| |
 |
| |
| Hafan:
Croeso
i wefan Fflur Dafydd – yr awdur a’r gantores
o Gaerfyrddin. |
 |
| 

|
DATGANIAD
I'R WASG: 25/11/09
Fflur
yn troi at y Stori Fer a dechrau
‘Stori Newydd Sbon’
Ar
ôl blynyddoedd llwyddiannus yn ennill gwobrau
ym myd y nofel ac fel cantores, mae’r amryddawn
Fflur Dafydd wedi troi nôl i sgwennu storïau
byrion, ac mae casgliad newydd ohonynt yn cael eu cyhoeddi
ar 25 Tachwedd gan wasg Y Lolfa.
Mae Fflur yn disgrifio’r stori fer fel ei “chariad
cyntaf” – enillodd wobr am stori fer yn
Eisteddfod Genedlaethol 2004 a chynrychiolodd Cymru
yng Ngwˆyl y Stori Fer yn Croatia. Meddai Fflur:“Ar
ôl pedair blynedd o weithio ar nofelau, roedd
hi’n braf iawn dychwelyd at fy nghariad cyntaf,
sef y stori fer. Mae hi’n ffurf sy’n llawn
posibiliadau, ac yn rhoi rhyddid i awdur i arbrofi gyda
thechnegau a lleisiau gwahanol, gan ddefnyddio abswrdiaeth
a dychan, a chreu sefyllfaoedd mwy anarferol na fyddech
chi’n ei ffeindio mewn nofel, a herio’r
darllenydd ychydig yn fwy”
Yn y blynyddoedd diwethaf cyhoeddodd sawl nofel, yn
cynnwys Y Llyfrgell, a enillodd Wobr Goffa
Daniel Owen yn 2009, ac mae nifer o elfennau tebyg i’r
nofel honno i’w gweld yn storiau Awr y Locustiaid.
Enillodd Fflur hefyd wobr fel artist benywaidd y flwyddyn
yng Ngwobrau RAP 2010 a chyhoeddodd albwm newydd o’r
enw Byd Bach. Meddai Fflur: “Mewn ffordd,
mae’r broses o roi cyfrol o straeon at ei gilydd
yn debyg iawn i greu albwm – mae’n rhaid
i bob stori daro nodyn gwahanol, ond mae’n rhaid
iddyn nhw deimlo fel eu bod yn perthyn i’w gilydd
rhywsut hefyd, ac mae ambell stori yn cyd-fynd gyda
rhai o fy nghaneuon, fel y stori am Helsinki, sy’n
rhyw fath o fersiwn llenyddol o’r gân.”
Dywedodd
Mihangel Morgan fod delweddau Fflur yn y gyfrol “yn
gafael yn y darllenydd ac yn ei gofleidio tan y diwedd.”
Mae’r storïau yn adlewyrchu profiadau’r
awdur o Gymru a thu hwnt, ambell stori wedi’i
lleoli dramor, yn cynnwys Helsinki lle y bu’n
awdur preswyl, a Merano lle y bu’n cynnal darlleniadau,
ond y cyfan wedi ei hysgrifennu’n gaboledig gan
y llenor sydd, wrth ysgrifennu’r gyfrol, wedi
rhoi genedigaeth i “stori newydd sbon” sef
ei merch, Beca a anwyd ym mis Medi. Cyflwynir y gyfrol
Awr y Locustiaid i Beca Elfyn.
Bydd
Awr y Locustiaid yn cael ei lansio nos Iau
25 Tachwedd yn Siop y Pentan, Caerfyrddin am 7.00
»
Adolygiad 'Awr y Locustiaid':
Meg Elis, BBC Cymru
»
Adolygiad 'Awr y Locustiaid':
Lyn Ebenezer, Gwales
|
|
 |
| 

|
NEWYDDION
DIWEDDARAF: Ebrill 2010
FFLUR
DAFYDD YN CIPIO GWOBR MAX BOYCE & GWOBR RAP RADIO
CYMRU
Mewn
noson arbennig yn llyfrgell Glyn-nedd yn ddiweddar,
cyhoeddwyd mai enillwyr cyntaf gwobr Max Boyce oedd
yr awduron ifanc Fflur Dafydd a Rachel Trezise, am y
nofelau Y Llyfrgell (Y Lolfa, 2009) a Dial M for Merthyr
(Parthian, 2007). Cyflwynwyd y wobr iddynt fel rhan
o brosiect Darllen Difyr 2010 sy’n cael ei noddi
gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac sy’n cael ei ddewis
gan y darllenwyr o blith rhestr fer o gyhoeddiadau gorau’r
ddeng mlynedd ddiwethaf. Dyma’r ail wobr i Fflur
ei derbyn am y nofel hon, gan iddi hefyd gipio Gwobr
Goffa Daniel Owen 2009 yn yr Eisteddfod Genedlaethol
y llynedd.
