| Atyniad
(Y Lolfa)
ISBN: 0862439337
Ynys
Enlli yw prif gymeriad y nofel hon - yr ynys a'i
hatyniad sy'n rheoli llanw a thrai teimladau'r
cymeriadau lliwgar, yn ynyswyr, ymwelwyr ac awduron
ddaw i'r ynys am gyfnod byr i chwilio am ddihangfa,
llonyddwch a serch. Yng nghwmni un o'r awduron
preswyl ceir darlun cyfareddol o ddylanwad yr
ynys ar bobl a'u breuddwydion...
Adolygiadau:
"Yr hyn sy'n atyniadol yn y nofel yw ei ffresni,
ffresni ei chymeriadaeth, ffresni ei harddull
farddonol, ffresni ei digwyddiadau a'i hadroddiadau."
- Derec Llwyd Morgan
"Nodaf
hefyd fy mod yn berffaith sicr fod Eisteddfod
Abertawe a'r Cylch, wrth wobrwyo Matigari, yn
gwobrwyo awdur a rydd gryn ddiddanwch llenyddol
i bawb a gâr rialtwch a difrifwch bywyd
rhwng dau glawr."
- Derec Llwyd Morgan
"Mae'r
nofel hon yn gelfydd ac yn argyhoeddi...mae'r
cyfanwaith yn fywiog ac apelgar, ac yn codi cwestiynau
digon dwys ynghylch dylanwad llefydd arbennig
ar rigolau bywyd."
- Jane Aaron
"Dyma
wir artist y gystadleuaeth...prin bod tudalen
o'r gwaith heb enghraifft o ddawn dweud anghyffredin,
gyda'r awdur ar ei orau wrth ddangos y mân
ganfyddiadau sydd yn dadlennu newidiadau sylfaenol
mewn perthynas pobl â'i gilydd."
- Grahame Davies
Mwy o Adolygiadau/Eraill:
»
Adolygiad 'Atyniad':
Hafina Clwyd
»
Adolygaid 'Atyniad':
Glyn Jones
»
Adolygiad 'Atyniad':
gwales.com
» BBC Lleol
i mi: Sgwrs â Fflur Dafydd
»
Y Garthen: Holi Fflur
Dafydd
|