| Awdur
nofelau yw Fflur Dafydd yn bennaf, ac mae’n
cael ei hystyried yn un o awduron addawol ei chenhedlaeth.
Mae hi wedi cyhoeddi dwy nofel lwyddiannus –
Lliwiau Liw Nos (Y Lolfa, 2005) a Atyniad
(Y Lolfa, 2006) a enillodd iddi statws ‘Prif
Lenor’ wrth gipio Medal Ryddiaith Eisteddfod
Genedlaethol Abertawe 2006. Nododd un beirniad
fod Lliwiau Liw Nos yn profi fod “ei
hysgrifennu, fel ei cherddoriaeth, yn unigryw
ac yn bleser i’r glust” (Catrin Heledd,
Taliesin, 2005) a’i bod wedi llwyddo, gyda’i
hail nofel Atyniad i greu “cyfanwaith
hynod ddeallus, amlochrog.” (Angharad Dafis,
Taliesin, 2006) Fe fydd hi’n cyhoeddi dwy
nofel yn y dyfodol addas, sef Twenty Thousand
Saints (Alcemi, 2008) a Ffordd o Fyw
(Y Lolfa, 2009.)
|
|
|