“Mae’n fraint i dderbyn gwobr sydd wedi
ei ddewis gan ddarllenwyr Cymru,” medd Fflur,
sy’n ddarlithydd yn yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol
Abertawe. “Dros y ddwy flynedd diwethaf, dwi wedi
teithio o gwmpas pob math o gymunedau darllen yng Nghymru,
ac yn aml, dwi’n ffeindio mai y darllenydd cyffredin
sydd yn ymateb yn fwyaf craff a gonest i’r gwaith,
felly mae cael sêl eu bendith nhw yn golygu cryn
dipyn.”
Pythefnos yn ddiweddarach, cyhoeddwyd mai Fflur oedd
enillydd categori Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau
Roc a Phop Radio Cymru 2010. Cafodd ei halbwm, Byd Bach,
a gyrhaeddodd rhif un yn siart c2, hefyd enwebiad am
yr albym gorau, a cafodd cynhyrchydd yr albym, Tim Hamill,
enwebiad teilwng am y cynhyrchydd gorau.
“Dwi’n hynod falch i dderbyn cydnabyddiaeth
am yr albym yma – dwi’n ffodus iawn i weithio
gyda tim gwych o gerddorion, a cynhyrchydd safonol dros
ben, ac mae’n braf fod y gwaith caled dros y 6
mlynedd diwethaf o gigio a chyfansoddi wedi talu ffordd.
Dwi isie diolch i Radio Cymru am eu cefnogaeth parhaol
ac i’r cynulleidfaoedd gwych ledled Cymru sydd
wedi rhoi cymaint o fwynhad i ni ar hyd y blynyddoedd.”
|
|
 |
| 

(cliciwch
ar y poster uchod i'w weld yn fwy)
|
Albym
newydd Fflur Dafydd a'r Barf i'w rhyddhau ar Dachwedd
16eg
Gig Lansio Albym Newydd Fflur Dafydd
a'r Barf:
Cyfle
unigryw i glywed caneuon newydd yr albym cysyniadol
"Byd Bach", sy'n cynnwys caneuon am wahanol
lefydd yng Nghymru - gan gynnwys Aberaeron, Porthgain,
Caerdydd, Penrhiwllan, a'r A47dim.
•
Clwb Rygbi'r Quins
• Nos Wener 13eg o Dachwedd 2009
• 9.00yh
• Mynediad: £5 ar y drws - elw'r noson yn
mynd at Blaid Cymru.
Gigs:
• Tachwedd 13 - Clwb y Cwins Caerfyrddin, Lansiad
yr albym
• Tachwedd 20 - Duke of Clarence, Caerdydd
• Tachwedd 21 - Clwb Golff Caerfyrddin
(cliciwch
yma ar gyfer Datganiad i'r Wasg - Byd Bach)
|
|
 |
| 

|
DATGANIAD
I'R WASG: 03/09/09
Nofelau
Fflur yn Cyrraedd y Brig
Bu
cymaint o alw am gyfrol fuddugol Fflur Dafydd ers yr
Eisteddfod Genedlaethol fel y bu rhaid adargraffu'r
gyfrol o fewn mis i'w chyhoeddi. Enillodd Fflur Dafydd
Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Y Llyfrgell yn Eisteddfod
Y Bala, a bu'r ymateb yn hynod frwd gan adolygwyr a
phrynwyr fel ei gilydd. Disgrifiwyd y nofel gan Dafydd
Morgan Lewis fel “un o'r nofelau gorau i ennill
Gwobr Goffa Daniel Owen erioed”.
