedig wrth weld gwrthdaro ynghylch perchnogaeth o’r
prosiect, ond roedd hynny hefyd yn ategu at gyfoeth
y rhaglen - am fod ‘na ddyletswydd ar unrhyw ddogfen
dda i greu ychydig o aflonyddwch ymysg ei chynulleidfa,
a chodi cwestiynau. Ond wedi dweud hynny, doedd ‘na
ddim byd amrwd am y ffordd y cyflwynwyd y deunydd, gyda’r
gwaith camera yn dal eiliadau pwysig mewn modd hynod
gynnil, heb ymyrryd ar brofiadau’r rhai a oedd
yn cymryd rhan. Hefyd, roedd agwedd uniongyrchol, di-flewyn
ar dafod tiwtoriaid y cwrs a’u parodrwydd i fod
mor onest wrth drafod eu profiadau a’u hamheuon
eto yn codi’r ddogfen i lefel uwch.
Yn
fwy ‘na hynny, roedd yma strwythur cryf, ac roedd
modd mwynhau’r cynhyrchiad fel naratif ynddo’i
hun, wrth ddilyn camau pwysig sawl unigolyn. Roedd gweld
hyder a phrofiad criw Malawi yn tyfu yn wirioneddol
arbennig, ac roedd uchafbwynt y rhaglen – sef
dangosiad y ffilm – yn un o funudau mwyaf grymus
y ddogfen. Hawdd iawn fyddai sentimentaleiddio’r
foment – ond clyfrwch y ddogfen, drwyddi draw,
oedd iddi ymatal rhag ildio i’r dehongliad hawdd,
ac i adael bylchau pwrpasol, diddorol, yn y stori.
16/05/09

Cafwyd
trafodaeth ddifyr ar ddwyieithrwydd ar Wynebau Newydd
yr wythnos hon, yng nghwmni Dr Enlli Thomas. Ac nid
yr un hen ddadl a gafwyd, ychwaith, ond y tro hwn, ymchwil
gwyddonol i’r pwnc, gan daflu goleuni newydd dros
ein hyblygrwydd ieithyddol ni fel Cymry, wrth edrych
ar batrymau meddwl plant dwyieithog yn benodol.
Cafwyd
canfyddiadau digon diddorol - sef bod y plentyn dwyieithog,
mae’n debyg, â sgiliau ymenyddol craffach
na rhai uniaith yn yr hirdymor, a bod ‘na fanteision
i bobl ddwyieithog o ran iechyd meddwl, gyda’r
ymchwil yn awgrymu fod eu hymennydd wedi hen arfer â
mwy nag un dasg, ac wedi dysgu anwybyddu un iaith er
mwyn canolbwyntio ar y llall.
A
phwy well i’n hatgoffa o glyfrwch cynhenid y person
dwyieithog na Rhydian Roberts, a lwyddodd i ddawnsio
o gwmpas y ddwy iaith mewn cyngerdd fawreddog yr wythnos
hon.
Meddyliwch
y sgiliau ymenyddol sydd angen arnoch chi i symud yn
slic o ‘Let’s Get This Party Started’
i ‘Pan Fo’r Nos yn Hir’, heb sôn
am y gallu i neidio allan o siwt secwins coch i siwt
ddu sgleiniog rhwng y ddau. Nid yn unig hynny - ond
i siarad Cymraeg gloyw â’r gynulleidfa a
cheisio apelio at y gynulleidfa di-Gymraeg, ac i ganu
cân a boblogeiddiwyd gan Kate Winslet gyda geiriau
newydd gan Tudur Dylan Jones! Heb sôn am gael
cyfeiliant gan delynores y Tywysog Siarl wrth ‘freuddwydio
am fynyddoedd hen fy ngwlad,’ ac i ganu’n
angerddol am Myfanwy a Phantom of the Opera o fewn munudau
i’w gilydd...
Anghofiwch
am wneud ymchwil ar blant – rheitiach fyddai plygio
ymennydd Rhydian Roberts yn syth i mewn i’r system.
09/05/09

