| Yr
wythnos hon, cafwyd rhifyn arbennig o’r Sioe Gelf,
yn canolbwyntio ar gynllun a gwneuthuriad Cadair Eisteddfod
Genedlaethol Caerdydd 2008. Wrth weld y teitl ‘Y
Gadair’ ro’n i wedi disgwyl math gwahanol
o raglen, un yn ymdebygu i’r hyn a ddarlledwyd
rai blynyddoedd yn ôl ynghylch cystadleuaeth y
Goron, lle roedd yn rhaid gwylio’r beirniaid yn
trafod a thraethu hyd syrffed. Diolch byth, y tro yma
penderfynwyd canolbwyntio ar rywbeth llawer mwy diddorol
na’r gystadleuaeth ei hun – sef hanes y
cadeiriau – y darnau o gelfyddyd sydd yn rhy aml
o lawer yn cael eu cysgodi gan ben ôl rhyw Brifardd
neu’i gilydd.
Cynllunydd
modern, dinesig sydd wrth y llyw y tro hwn, sef Bethan
Gray o’r siop stryd fawr Habitat, ac yr oedd hi’n
wych o beth i weld y Gadair hon yn blaguro dan ei harweiniad
disglair wrth i’r raglen fynd yn ei blaen. Rhoddwyd
hefyd cyfle i ni gael cipolwg ar ambell gynllun o’r
gorffennol, gan ymweld â rai o’r cartrefi
cynnes, croesawgar lle y cedwir y cadeiriau hanesyddol
hynny.
Ymhlith
y mwyaf trawiadol yr oedd cadair ‘Shanghai’
Gwenallt, a gipiwyd yn 1926, ac roedd hi’n syndod
gweld y manylder cain a chelfydd arni. Cawsom ein hatgoffa
hefyd o’r hw-ha-hynod-Gymreig a achosodd cadair
Myrddin ap Dafydd yn Eisteddfod Tyddewi yn 2002.
Yn
ddiddorol ddigon, ‘doedd gan y Prifardd ei hun
ddim problem gyda’r cynllun arbrofol hwn, ond
roedd sawl un wedi cwyno ei bod hi’n amharchus-o-arbrofol
ac na fydden nhw’n derbyn cadair o’r fath
hyd yn oed petaen nhw’n ddigon ffodus i ennill.
“Dwi’n siwr fod hynny’n debygol,”
ebe Myrddin, gyda gwen slei...
28/06/08

Braf
o beth oedd gweld ffrwydriad o gerddoriaeth ar y sgrîn
fach yr wythnos hon, gan annog gwylwyr i droedio’r
tir neb rhwng jazz a Bryn Fôn, mewn dwy raglen
gerddoriaeth newydd sbon.
Gogoniant
“Breuddwyd Sax Osian Roberts” (Ffilmiau
Salem) oedd y cyfarwyddo, gyda’r cynllunio gofalus
yn rhoi cyfle i ni weld Efrog Newydd ar ei gorau. Gwnaed
defnydd eiconig, clyfar o’r golygfeydd a’u
plethu’n gynnil ac yn ddeallus i wead y naratif
mewn ffordd hynod apelgar. Os rhywbeth, ‘doedd
y cynnwys ei hun – hynny yw, mân fyfyrdodau
Osian ynghylch ei ‘freuddwyd’ - ddim yn
haeddiannol o’r fath fframwaith. Ond serch hynny,
cafwyd cynhyrchiad tu hwnt o safonol a roddodd sylw
haeddiannol i sacsoffonydd eithriadol o ddisglair –
a chan lwyddo i gyfleu cerddoriaeth mewn modd a oedd
ar unwaith yn finimalistaidd ac yn gyfoethog, yn falm
i’r synhwyrau.
