Erthyglau

Archif:

» Ebrill - Mehefin 2009

» Ionawr - Mawrth 2009

» Hydref - Rhagfyr 2008

» Gorffennaf - Medi 2008

» Ebrill - Mehefin 2008

» Ionawr - Mawrth 2008

Mae Fflur yn golofnydd teledu wythnosol i’r Western Mail, ac yn ymddangos yng nghylchgrawn penwythnos y WM.

Darllenwch ei cholofn diweddaraf yma:


Nid dim ond y Steddfod sydd yn tynnu at ei therfyn heddiw, gan mai hon, yn anffodus, fydd fy ngholofn olaf. Gan fy ‘mod ar fin cychwyn ar gyfnod preswyl yn yr Unol Daleithiau, yr wyf wedi penderfynu ildio fy het adolygydd am y tro. Dwi ddim yn siwr eto sut y wna i ymdopi heb S4C am ddeufis cyfan, nac ychwaith sut y wna i ymdopi gyda teledu Americanaidd am gyfnod mor hir! Ond dyna ni, o leiaf mae ‘na Arlywydd call yno ar hyn o bryd, a Wedi 7 yn ddim mwy na s4/clic i ffwrdd.

Rhaid achub ar y cyfle felly, i ddiolch am gael gofod i drin a thrafod darlledu am chwe mlynedd. Ry’n ni dipyn cyfoethocach o ran ein cynnyrch erbyn hyn, a dwi ‘di gwylio sawl rhaglen na fyddai wedi cymryd fy ffansi fel arall, a chael agoriad llygad yn y fargen. Er fod ‘na fwy o waith i’w wneud eto, dwi wedi cael fy syfrdanu gan safon nifer o’n rhaglenni dogfennol, celfyddydol a cherddorol dros y blynyddoedd, ac wedi cael fy llorio sawl tro gan weledigaeth rymus nifer o’n cyfarwyddwyr a’n cynhyrchwyr.

Yn ail, dwi am ddiolch i chi – y darllenwyr a’r gwylwyr – am eich cefnogaeth. Mae sawl un ohonoch wedi dod ataf i drafod y golofn hon, ac i fynegi eich barn ynghylch y rhaglenni y bûm yn eu trafod. Braf o beth yw teimlo fod y golofn wedi ysgogi trafodaeth, a hyd yn oed dadlau tanbaid ar brydiau! “Fydda i ddim yn cytuno gyda chi bob tro,” yw’r linell fydda i’n clywed yn aml, a da o beth yw hynny, gan fod natur trafodaeth yn dibynnu ar amrywiaeth barn a safbwynt.

Mae ‘na brinder dybryd o adolygwyr yng Nghymru ar hyn o bryd, a dwi’n sylweddoli fy mod wedi cael cyfle unigryw wrth gael sylwebu’n wythnosol fel hyn. A chyda chryn dristwch felly, dwi’n ildio fy het i’r gwynt...

08/08/09

 

Mae hi bellach yn ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod, ac am y tro cyntaf eleni, dwi’n ddigon hen i fod yn ymgymryd â’r sgyrsiau hynny ynghylch “Steddfod Bala ’97.” Ond dwi ‘di addo i’n hunan na fydda’ i’n cymharu’r ddwy Eisteddfod yn ormodol gan ei bod hi ‘mond yn deg i adael i bob Eisteddfod gael ei blas, ei chymeriad a’i mwd ei hun.

Mae’n gyfle hefyd i fwrw golwg ar newidiadau’r byd darlledu o fewn y ddegawd diwethaf, ac mae’n wych gweld fod yr arlwy bellach yn annog Cymru gyfan i fwynhau pob elfen o’r wyl arbennig hon trwy gyfrwng y sgrin fach. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol bellach mwy fel y gemau Olympaidd, gyda bron gymaint o gampau a ystumiau, a hanner y cystadleuwyr mewn gwisgoedd yr un mor aruchel. Mae ‘na sawl naid driphlyg yn digwydd, a mwy nag un medal yn cael ei rhoi. Dwi ddim yn siwr pa mor heini yw’r rheiny sy’n cystadlu cofiwch...

Eisioes mae sion a sibrydion ar led ynghylch y prif gystadlaethau, ac wrth weld y ddogfen Saith Bardd, mae’n amlwg fod y to iau bellach wedi hen etifeddu holl obsesiynau Eisteddfodol y to hyn. Er ‘mod i’n ffan o waith sawl un o’r beirdd hyn, braidd yn anghyfforddus i mi yw’r syniad o ‘Frawdoliaeth’ farddonol – gyda ‘mond un bardd benywaidd yn eu plith - gan fod hynny ‘mond yn atgyfnerthu yr un hen werthoedd gwrywaidd, confensiynol. Ond braf o beth yw gweld cystadlu yn cael ei drafod mor agored am unwaith, rhywbeth sy’n sicr o godi chwilfrydedd ynom i weld a fydd un ohonynt yn cipio un o’r prif wobrau eleni.

