Lliwiau Liw Nos

Lliwiau Liw Nos
(Y Lolfa)
ISBN: 0862438497

Bydd 2005 yn flwyddyn i’w chofio i Fflur Dafydd. Yn gyntaf cystadleuodd am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith a dod yn agos i’r brig yn y gystadleuaeth honno. Wedyn lansiodd ei halbwm cyntaf ‘Coch am weddill fy Oes’ y bu’n teithio Cymru yn ei hyrwyddo mewn gigs. Hefyd, cafodd ei gwaith ei gyfieithu i Norwyeg, Almaeneg ac Eidaleg, gan mai hi eleni oedd cynrychiolydd Prydain ym mhrosiect stori fer Ewropeaidd y Scritture Giovani, a bu'n ymweld â gwyliau llenyddol ledled Ewrop i ddarllen a thrafod ei gwaith. A heddiw mae’n cyhoeddi ei nofel gyntaf, Lliwiau Liw Nos, sydd eisoes wedi plesio’r beirniaid.

Yn ôl yr Athro John Rowlands:“Mae darllen y nofel hon fel nofio o don i don, a’i harddull lachar yn ein codi i’r entrychion un funud, a’n taflu i ddyfnjwn y funud nesaf. Trwy ddychymyg ffrwythlon yr awdur, llwyddir i roi inni olwg newydd sbon ar themâu megis cariad, anffyddlondeb ac eiddigedd, a hynny trwy ddelweddau lliwgar, sy’n creu effaith lesmeiriol weithiau, ond hunllefus dro arall. Llwydda dychymyg yr awdur i brocio chwilfrydedd y darllenydd o’r dechrau i’r diwedd.”

Yn ei beirniadaeth ar waith Fflur a ddaeth yn uchel iawn yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith eleni yn y Faenol, dywed Meinir Pierce Jones: “Mae teimlad Ewropeaidd i’r nofel; mae’n gyfoes a soffistigedig, yn llawn posibiliadau. Mae’n ysgrifennu’n sensitif, gan osod haen ar haen, fel paent trwchus, y caiff y darllenydd bleser rhyfeddol o’i blicio ar y darlleniad cyntaf, a’r ail a’r trydydd, i ddadorchuddio’r mân drysorau.”

Yn gefndir i’r nofel mae bloc o fflatiau mewn dinas sy’n byrlymu o gyfrinachau. Gall fflat mewn dinas fod yn lle unig a distaw. Ond yn y tri fflat yn y nofel hon mae gwe gudd yn clymu’r cymeriadau wrth ei gilydd – ac, wrth gwrs, mae na arwyddocâd arbennig i’r lliw coch yn y nofel.


Adolygiad:
» Adolygiad 'Lliwiau Liw Nos': Hafina Clwyd

 

» Cliciwch yma i archebu'r llyfr
» www.gwales.com