Gyda
“Bandit” bellach wedi encilio i’w
chragen danddaearol, bwriad ei chwaer-rhaglen “Nodyn,”
am wn i, yw rhoi llwyfan i gerddoriaeth mwy poblogaidd,
gydag Elin Fflur yn cynnig lloches hafaidd i’r
rheiny sydd wedi diflasu ar hyfdra’r ddau Huw.
Fe fydd yn rhaid aros am rai wythnosau i weld sut y
gwnaiff y rhaglen hon ‘dyfu’ ar ei chynulleidfa
darged, ond yn sicr y mae yma newydd-deb - gyda’r
cysylltiad rhwng artist a chynefin yn argoeli’n
elfen addawol wrth greu set drawiadol a dehongli lleoliadau
‘go iawn’ mewn ffyrdd chwaethus a chreadigol.
Cymysg
oedd y rhaglen gyntaf hon o ran ei chynnwys. Cafwyd
caneuon gwych gan Brigyn, gyda chymorth yr hyfryd Siân
James, tra profodd ‘Y Philbennetts’ bod
modd cymryd y band allan o Gwmderi ond nid Cwmderi allan
o’r band…
21/06/08

Ar
ôl cyffro Caerdydd, siom braidd yw gorfod arallgyfeirio
at Faes Menai. Diolch byth, dyma’r gyfres olaf
o Tipyn o Stad, a hynny’n addas ddigon gan fod
y straeon oll yn troi mewn cylchoedd syrffedus. Mae
hynny i’w ddisgwyl mewn sebon, sy’n ddibynnol
ar straeon adnewyddadwy, ond mewn cyfres ddrama achlysurol
mae’r fath ailbobi yn llafurus, ac yn atynu’r
bawd at y botwm.
Erbyn
hyn, yr wyf wedi osgoi’r botwm hwnnw, ac wedi
palu fy ffordd trwy ddwy bennod (ac yn gobeithio y bydd
fy ngwobr yn fawr yn y nefoedd am hynny.) Mae Kylie’n
disgwyl, ar drothwy ei phen-blwydd yn bymtheg (fel yr
oedd Cheryl yn y penodau cyntaf), mae Ed Lovell yn dal
i lechu yn y cysgodion yn swnio fel Barry White blinedig,
ac mae Susan yn dal i wichian ei ffordd i lawr llwybr
yr ardd yn ei sodlau – sydd fymryn yn ddrutach,
nawr, wedi iddi ennill ffortiwn ar y Bingo. Straeon
digon derbyniol, am wn i – ond nid straeon-tanio-cyfres,
nac ychwaith rhai a fydd yn gwneud i ni eisiau gwybod
mwy am ffawd rhagweladwy-anffodus trigolion Maes Menai.
Yr
un hen gwyn sydd gen i, sef bod yma actorion da sy’n
cael eu gwastraffu, a’u bod yn cael eu hamddifadu
o gyfleoedd i ddod â hiwmor neu gwir angerdd i’w
perfformiadau. Mae rhywun yn hiraethu am gymeriadau
fel Keith a’i lygaid mawr, neu hyd yn oed Susan
ar ei doniolaf. Neu beth am garwriaeth tymhlestlog ond
hynod ddiddorol Stud a Heather? Ond dyna ni, o leia’
mae ‘na un peth da wedi dod yn sgil meddalu’r
cynnwys - o leiaf mae’r arwydd-gân fel petai’n
gweddu i’r rhaglen o’r diwedd!
14/06/08

Fel
rhan o flwyddyn werdd ein sianel, fe lansiwyd nifer
o raglenni yn ddiweddar sy’n ein hannog i fod
yn fwy ymwybodol o faterion amgylcheddol, gyda’r
camerâu’n raddol droi oddi wrth setiau llwyd
ein sebonau a thuag at lesni iach yr awyr agored. Y
diweddaraf o’r rhain yw ‘Byw yn yr Ardd’
– cyfres lle y caiff Bethan Gwanas y cyfle i arogli
ei ffordd trwy erddi Cymru tra bod ei chydymaith Russell
Jones yn rhaw-radlon a’i ben yn y pridd.