Wythnos
digon bisâr a gafwyd ar S4C yr wythnos hon. Y
mae’r rhaglen ‘Wynebau Newydd’ wedi
hen sefydlu ei hun fel rhaglen ddogfen ‘amgen’
sy’n cyflwyno i ni'r rheiny sydd â stori
ddirdynnol i’w hadrodd. Ond yn achlysurol, mae’r
rhaglen anghofio’n llwyr am y nod hwnnw - ac yn
penderfynu y gwnaiff unrhyw wyneb y tro.
Yr
hyn a gafwyd yr wythnos hon oedd portread o DJ o ardal
Bangor, Marek Griffith, sydd bellach wedi ymgartrefu
yn Beijing, ag sydd, yn ôl ei gyfaddefiad ef ei
hun, yn dweud celwydd ar ei CV er mwyn cael gigs proffil
uchel. Nid yn unig hynny, ond mae e’n cydnabod
mai ‘Tsieinëeg tacsi’ sydd ganddo -
ac fe’i welwyd yn ceisio’i orau i gael sgwrs
gyda nifer o bobl yr ardal, ac yn methu. Drwy’r
rhaglen gyfan ro’n i’n chwilio am y rheswm
pam fod y stori hon yn unigryw. Yn goron am y cyfan,
roedden ni’n cael gweld y DJ digyfeiriad hwn yn
cael ei glustiau wedi eu glanhau, ac yna fe ddangoswyd
i ni weddillion y cwˆyr. Chwaethus tu hwnt.
Digon
rhyfedd hefyd oedd Dechrau Canu Dechrau Canmol, sy’n
dioddef o drawsnewidiad mympwyol arall. Roedd Luned
Emyr fel petai’n edrych lawr arnom o’r entrychion
nefolaidd, wrth i gôr dawnus o gantorion ifanc
berfformio mewn stiwdio a oedd heb ronyn o naws yn perthyn
iddo. Er mwyn parhau a’r gogwydd ‘ifanc’,
cafodd un o emynau Ann Griffiths ei ‘phoblogeiddio’
trwy enau Elin Fflur, a chafodd Cowbois Rhos Botwnnog
y cyfle i frefu eu fersiwn nhw o ‘Dwy Law yn Erfyn.’
Ac roedd fy nwy law innau’n erfyn hefyd, am resymau
gwahanol!
02/05/09

Mae’n
eithaf nodweddiadol o S4C i gymryd rhywbeth na fedrech
chi fyth ei wneud yn wyladwy, rhywbeth a fyddai’n
swnio yn ofnadwy ar bapur, a’i droi mewn i un
o lwyddiannau mawr y sgrin fach. Dyna sydd wedi digwydd
yn achos 04 Wal. Dyna eironi mawr y teitl wrth gwrs,
a’r rhyfeddod yw ein bod yn parhau i gael ein
synnu a’n rhyfeddu gan ddimensiynau diddiwedd
y waliau hynny.
A
bob tro dwi’n meddwl nad yw hi’n bosib iddyn
nhw wasgu mwy o ddeunydd allan o’r un hen fformiwla,
maen nhw’n dod o hyd i ffordd i wneud hynny, a
rhywsut, yn llwyddo i gyfiawnhau’r peth. A dwi
erioed wedi gwrthwynebu. Efallai bod hynny am fy mod
i mewn rhyw lesmair rhyfedd yn gwylio gwaith camera
trawiadol Stephen Kingston, gymaint felly fel nad ydw
i wedi meddwl cwestiynu’r hyn sydd o ‘mlaen
i, am ei fod e mor hardd. Bron fel petawn i wedi fy
hudo’n llwyr.
Ond
yr hyn sy’n ymddangos ychydig yn abswrd am y gyfres
gyfredol, sef 04 Wal: Gwestai’r Byd, yw ei bod
hi’n cael ei darlledu yn ystod cyfnod cythryblus
y wasgfa ariannol, pan mae’r rhelyw ohonom yn
troi cefn ar westai drud ac yn dewis mynd ar wyliau’n
nes adre. Nid fod y rhaglen yn ein hannog i ymweld â
Marrakech a Barcelona, wrth gwrs, dim ond i fwynhau’r
bensaernïaeth, fel ‘tasai hynny
gyfystyr â chael gwyliau braf ynddo’i hun.
Mae Aled Sam, chwarae teg iddo, yn cymryd gwyliau ar
ein rhan, a’r neges yw - does dim ots os
ewn ni gyd i’r wal – achos mae ‘na
ddigon o waliau eraill wrth gefn...
25/04/09