Profwyd
ei phoblogrwydd gan brynwyr hefyd wrth iddi gyrraedd
brig rhestr gwerthwyr gorau mis Awst – y tro cyntaf
i enillydd y Daniel Owen wneud hynny ers i Robin Llywelyn
ennill yn 2004. Meddai Garmon Gruffudd o'r Lolfa: “Mae'n
wych cael cystal ymateb i nofel ac i weld y gwerthiant
yn parhau - mae'n amlwg i'r gair fynd ar led fod hon
yn nofel wirioneddol arbennig, ac yn haeddu'r clod a
roddwyd iddi gan feirniaid y gystadleuaeth.”
Ond
yn ogystal â'i nofel fuddugol bu hefyd galw mawr
am ei nofel Saesneg gyntaf, Twenty Thousand Saints,
sydd hefyd newydd fynd i ail argraffiad. Enillodd y
nofel hon Wobr Oxfam awdur mwyaf addawol y Gelli i Fflur
yn gynharach yn y flwyddyn.
Yr
wythnos hon mae Fflur yn dechrau cyfnod fel awdur Preswyl
ym Mhrifysgol Iowa yn yr Unol Daleithiau, lle bydd yn
cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau yn cyflwyno'i
gwaith yn ogystal â darlithio i fyfyrwyr ar ysgrifennu
creadigol. Ond ar ei dychweliad i Gymru mae Fflur hefyd
wedi cytuno i gynnal sgwrs am ei nofel sy'n gwatwar
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a hynny yn y Llyfrgell
Genedlaethol ei hun! Cynhelir y sesiwn ar 27ain o Dachwedd
yn Y Drwm.
Y
Lolfa, Medi 2009
|
|
 |
| 
|
DATGANIAD
I'R WASG: 01/09/09
FFLUR
DAFYDD WRITER IN RESIDENCE AT INTERNATIONAL WRITING
PROGRAM, IOWA UNIVERSITY
Fflur
is currently writer in residence at Iowa University,
where she will be researching her next English language
novel, The Library, between September 3rd and October
12th, 2009. She is supported by the British Council
and will also be taking part in a number of events –
see below:
Schedule of Events for Fflur Dafydd
(as of 8/20/2009:)
Public Events in Iowa
•
9/9: Reading at Prairie Lights Books, 7:00 PM
15 South Dubuque Street, Iowa City, IA USA
1-800-295-BOOK; http://www.prairielights.com/
•
9/25: Panel Presentation at the Iowa City Public Library,
12:00 PM
Meeting Room A, 123 South Linn Street, Iowa
City, IA USA
(319) 356-5200; http://www.icpl.org/
Panel
Topic: “Translation/Writing Between Languages”
Description: In what ways has translating,
or writing across more than one language, been important
to your literary thinking and/or to your creative
process?
Other
panelists: Vicente Groyon (Philippines), Soheil Najm
(Iraq), Lijia Zhang (China)
• NB: other events are forthcoming
and may include one or more musical performances by
Fflur at one of several venues in downtown Iowa City.
Academic Presentations/Classroom Visits in Iowa
(NB: Classroom visits are NOT open to the public)
• 9/21 International Literature Today.
Fflur Dafydd will speak for 15-20 minutes to students
enrolled in this undergraduate literature course.
Special Seminar in Creative Writing
Fflur Dafydd will teach a special creative writing seminar
to undergraduates at the University of Iowa. This four-week
course will meet from 2:30-4:30 PM on 9/11, 9/18, 9/25,
and 10/2. Students will gather in a seminar room at
the Writers’ House at 111 Church Street, a unique
campus space dedicated to fostering writing, artistic
collaboration, and literary performance at the University
of Iowa.
Activities in Portland, Oregon, 10/3-10/9
(Includes public events and classroom visits)
Fflur Dafydd will join four other IWP writers in Portland,
Oregon for several days of readings, talks, and other
professional programming. Barry Sanders (west-coast-based
author, Senior Fulbright Scholar, two-time Pulitzer
Prize nominee, and English professor) is hosting this
series of literary events, in collaboration with colleagues
at the Pacific Northwest College of Art, Portland State
University, Oregon Council for the Humanities, and other
local partners. This will be the first IWP delegation
to take part in such a dynamic slate of activities in
the city.
The
precise programme in Portland is still TBD, but will
include some or all of the following activities:
•
An opening reception at Pacific Northwest College
of Art, a fine arts college located in the city of
Portland. http://www.pnca.edu/.