Do’n
i ddim wedi disgwyl mwynhau’r rhaglen hon o gwbl,
yn enwedig a minnau’n treulio fy niwrnodau heulog
yn syllu’n edifarhaol ar goncrid y patio wrth
gefn y t?. Ond buan y sylweddolais nad oes yn rhaid
i chi fod â gardd ysblennydd i fwynhau rhaglen
fel hon, am ei bod yn ddigon eang a chynhwysfawr i apelio
at y rheiny sydd heb fysedd gwyrdd o unrhyw fath. Fe’m
synnwyd gan y ffaith ‘mod i’n gwrando mor
astud ar gyngor syml-ond-sylweddol Russell Jones, gan
gynhesu’n syth bin at arddull di-lol y rhaglen
wrth ymdrin â’i thestun. Roedd gweld Merched
y Wawr yn bodio’u ffordd trwy Ardd Berlysiau y
Bontfaen hefyd yn ddifyr dros ben, ac roedd y ffaith
i mi gael fy nghyfareddu gan chwyn yn annisgwyl-ddigon!
Mae
yma hefyd waith camera bendigedig a chynhyrchu disglair
– sy’n sefydlu naws a brand arbennig i’r
rhaglen hon i gyd-fynd â ‘gwyrddni’
tymhorol ein sianel. Mae yna hefyd wefan gynhwysfawr
sy’n ategiad pwysig at y rhaglen ac yn cynnal
ei gweledigaeth yn effeithiol trwy gyfrwng blogiau gan
Bethan Gwanas. Yr unig beth sy’n rhaid i mi wneud
nawr yw dod o hyd i ardd...
07/06/08

Daeth
Eisteddfod yr Urdd i lenwi’r sgrin unwaith yn
rhagor, yn grysau llachar ac yn walltiau glân
ac yna’n fwd i gyd. Bum yn dilyn y rhaglenni nosweithiol
gyda’r brwdfrydedd arferol, yn mwynhau’r
cystadlu, y trafod, a’r traethu, gan geisio esgus
‘mod i’n ifanc drachefn. Uchafbwynt yr wythnos
imi oedd gweld criw o ferched ifanc yn chwarae “Teddy
Bears’ Picnic” ar eu telynau wedi’u
gwisgo fel eirth, a’u clustiau melfedaidd yn siglo
dan y tannau – dim ond yn ‘Steddfod yr Urdd!
Hyfryd
o beth oedd gweld teilyngdod ym mhrif seremoniau’r
Urdd yr wythnos hon, er fy ‘mod yn dal i deimlo
fod absenoldeb y Fedal Lenyddiaeth yn gadael bwlch enfawr
yn yr wyl – un nad yw’n cael ei lenwi’n
ddigonol gan y cystadleuthau eraill, ac sy’n cyfyngu
ar greadigrwydd a dyfeisgarwch yr ymgeiswyr. Mae gwir
angen i’r Urdd ail ystyried y cam gwag hwn, ac
i ymrwymo i roi mwy, a nid llai o sylw i gystadleuthau
llenyddol yr Urdd, sy’n rhan mor bwysig o feithrin
a hybu awduron newydd, cyffrous, a fydd yn cynnal ac
yn herio’r byd lenyddol yng Nghymru.
Digon
‘creadigol’, serch hynny, oedd cyflwyniad
cwmni hanner a hanner o’r wyl, gyda rhaglenni
nosweithiol wedi eu llywio’n slic gan Nia Roberts,
er gwaetha’r ffaith ei bod yn cael ei gosod tu
ôl i finiau, byrddau, balwns – unrhywbeth
i roi naws ‘amgen’ i’r dweud –
lle, yn yr hen ddyddiau, mi fyddai bwrdd a chadair wedi
bod yn hen ddigon i gyd-fynd â naws ffurfiol-ddigon
y cystadlu. Wedi dweud hynny, mae’r arlwy yn gyffredinol
wych, gyda S4C digidol yn byrlymu gyda gweithgarwch
gydol y dydd, sy’n nefoedd i sawl Mamgu falch,
mae’n siwr, ag ambell has-bîn, fel finnau!