Mae pawb yn gwybod mai llipryn Eisteddfodol y bûm i erioed, ond rhaid cyfaddef mai gwisg wen arall sydd gen i ymlaen heddiw. Wrth i chi ddarllen hwn fe fyddaf i ar y ffordd i’r capel yn fy ffrog briodas, i seremoni o fath gwahanol iawn!

01/08/09

 

Roedd rhifyn olaf yr haf o Uned 5 yn ddigon teimladwy yr wythnos hon, gan mai dyma rhifyn olaf y gyflwynwraig Mari Løvgreen, sydd wedi gwneud cryn argraff ers dechrau’r swydd bum mlynedd yn ôl. Lle y byddai rhaglen ‘deyrnged’ wedi edrych yn eithaf ffuantus a dros ben llestri mewn sawl achos, roeddwn yn cael yr argraff bod pawb oedd yn ymwneud â’r rhaglen wirioneddol eisiau gwneud cyfiawnder â Mari wrth ffarwelio â hi.

Mae penderfyniad Mari i adael Uned 5 yn gam dewr a doeth dros ben, ac fe fyddai Cymru yn sicr ar ei hennill pe bai mwy o gyflwynwyr yn gallu synhwyro ei bod hi’n ‘amser i fynd’, gan symud ymlaen at sialensau newydd. Roedd hi’n amlwg wrth weld clipiau cynnar o yrfa Mari ei bod hi wedi dysgu wrth wneud y swydd – (yn hytrach na chael ei hyfforddi o flaen llaw) – a bod hwn wedi bod yn gyfle unigryw, ac annisgwyl iddi hi. Ac er hynny, neu efallai oherwydd hynny, fe gawsom ni’r pleser o gael ein difyrru gan un o’r cyflwynwyr mwyaf naturiol i ymddangos ar ein sianel ers rai blynyddoedd. Mae hi’n braf meddwl y caiff rhywun arall nawr gyfle tebyg, a dwi’n mawr obeithio y bydd modd canfod nid ‘mond cyflwynydd arall, ond ‘personoliaeth’, sef yr hyn sydd wedi nodweddu Mari ers iddi gamu ar y sgrin am y tro cyntaf.

Mi nes i chwerthin lot wrth wylio’r rhaglen olaf hon, ar hiwmor abswrd Mari, ac ar ei thueddiad i beidio a chymryd ei hun ormod o ddifrif. Mae unrhywun sydd wedi bod ar set Uned 5 yn gwybod bod Mari yn union yr un peth o flaen y camera ag ydy hi tu nôl i’r camera, ac mae’r diffuantrwydd hwnnw wedi codi safon Uned 5 dros y blynyddoedd diwethaf. Ond wedi pum mlynedd o weiddi “Gwenwch, mae’n nos Wener!” dwi’n meddwl fod Mari Løvgreen yn llwyr haeddu hawlio’i nos Wener yn ôl...

25/07/09

 

Yr wythnos hon, am y tro cyntaf ers meitin, ro’n i adre ar nos Sadwrn, ac felly nes i fanteisio ar y cyfle i wylio Côr y Byd o Eisteddfod Llangollen. Dwi ddim yn gwybod ai fi sydd wedi cyrraedd rhyw oedran arbennig, neu a yw’r gystadleuaeth hon mor wirioneddol hynod nes gwneud i chi eisiau hepgor pob un nos Sadwrn er ei mwyn, ond yn sicr nid oedd modd i fi symud cam o’m sedd. Dwi’n gwylio cystadlaethau corawl yn y modd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwylio chwaraeon - gan weiddi a chlapio a neidio am yn ail, ac fel unrhyw gefnogwr chwaraeon da, ro’n i hefyd yn hollol blwyfol wrth gefnogi Ysgol Gerdd Ceredigion.

Ond yn sicr mae ‘na rhyw urddas yn perthyn i Eisteddfod Llangollen sy’n gwbl unigryw yn ein gwlad fach ni. Ddwy flynedd yn ôl, ro’n i yn yr Eisteddfod, yn teimlo’n falch i fod ynghanol yr holl amrywiaeth, ac i deimlo balchder, hefyd, fod ein hiaith ni yn ymddoddi’n un â degau o ieithoedd a diwylliannau eraill - a bod Cymru yn cael ei gwerthfawrogi gan ei hymwelwyr. Dwi yn meddwl ei bod hi’n eithaf arwyddocaol hefyd mai S4C yw’r unig sianel yng Nghymru sy’n rhoi sylw teilwng i’r wyl hon - gan ein bod ninnau, hefyd, fel Cymry Cymraeg, yn gwerthfawrogi lleiafrifoedd a ieithoedd eraill mewn modd gwbl ddiffuant. Tra bod BBC Wales yn dangos canlyniadau’r Loteri Cenedlaethol a Casualty, ry’n ni’n eisioes yn agor drws ehangach ar y byd, ac mae safon y darllediadau a’r sylwebaeth yn adlewychu hynny.

Efallai fod hi’n werth aros mewn ar nos Sadwrn, felly, ‘mond i deimlo fod ein diwylliant ni mewn gwirionedd yn fwyafrifol wrth uno â lleiafrifoedd a ieithoedd eraill y byd. Yr unig beth sy’n sbwylio’r cysyniad eangfrydig yma yw mai côr gwrywaidd o America a gipiodd deitl Côr y Byd...