•
Visits to classes at PNCA and the opportunity to participate
in a group reading in the Commons, a large open art-space
in the heart of campus: http://www.pnca.edu/studentlife/facilities/commons.php
•
An informal roundtable discussion at Portland State
University, sponsored by the creative writing department
and the English department on the topic of politics
and writing.
Trips to see the countryside of the Pacific Northwest--the
Gorge, the falls, the many rivers, etc.
|
|
 |

cliciwch
uchod am fwy o fanylion

cliciwch
yma i weld y seremoni
o'r Eisteddfod ar BBC iPlayer |
DATGANIAD
I'R WASG: 04/08/09
NOFEL
DDADLEUOL AM UN O BRIF SEFYDLIADAU CYMRU YN CIPIO GWOBR
GOFFA DANIEL OWEN
Tair
blynedd wedi iddi ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod
Abertawe a’r Cylch 2006, ac ychydig fisoedd wedi
iddi gipio gwobr Awdur Ifanc Oxfam a Gwyl y Gelli 2009
am ei nofel Saesneg Twenty Thousand Saints, mae Fflur
Dafydd wedi cyrraedd y brig unwaith eto gyda nofel ddadleuol
sy’n cymryd cipolwg ar un o brif sefydliadau Cymru,
y Llyfrgell Genedlaethol. Wedi ei gosod yn y flwyddyn
2020, mae’r nofel yn dilyn criw o gymeriadau yn
ystod un diwrnod dramatig pan fydd dwy lyfrgellwraig
arfog yn meddiannu’r Llyfrgell.
Mae
hon yn nofel ddychanol, ag iddi ddogn hael o hiwmor
du, sy’n dychanu lyfrgellwyr, academyddion, gweision
sifil, gwleidyddion a phorthorion, ac yn eu taflu’n
ddidrugaredd at ei gilydd mewn argyfwng sinistr a bisâr.
Y mae’r nofel hefyd yn ymdrin â nifer o
themâu cyfredol – digideiddio, ôl-ffeministiaeth,
beirniadaeth lenyddol, ac, yn bwysicaf oll, cof a hunaniaeth
cenedl. Mae’r nofel yn ddrych amgen o ddyfodol
y genedl, dyfodol lle fydd menywod yn llywodraethu;
gwleidyddion yn dylanwadu’n ormodol ar y celfyddydau,
a’r llyfr – a’r awdur - yn bethau
sydd wedi mynd yn angof wrth i’r dechnoleg newydd
gymryd eu lle. Mae hon yn sicr yn nofel heriol fydd
yn tynnu blewyn o drwyn sawl darllenydd – yn enwedig
y beirniaid gwrywaidd - ac sy’n sicr o ysgogi
trafodaeth.
Yn
debyg i weithiau eraill Fflur Dafydd, fel ei nofel am
Enlli, mae’r nofel yn ddadansoddiad difyr o un
o eiconau Cymru, gyda’r lleoliad ei hun yn troi’n
brif gymeriad yn ystod y nofel, wrth i’r darllenydd
weld y sefydliad hwn mewn golau newydd a chyffrous.
Cafodd yr awdur ei hysbrydoli gan y lle pan roedd hi
yno yn cwblhau ei doethuriaeth ar R.S. Thomas yn 2004,
wrth iddi ymweld â’r Llyfrgell yn ddyddiol
am gyfnod o dri mis.
“Ro’n
i’n ffeindio’n hun yn dychmygu pob math
o senarios gwahanol y gallai ddigwydd yn y Llyfrgell
yn hytrach na chanolbwyntio ar fy ngwaith! Mae ‘na
rhywbeth gwefreiddiol am fawredd yr adeilad, y carped
coch, y pileri gwynion, a’r cysyniad fod holl
gyfrinachau a hanes y genedl wedi ymgasglu mewn un man.
Dyma un o’r sefydliadau mwyaf pwerus ac arwyddocaol
sydd gennym yng Nghymru – ond eto dyma’r
lle diwethaf y buasai rhywun yn disgwyl terfysg o unrhyw
fath, gan ei fod yn le mor dawel a thangnefeddus –
a’r ddeuoliaeth honno sy’n fy niddori.”