Er
ein bod yn dal i straffaglu i ffeindio fformat addas
ar gyfer cyflwyno cerddoriaeth ‘boblogaidd’,
mae’n amlwg fod ‘na dipyn mwy o ddeallusrwydd
a gweledigaeth gennym wrth ymdrin â cherddoriaeth
glasurol – fel y profodd amryw o gynyrchiadau
safonol yr wythnos hon.
Y
cyntaf o’r rhain oedd cynhyrchiad ‘Shân
Cothi’, sef cyfres newydd o gerddoriaeth a sgwrs
yng nghwmni’r soprano poblogaidd. Er na fydd y
sioe yn apelio rhyw lawer at gynulleidfa iau, nac ychwaith
yn cymryd lle Con Passionate, mae hi’n sicr yn
llwyddo i gau’r bwlch rhwng y rheiny sy’n
dibynnu ar Noson Lawen am ddifyrrwch, a’r rheiny
sy’n mwynhau cerddoriaeth o bob math. Unwaith
eto – yr hyn sy’n gyfrifol am lwyddiant
y rhaglen yw personoliaeth hynaws, gynnes y cyflwynydd
– sy’n parchu ei gwesteion ac yn gwneud
i’r gynulleidfa deimlo eu bod nhwythau’n
rhan o’r profiad.
Roedd
‘Papa Haydn’ hefyd yn gynhyrchiad diddorol
dros ben, gyda Elin Manahan Thomas yn ein tywys trwy
hanes y cyfansoddwr dylanwadol o Awstria, gan ganfod
ongl Gymreig i’w waith, ac ymchwilio ymhellach
i’r ffaith iddo gyfansoddi trefniannau i gannoedd
o alawon Cymreig yn ystod ei yrfa. Unwaith eto, roedd
diddordeb cynhenid Elin ei hun yng nghynnwys y ddogfen,
yn ogystal â’i dehongliadau disglair o’i
waith, yn rhoi sglein arbennig i’r cyfanwaith,
ac yn rhoi dyfnder cerddorol i’r ffeithiau. Roedd
ôl cynllunio gofalus yma – gyda Elin yn
cymryd sedd ôl ar brydiau, er mwyn gadael i ni
werthfawrogi dehongliadau offerynnol gwych yr Haydn
Trio Eisenstadt.
Roedd
edrychiad y rhaglen hefyd yn drawiadol, gyda’r
cynhyrchu a’r cyfarwyddo yn sicrhau fod yma rhaglen
a oedd, er yn Gymreig, ag iddi ymdeimlad ac apêl
Ewropeaidd.
18/04/09