31/05/08

Wythnos
ddu y bu hi’r wythnos hon ar ein sianel fach ni,
mewn mwy nag un ystyr. Mae’n siwr bod ffans Dinas
Caerdydd wedi dychwelyd o Wembley yn ddigalon y penwythnos
diwethaf, yn enwedig gyda’r parti eisioes wedi
ei drefnu, a’r poteli siampen yn barod i’w
hagor. Ond roedd ‘na un gwylwraig frwd yn ddigon
hapus bod modd bellach troi at sylwebaeth Radio Cymru
wrth wylio ar BBC 1, ac roedd hynny’n ddigon o
fuddugoliaeth i mi, ynghyd â’r profiad o
gael clywed Hen Wlad Fy Nhadau yn cyfareddu clustiau
cynulleidfaoedd ledled y byd.
Ond
mae’r Caerdydd ffuglennol bellach yn dechrau codi
stem ar ôl wythnosau o bendilio rhwng dinodedd
a dagrau, gyda’r pegwn dramatig yr wythnos hon
yn codi’r tensiwn i lefelau newydd, cyffrous.
Un o fendithion y gyfres yw gweledigaeth y cyfarwyddo,
wrth i ni weld ambell gyfeiriadaeth ffilmig yn cael
ei daflu i’r potes, gan ddwysau naratif ‘corff
Danny’ yn hynod effeithiol. Roedd y bennod hon
yn arswydus yn y ffyrdd gorau i gyd, a’r stori
yn dal i droelli yn fy meddwl ymhell wedi i mi ddiffodd
y sgrin.
I’r
busnes angladdau a ni wedyn, mewn rhifyn arbennig o
O Flaen Dy Lygaid, gyda’r duwch yn cymryd dimensiwn
newydd, amrwd o real. Rhaglen bisâr-ddigon oedd
hon mewn sawl ffordd, ond cafwyd amrywiaeth eang o fewn
y dweud, gan ddilyn cwmni Gwilym Price a’i Fab
yn ogystal ag ymweld â rhai o fynwentydd ‘amgen’
Cymru, fel Gwarchodfa Boduan ym Mhen Llyn. Unwaith eto,
roedd ‘na weledigaeth wrth gynhyrchu a chyfarwyddo,
a rhai golygfeydd unigol, bendigedig, yn llwyddo i roi
darlun urddasol o’r bobl gyffredin tu ôl
i’r llenni trymion.
24/05/08

Mewn
oes lle mae canlyniadau DNA yn cael eu defnyddio fel
esgus i bobl fygwth ei gilydd ar raglenni fel Jeremy
Kyle, roedd hi’n ddifyr iawn gweld yr arfer hynny
yn cael ei roi at ddefnydd mwy diwylliannol mewn rhifyn
arbennig o ‘O Flaen dy Lygaid’ yr wythnos
hon. Roedd y rhaglen yn gofyn y cwestiwn - Ydw i’n
Gelt? – gan osod nodweddion o’r hunaniaeth
honedig-Geltaidd honno mewn cyd-destun diwylliannol,
cyn ceisio ei phrofi, neu ei gwrthbrofi, mewn prawf
DNA.
Ar
y naill llaw, mae’r syniad o selio hunaniaeth
o unrhywfath ar brofion gwyddonol yn bisâr-ddigon,
ac yn wrthun mewn ffordd (hynny yw, ry’ch chi’n
gallu gweld sgets Cnex yn barod), ond ar y llaw arall,
ro’n i’n canfod fy hun yn llawn chwilfrydedd
wrth i’r canlyniadau gael eu datgelu. Un peth
yw hel achau, wedi’r cyfan, ond mae’n gwead
mewnol yn olrhain stori llawer hyn.