Mae’r
nofel eisioes wedi torri tir newydd, gan mai dyma’r
nofel gyntaf i gael ei lleoli yn gyfangwbl yn y Llyfrgell
Genedlaethol. Mae’r nofel hefyd yn gwthio’r
ffin rhwng y real a’r abswrd yn wastadol, wrth
gynnwys cyfeiriadau at bob math o awduron hanesyddol
a ffuglennol, ac er ei bod wedi ei lleoli yn 2020, camp
yr awdur yw ei bod wedi creu dyfodol arswydus ac abswrd
sy’n ddigon credadwy.
Caiff
y nofel ei chyhoeddi ddwy flynedd wedi canmlwyddiant
y Llyfrgell Genedlaethol yn 2007.
"Nofel glyfar iawn y gellir ei mwynhau ar sawl
lefel, ac y mae ynddi stori ardderchog."
- Rhiannon Lloyd
"Mae'n awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi creu
sefyllfa bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu, ein sobri,
ein harswydo, a'n gogleisio ar yn ail... darn o lenyddiaeth
sy'n bleser pur."
- John Rowlands
"Nofel wedi ei chynllunio'n ofalus ac yn gyforiog
o hiwmor a choegni a chlyfrwch tafod-mewn-boch."
- Geraint Vaughan Jones
Adolygiadau / Mwy:
»
Adolygiad 'Y Llyfrgell':
Catrin Beard, golwg360.com
»
'Y Llyfrgell': Llyfrgell
Genedlaethol Cymru
» 'Y Llyfrgell': Western
Mail
» 'Y Llyfrgell': Eisteddfod
Genedlaethol Meirion a'r Cyffuniau, 2009
» Nofelau Fflur yn
cyrraedd y brig - Y Lolfa
|
|
 |
| 
|
DATGANIAD
I'R WASG: 24/05/09
Fflur
Dafydd yn cipio Gwobr Awdur Ifanc Gwyl y Gelli
Yng Ngwyl y Gelli eleni, fe gyhoeddwyd mai enillydd
cyntaf Gwobr Awdur Ifanc yr Wyl yw
Fflur Dafydd o Gaerfyrddin.
Yn
ystod seremoni arbennig ar Fai 23ain, fe ddywedodd Peter
Florence, Cyfarwyddwr Gwyl y Gelli, mai nofel Saesneg
gyntaf yr awdur, Twenty Thousand Saints
oedd un o’r nofelau gorau iddo ddarllen yn ystod
y deng mlynedd diwethaf, gan ategu mai hi yw un o’r
awduron ifanc mwyaf cyffrous yng Nghymru ar hyn o bryd.
Er mai dyma nofel gyntaf Fflur yn Saesneg, fe enillodd
Fflur Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe
yn 2006 am ei hail nofel Atyniad.
Dywedodd
David McCullough, Cyfarwyddwr Oxfam “Rydym
yn hapus iawn i gydweithio gyda Gwyl y Gelli eleni ac
yn llongyfarch Fflur Dafydd, enillydd cyntaf Gwobr Awdur
Ifanc yr Wyl.”
Fel
rhan o’r wobr, a noddir gan Oxfam, fe dderbyniodd
Fflur copi cyntaf o nofel enwog Harper Lee To
Kill a Mockingbird, a gyflwynwyd gan Rheolwr
Datblygu Llyfrau Oxfan, Graham Draisey.
Fe
ymddangosodd Fflur mewn dau ddigwyddiad yng Ngwyl y
Gelli eleni, un gyda Nam Le, enillydd Gwobr Dylan Thomas,
a’r llall gyda’r awdur a’r darlledwr
Jon Gower.
Fe
fydd hi nawr yn cychwyn ar daith i hyrwyddo Twenty
Thousand Saints, gan wneud darlleniadau
yng ngwyl Latitude yn Lloegr ac hefyd yng Ngwyl Lenyddol
Lahti yn y Ffindir.
Cyhoeddir
Twenty Thousand Saints gan
wasg Alcemi.
Adolygiadau
/ Mwy:
» Adolygiad
'Twenty Thousand Saints': Catherine Taylor, The Guardian
» 'Twenty Thousand
Saints': Author's Notes, Western Mail
» Adolygiad 'Twenty
Thousand Saints': Diva
» Adolygiad 'Twenty
Thousand Saints': Western Mail
» Adolygiad 'Twenty
Thousand Saints': SwanseaLife |
|
|
|
|
|
|