| 


cliciwch
yma i weld y seremoni
o'r Eisteddfod ar BBC iPlayer |
Y
Llyfrgell - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009
(Lolfa)
ISBN: 9781847711694
Ar
fore oer o Chwefror, yn y flwyddyn 2020, mae Dan,
un o borthorion Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
wrthi'n cyflawni ei drosedd arferol yn erbyn y
gyfundrefn. Yn ei gyfarch wrth y drws mae Eben,
y cofiannydd, sy'n ysu am gael mynediad. Ond yn
ddiarwybod i'r ddau, mae Ana a Nan, dwy lyfrgellwraig
a'u bryd ar ddial, ar fin newid hanes Llyfrgell
Genedlaethol Cymru am byth.
Mae'r nofel hon yn trawsnewid gofod tangnefeddus
y Llyfrgell Genedlaethol yn set theatrig llawn
posibiliadau - lle mae bwledi'n tarfu ar y tawelwch,
yr Ystafell Ddarllen yn gell, a'r Llyfrgell ei
hun yn un o wrth-arwresau mwyaf ein llên...
Y
Llyfrgell Genedlaethol yn ganolbwynt i nofel Gwobr
Daniel Owen
Fflur
Dafydd, yr awdures a'r cerddor amryddawn, gipiodd
Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Y Llyfrgell.
Roedd y beirniaid yn unfryd gan ganmol dyfeisgarwch
a chlyfrwch yr awdur. Dywedodd John Rowlands,
“Mae'n awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi
creu sefyllfa bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu,
ein sobri, ein harswydo, a'n goglesio ar yn ail…
darn o lenyddiaeth sy'n bleser pur.
Ychwanegodd
Rhiannon Lloyd, “Nofel glyfar iawn y gellir
ei mwynhau ar sawl lefel, ac mae'r stori'n ardderchog.”
Y Llyfrgell Genedlaethol yn 2020 yw'r cefndir
i'r nofel ac mae Fflur yn cyfaddef iddi gael ei
hysbrydoli i sgwennu am y llyfrgell pan yn astudio
am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dywedodd,
“Roeddwn yno bob dydd am fisoedd a cefais
fy hun yn breuddwydio am bob math o sefyllfaoedd
dramatig a chyffrous!”
"Nofel glyfar iawn y gellir ei mwynhau ar
sawl lefel, ac y mae ynddi stori ardderchog."
- Rhiannon Lloyd
"Mae'n awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi
creu sefyllfa bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu,
ein sobri, ein harswydo, a'n gogleisio ar yn ail...
darn o lenyddiaeth sy'n bleser pur."
- John Rowlands
"Nofel wedi ei chynllunio'n ofalus ac yn
gyforiog o hiwmor a choegni a chlyfrwch tafod-mewn-boch."
- Geraint Vaughan Jones
Adolygiadau / Mwy:
»
Adolygiad 'Y Llyfrgell':
Catrin Beard, golwg360.com
»
'Y Llyfrgell': Llyfrgell
Genedlaethol Cymru
» 'Y Llyfrgell':
Western Mail
» 'Y Llyfrgell':
Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffuniau,
2009
» Nofelau Fflur
yn cyrraedd y brig - Y Lolfa
|
|