Dyma
enghraifft arall o’r ffordd y mae’r gyfres
‘O Flaen dy Lygaid’ wedi llwyddo i ymdrin
yn sensitif ac yn ddeallus gyda phynciau sy’n
gwbl-Gymreig. Yr awduron Dewi Prysor a Catrin Dafydd
oedd y testunau dan sylw, y naill yn ystyried ei hun
yn Frython o’r radd flaenaf, a’r llall yn
gweld ei hun fel Cymraes Ewropeaidd, ac roedd hi’n
ddiddorol iawn cael clywed safbwyntiau y ddau ar yr
hyn sy’n ein gwneud yn wir Geltiaid.
Mae
hi’n sicr yn rhaglen a fydd yn esgor ar drafodaeth
danbaid, gan fod angen dadansoddiad manylach o’r
cysyniad cymhleth hwn. Ond mae’n siwr ei bod wedi
gwneud i sawl un feddwl wrth syllu i’w adlewyrchiad
y noson honno, gan chwilio am nodweddion Hwngaraidd,
Albanaidd neu frenhinol hyd yn oed!
17/05/08

Er
mai rhaglenni S4C sy’n dueddol o gael y prif sylw
yn y golofn hon fel arfer, mae’n werth bwrw golwg
ar raglen a gafodd ei darlledu ar BBC 2 Cymru yn ddiweddar,
sef “Rhondda Boy on Broadway” gan gwmni
Torpedo. Dyma raglen a allai’n hawdd fod wedi
cael ei darlledu ar S4C, rhaglen a oedd yn ymdrin yn
soffistigedig â thaith emosiynol yr actor Daniel
Evans wrth iddo baratoi ar gyfer cynhyrchiad o ‘Sunday
in the Park with George’ yn Broadway.
Roedd
yr ymdriniaeth o’r deunydd celfyddydol yn hynod
o drawiadol, gyda’r gwaith camera a’r cynhyrchu
gwych yn cyfateb yn berffaith i’r cynnwys diddorol,
aml-haenog. Roedd y cyfweliadau gyda Daniel Evans a
Stephen Sondheim hefyd yn ategu cryn dipyn i’r
cyfanwaith, gyda’r cynhyrchiad hefyd yn llwyddo
i fynd dan groen cymeriad George, yn ogystal â
dadansoddi elfennau o bersonoliaeth Daniel ei hun.
Rhaglen
gelfyddydol arall o safon a ddarlledwyd yr wythnos hon
ar S4C oedd “Melys Lais” gan gwmni Apollo.
Bywyd y canwr carismataidd o Sir y Fflint, David Lloyd,
a oedd dan sylw, gyda’r canwr Rhys Meirion yn
ein tywys trwy ei fywyd a’i yrfa. Anodd meddwl
am neb mwy addas i adrodd y stori hon, ac yn sicr roedd
arddull diymhongar, cynnes ac urddasol Rhys Meirion
yn gosod cywair arbennig i’r rhaglen.
Fe
strwythurwyd y rhaglen yn ofalus, gan rhoi darlun cyflawn
dros ben i ni o fywyd y canwr, gan gwmpasu’r llon
a’r lleddf, yr entrychion a’r gwaelodion,
gan dynnu ar lu o gyfranwyr gwybodus a theyrngar. Gwnaed
defnydd pwrpasol hefyd o’r gerddoriaeth trwy gydol
y ddogfen, gan roi cyfle i ni ail-brofi’r nodau
dagreuol, ysgytwol a oedd yn nodweddu nid yn unig ei
lais, ond ei fywyd, hefyd.