18/07/09

 

Yr wythnos hon, fe’m lloriwyd yn llwyr gan y rhaglen ‘Cyfrinach Olaf Frida’, sef rhaglen ddogfen bwerus dros ben yn olrhain hanes marwolaeth (neu lofruddiaeth) Frida Williams, hen nain y newyddiadurwraig a’r bardd Karen Owen. Yn wahanol i nifer o raglenni ‘dirgelwch’, roedd ‘na rhywbeth diffuant yn y modd y cafodd y stori hon ei hadrodd, ac er mor erchyll a thywyll yr oedd ambell fanylyn o’r stori, roedd rhywun yn teimlo fod bwriadau clir Karen yn ein denu’n reit i grombil y stori, heb wneud i ni deimlo’n annifyr, a chan hoelio sylw’r gwyliwr yn llwyr ar yr hanes rhyfeddol yma.

A hithau’n newyddiadurwraig o fri, ‘does rhyfedd fod y rhaglen ei hun wedi nodweddu newyddiaduraeth ar ei orau - dim sentimentaleiddo, dim gor-gyffroi, a chan strwythuro’r hanes o fewn naratif clir, pwrpasol, a phob datblygiad yn cael ei ddatgelu ar adegau tyngedfennol, pwysig. Roedd hi’n amlwg fod Karen yn awyddus i ymchwilio’n drylwyr i bob elfen o’r stori ac yn cael ei gyrru gan ffeithiau yn hytrach na dibynnu ar ddamcaniaethu gwag, a chafwyd hefyd cyfweliadau angenrheidiol gyda phobl eraill a oedd â chysylltiad â’r stori, mewn modd sensitif, gan barchu eu preifatrwydd. Roedd y gwaith camera hefyd yn arbennig o dda - yn drawiadol ac yn gelfydd, ond mewn ffordd a oedd yn gwbl bwrpasol ac yn ategu at y cyfanwaith.

Rhag ofn nad ydych eto wedi gweld y rhaglen hon, wna i ddim datgelu a fu Karen yn llwyddiannus wrth geisio dod i’r gwir ai peidio – ond un peth sy’n sicr, ni fydd modd i neb bellach anghofio am Frida Williams. Er mai dim ond F. Williams sydd wedi ei nodi ar ei charreg bedd, mae hi bellach yn gymeriad o gig a gwaed i’r rhelyw ohonom, a gorchest fawr y rhaglen hon oedd ein hannog ni i barhau, fel Karen, i ofyn y cwestiynau anodd ar ei rhan.

11/07/09

 

Gwyl Bywyd Gwerin y Smithsonian gafodd y prif sylw ar y cyfryngau yr wythnos hon, gwyl unigryw yn Washington DC sydd â Chymru yn ganolbwynt iddi. Cafwyd pob math o sylwadau – dwl a difrifol – ar bob math o raglenni dwl a difrifol – ond efallai mai sylw Jon Gower ar Wedi 7 sydd wedi aros yn fy nghof bennaf, sef bod yr wyl yn gyfle i ni fel Cymry ddal drych atom ni’n hunain, a gweld eich hunain – ein dwli a’n difrifoldeb – mewn ffyrdd newydd sbon. Fel yr awgrymodd yntau, mae’n bwysig i ni werthfawrogi’r hyn sydd gennym ni, ond hefyd i gwestiynu elfennau o’n diwylliant.

Gyda hynny mewn golwg, roedd y rhifyn Americanaidd o ‘Pawb a’i Farn’ yn ddifyr dros ben. Nid yn gymaint oherwydd y cynnwys, ond oherwydd iddi ddod yn amlwg o’r dechrau mai rhaglen am America oedd hon, trwy gyfrwng y Gymraeg, yn hytrach na rhaglen am Gymru trwy lygaid Americanwyr. Ers dechrau’r Smithsonian, mae’r cyffro wedi troi o gylch y ffaith bod Cymru yn cael sylw gan America – ond prin iawn yw’r sylw y mae’r America yma – sef America’r alltud, America’r rheiny sydd oddi cartref – yn ei gael gan y Cymry, ac roedd hi’n bwysig i’w safbwyntiau nhw gael eu clywed. “Pam nad oes mwy o sylw i Gymru yn America?” gofynnodd un holwr. Awgrym nifer o Gymry America oedd y dylid gofyn y cwestiwn hynny yng Nghymru yn gyntaf.

Cafwyd hefyd y trafodaethau arferol am wleidyddiaeth America, a chyfle prin i gael safbwynt unigryw y rheiny sydd wedi bod ynghanol y bwrlwm, y bobl hynny sydd wedi bwrw pleidlais ac wedi byw o dan lywodraeth George Bush. Ac er fod ‘na gonsensws fod gan Arlywydd Obama dipyn o waith i’w wneud cyn profi ei hun yn deilwng o’r holl glod a’r sylw, mae’n rhaid i ni gydnabod mai dyma’r her sydd yn ein wynebu ninnau, hefyd, wedi i wyl y Smithsonian ddod i ben.

04/07/09