Er
fy mhryder am ymgais y cyfryngau i ‘Eingl-Americaneiddio’
Côr Cymru, mae’n rhaid dweud fod y rownd
derfynol hynod safonol ar nos Sul wedi llwyddo i dawelu
fy amheuon. Roedd hyd yn oed y ‘Copacobana’
yn swnio fel ‘tae’n glasur Cymreig (yn fwriadol
ai peidio!) ac roedd pob un o’r corau wedi llwyddo
i gynnig rhaglen a oedd hefyd yn rhyngwladol ei rhychwant.
Ond
o ran gosod naws a chreu rhaglen wirioneddol adloniannol,
Heledd Cynwal sy’n haeddu’r clod yn bennaf
– gan iddi lywio’r cyfan mewn ffordd mor
agos-atoch fel ei bod bron ar y soffa gyda chi. Gresyn
na fyddai pob cyflwynydd yng Nghymru yn llwyddo i gyfuno’r
un graddfeydd hyfryd o broffesiynoldeb pur a phersonoliaeth
afieithus. Ymhlith y sylwadau cofiadwy a wnaed ganddi
oedd dweud wrth yr arweinydd buddugol, Sioned James,
“O’dd isie neud gymaint o jibs fan ‘na?”
a dweud wrth Islwyn Evans, arweinydd y côr buddugol
– “Gynta’i gyd – ‘llai
gael cwtsh?” Nid yn unig hynny, ond fe wnaeth
hi lwyddo i ffrwyno hysteria’r Neuadd Fawr gydag
un ystum slic, a chadw’r gybolfa at ei gilydd
tan yr eiliad olaf un – tipyn o gamp ar raglen
fyw.
Ac
er mwyn parhau â fy ffics gelfyddydol, braf oedd
gweld y Sioe Gelf yn ôl o’r diwedd, lond
ei chroen o gynnyrch creadigol newydd. Cafwyd rhaglen
safonol yn cynnwys eitemau mor amrywiol ag Amrywiadau
Goldberg Catrin Finch, ffilm ddiweddar Meic Povey am
Ryan a Ronnie, nofel arloesol William Owen Roberts,
Petrograd, a hefyd gwaith aml-ochrog yr artist Menna
Angharad. Yn wir, roedd hi’n rhaglen mor apelgar
nes gwneud i mi gwestiynu sut y bu modd i mi fyw hebddi...
11/04/09

Aed
â ni i fyd o liw yr wythnos hon, yng nghwmni un
o gymeriadau mwyaf lliwgar y celfyddydau, Osi Rhys Osmond.
Roedd hon yn rhaglen soffistigedig, gwahanol iawn i’r
arfer, gyda phob elfen ohoni – o’r graffeg
i’r gwaith camera – yn creu ymdeimlad rhyngwladol,
gyda’r bwriad, am wn i, o fedru gwerthu’r
rhaglen i wledydd ar draws y byd.
A
pham lai? Mae apêl y gyfres hon yn eang dros ben
– nid yn unig y mae hi’n cyffwrdd â
dychymyg y rheiny sydd â diddordeb mewn lliwiau
o safbwynt artistig, ond hefyd y rheiny sydd yn mwynhau
ymchwilio i seicoleg ac athroniaeth lliwiau. Mae ‘na
hefyd ddeunydd hanesyddol a gwyddonol diddorol ynghlwm
â’r rhaglen, gydag ymchwil arloesol yn cael
ei ddefnyddio i geisio esbonio a dadansoddi perthynas
yr unigolyn gyda lliwiau.
O’r
cychwyn cyntaf, felly, cafwyd rhaglen a oedd yn fwy
angerddol, rhywsut, na’r dogfennau taith arferol
sy’n britho’r sianel, a hynny gan fod Osi
yn gwneud i ni deimlo ei fod yntau – a ninnau
– ar gwest, a fod yn rhaid ei ddilyn i’r
pen. Ro’n i wedi fy nghyfareddu gan ganfyddiadau
bychain – fel dimensiwn lliw deublyg y mamaliaid,
neu’r ffaith fod babanod yn dysgu ‘iaith
lliw’ wrth fynd yn hyˆn. Yn sicr fe wnaeth
y rhaglen hon bwysleisio’r ffaith fod lle i ragor
o raglenni heriol, athronyddol eu naws ar ein sianel.
Mae’n
amlwg, hefyd, fod gennym ddigon o arbenigwyr craff i
gyfrannu at y drafodaeth, a digon o artistiaid diddorol
i ddehongli’r canfyddiadau, ac roedd hi’n
braf gweld ambell sylwebydd newydd yn dod i’r
amlwg fan hyn, a’u cyfraniad yn ategu lliw arall
at ein sbectrwm arbennig ni.
04/04/09

|
|
|