10/05/08

Braf
oedd gweld nifer o raglenni S4C yn cipio gwobrau yn
y BAFTAS eleni, gyda chyfresi poblogaidd fel y Pris
a Rownd a Rownd yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol am
gynyrchiadau o safon. Ro’n i hefyd yn hynod o
falch i weld Rhodri Evan yn cipio’r wobr am yr
actor gorau, ag yntau’n actor crefftus na gafodd
hen digon o gydnabyddiaeth hyd yma.
Actorion,
wrth gwrs, sy’n rhoi egni a deinameg i unrhyw
sgript dda, a’r cyfuniad unigryw hwnnw sy’n
gyfrifol am lwyddiant y gyfres gyfredol o Caerdydd.
Dwi’n gallu eistedd i lawr i wylio’r gyfres
gyda hyder yn y perfformwyr, yn gwbod na chaf fy siomi
gan y cast hynod gryf sydd yma, sy’n cynnwys actorion
fel Rhian Green, Alys Thomas, a’r actor ifanc
hynod addawol, Dyfan Dwyfor.
Ond
fel un sydd wedi gwylio’r gyfres i gyd –
ac yn ei gwylio eto, cymaint yw ei hapel – y rheiny
sydd wir yn serennu yn y gyfres hon i mi yw Mali Harries,
Gareth Pierce, a Ryland Teifi, tri actor sydd ag ystod
eang o gyweiriau dramatig, a sy’n gallu dehongli
cymeriadau gyda deallusrwydd a sensitifrwydd arbennig.
Mae ‘na ddyfnder a chynhesrwydd anhygoel i berfformiadau
Mali Harries, tra bod Gareth Pierce a’i arddull
nwyfus, ffug-naif, yn glyfar a chelfydd. Mae Ryland
Teifi hefyd wedi creu haenau amrywiol a diddorol i gymeriad
a allai’n hawdd fod yn ystrydebol, gan roi stamp
diamheuol ei hun ar gymeriad Peter Marshall.
Mae
‘na gymaint fwy i’w ddweud am y gyfres hon,
ond ar hyn o bryd, mae’n braf cael eistedd nôl
a mwynhau’r perfformiadau, a chlodfori’r
ffaith bod gennym actorion sydd nid yn unig yn dehongli
sgript, ond yn ei diffinio.
03/05/08

Mewn
rhifyn arbennig o ‘O Flaen Dy Lygaid’ yr
wythnos hon, cafwyd cyfle unigryw i olrhain gyrfa dau
wr camera, Tomi Owen a Ken Davies, a fu’n lygad-dystion
i rai o ddigwyddiadau mwyaf dirdynnol hanes Cymru. Gyda’r
ddau bellach wedi ymddeol ac yn eu saithdegau, roedd
hwn yn gyfle prin i elwa ar atgofion a phrofiad y ddau,
ac i roi agwedd gynnes a chyfarwydd i ddarnau o ffilm
sydd bellach yn gofnodion hanesyddol pwysig.
Dyma
raglen ddisglair a deallus, gyda phob un o’r cyfweliadau
yn bwrpasol ac yn safonol, a’r straeon wedi eu
gwau’n gelfydd i’r clipiau a ddangoswyd.
Dyma dystion trychineb Aberfan, Streic y Glowyr, buddugoliaeth
Gwynfor, trychineb y Sea Empress, a llu o ddigwyddiadau
arwyddocaol eraill, tystion mud, arwrol a fu wrthi’n
creu darnau celfydd o ffilm, gan dangos sensitifrwydd
a dyfeisgarwch arbennig wrth wneud hynny. Roedd ambell
i glip o ffilm – yn enwedig y golygfeydd o angladd
plant Aberfan – yn drawiadol o drasig, ac yn sicr
yn tystio i ba mor heriol fu gwaith y ddau yma ar brydiau.
Dyma
un o’r rhaglenni dogfen gorau
imi ei gweld ar y sianel ers amser maith, a hynny’n
bennaf am ei bod yn codi cwestiynau moesol diddorol.
Fel dywed y ddau, roedd hi’n anodd weithiau i
wahanu llygad y camera rhag eu llygaid go iawn, gan
fod modd gweld mwy, weithiau, wrth roi’r camera
i’r naill ochr, a chynorthwyo’r rheiny mewn
angen. Ond eto, pe bai’r ddau wedi gwneud hynny’n
ormodol, ni fyddai gennym y dystiolaeth i gyfoethogi
ein dealltwriaeth o’r digwyddiadau hynny. Ac yn
hynny o beth, dynion camera yw arwyr distaw hanes, a
braf eu gweld o flaen y camera y tro hwn.
26/04/08

Braf
yw gweld Cwpwrdd Dillad yn dychwelyd i’r sgrin
ar gyfer cyfres safonol arall. Dyma raglen sy’n
sicr ymhlith y mwyaf deheuig a chelfyddydol ar y sianel
o ran ei gwaith camera arbennig, a hyd yn oed os nad
ydych yn dilyn ffasiwn mewn unrhyw ffordd, mae hi’n
dal yn werth gwylio’r rhaglen i fwynhau’r
golygfeydd; i weld mor drawiadol yw’r deunydd
gweledol, mor arbennig o drydanol yw’r lliwiau
a’r onglau, a rheiny’n para’n hir
yn y cof wedi i’r cyfweliadau bylu.
Rhaglen
bisâr-ddigon oedd rhifyn yr wythnos hon, gan gyflwyno’r
amrywiaeth mwyaf anhygoel o gymeriadau a gwisgoedd.
Yn gyntaf, dyma bori yng nghwpwrdd eclectig a retro
y cerddor Catrin Jones, a gynigiodd i ni gipolwg trawiadol
ar sut i greu persona o fewn y byd perfformio. Yna,
draw a ni at fyd ynysig-ddigon Vallan Astley, sef ‘trawsnewidiad’
y gyfres. Dyma eitem sydd wedi cynnig rhyw ffresni newydd
i fformat y rhaglen, ac sy’n ymdrechu i fynd dan
groen cymeriad, yn hytrach na ‘mond eu dillad,
a hynny’n sicr yn cyfoethogi’r profiad i’r
unigolyn hwnnw, yn ogystal â’r gynulleidfa.
Nid trawsnewidiad ffasiynol yn unig mohono, felly, a
da o beth yw hynny, wrth i Vallan ddiosg ei ‘sgidiau
rhedeg arferol am rywbeth llawer mwy chwaethus, dan
arweiniad Eleanor Gardner.
Yn
gorffen y rhaglen yr oedd Nia a Lisa Pugh, mam a merch
sy’n gwrthod gadael y ty
heb golur, ac yn gorfod dychwelyd adre os fydd ‘na
rywun mewn digwyddiad wedi gwisgo’r un dilledyn
â nhw. Dyma ddiweddglo slic a chlyfar i raglen
a oedd ganddi naratif dieiriau ei hun, a oedd yn profi
nad llathen o’r un brethyn yw pawb…
19/04/08

Yr
wythnos hon fe ddychwelodd y Sioe Gelf i’r sgrîn
fach, gan apwyntio Lisa Gwilym fel wyneb newydd y gyfres
gelfyddydol. Dyma gyflwynwraig sydd wedi hogi ei chrefft
ar nifer o raglenni’r sianel, ac un sy’n
camu i’r adwy gyda phroffesiynoldeb a hygrededd.
Mae cynnwys y rhaglen hefyd yn parhau yr un mor safonol;
wrth fwrw cipolwg ar fyd opera, celf a ffuglen wyddonol
mewn rhifyn cynhwysfawr.
Rhaglen
newydd arall a ddarlledwyd yr wythnos hon oedd “Caru’n
troi’n Chwerw,” dogfen sydd â’i
theitl (ynghyd â Lle Aeth Pawb?) yn nodweddu’r
argyfwng teitlau ry’n ni’n ei ddioddef ar
hyn o bryd yng Nghymru. Bwriad y rhaglen oedd addysgu’r
Cymry ynglyn â chlefydau rhywiol, gan annog trafodaeth
agored ynghylch y pwnc sensitif hwn.
Yn
ei hanfod, dyma raglen ddeallus yn llawn gwybodaeth,
a llwyddodd i osod clefydau rhywiol yn eu cyd-destun
hanesyddol a diwylliannol. Cafwyd cyfraniadau diddorol
gan lu o arbenigwyr o nifer o feysydd gwahanol, o’r
gwyddonol i’r barddonol. Ond eto i gyd, roedd
‘na ddiffyg dyfeisgarwch yn y modd y cyflwynwyd
y deunydd yma, ac wrth ystyried mai bwriad y rhaglen
oedd tynnu sylw at sefyllfa argyfyngus, mae’n
anodd deall pam y dewiswyd ffordd mor ddogfennol-ystrydebol
o wneud hynny – fel petai Siffilis a Chlamydia
yn lawysgrifau canol-oesol – yn enwedig wrth feddwl
mai prif nod y rhaglen oedd targedu pobl ifanc.
Yn
y cyfamser, mae’n siwr bod y gynulleidfa darged
yn aros yn eiddgar am rifyn arall o ‘Caerdydd,’
sy’n llawn dyfeisgarwch a ffresni. Dyma ddrama
sydd wedi aeddfedu cryn dipyn ers y dyddiau cynnar,
gyda’r gyfres hon yn argoeli i fod un ffrwydrol.
Dwi eisioes wedi gwylio’r gyfres yn ei chyfanrwydd,
felly taw pia hi, am y tro!
12/04/08

Yr
wythnos hon fe fûm i’n gwylio’r gyfres
‘Lle Aeth Pawb?’ Pan gyrhaeddodd y tapiau
yma drwy’r post ro’n i ‘di dechrau
amau mai cyfres wedi ei lleoli yn y dyfodol oedd hi,
rhyw fath o dystopia lle fyddai’r prif gymeriad
yn deffro a canfod mai fe neu hi oedd yr unig berson
ar ôl ar wyneb y ddaear.
Ond
fe allwch chi anghofio am y dystopia, ac am y dyfodol,
gan mai cyfres ‘realaeth’ yw hon sy’n
wneud â’r gorffennol (wrth gwrs, beth arall?).
Yn ystod y gyfres, fe gaiff sawl unigolyn dethol eu
tywys yn ôl i leoliad penodol er mwyn ail-greu
llun a dynnwyd flynyddoedd maith yn ôl.
Ond
fe ymddengys mai dewisiadau mympwyol yw pa luniau sy’n
cael eu hail-greu. Yn y rhaglen gyntaf, y llun dan sylw
oedd un mewn bwyty Indiaidd yng Nghaerdydd, pan aeth
criw ifanc am gyri gyda’r grwp Ceffyl Pren.
Doedd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw ddim cof o’r
digwyddiad, ond roedd yn rhaid argyhoeddi’u hunain
fod hwn yn ddigwyddiad o bwys hanesyddol. Mewn rhaglen
arall, gwnaed ymdrech i gasglu ynghyd y rheiny sydd
ar glawr Clap a Chân i Dduw, llun a dynnwyd gan
Marian Delyth. “Dwi ddim yn cofio fawr ddim am
dynnu’r llun,” meddai Marian. “Do’n
i ddim yn arbennig o hapus efo fo.”
Beth
well, felly, na chael cyfle i ail-greu’r llun,
a’i droi yn gampwaith? Heblaw am y ffaith mai
un o amodau’r rhaglen yw fod yn rhaid ailgreu’r
llun yn yr un modd, yn yr un lleoliad, a gyda’r
un ystumiau. A’r cyfan oll yn profi fod ‘na
rheswm da pam “aeth pawb”oddi yno yn y lle
cyntaf!
05/04/08

|
|
|