Erthyglau: Ionawr - Mawrth 2008

Cefais flas annisgwyl ar ddwy raglen go wahanol i’w gilydd yr wythnos hon. Y cyntaf o’r rhain oedd ‘Natur Cymru,’ cyfres dwi’n dueddol o’i hosgoi gan nad yw rhaglenni natur yn cynnig digon o ddihangfa oddi wrth fywyd ‘go iawn’ i ryw slebog-sebon fel fi. Ond wedi pum munud o gael fy syrffedu gan ailbobiad o fywyd real (yn ei holl ddiflastod) mewn sebon, roedd bod dan wyneb Y Fenai ymhlith y cranc hirgoes a’r seren fôr biws yn teimlo fel rhyddhad pur!

Roedd hon yn rhaglen safonol dros ben, gyda Iolo Williams yn traethu’n wybodus am yr holl destunau dan sylw mewn sylwebaeth eglur-ddigon, a hynny heb fod yn nawddoglyd i anwybodus-rhai, fel myfi. Roedd gwaith camera cywrain yma yn ogystal, gyda’r golygfeydd bendigedig o adar prin a morloi’r arfordir yn cyfoethogi’r profiad.

Rhaglen arall wirioneddol odidog oedd ‘Maestro Carlo Rizzi’ gan gwmni Torpedo, potread awr o hyd yn dilyn hynt a helynt yr arweinydd a’r cyfarwyddwr cerdd Carlo Rizzi, a hynny ar adeg dathlu chwarter canrif ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf ar y podiwm fel arweinydd. Roedd ei glywed yn adrodd hanesion am ei fywyd a’i yrfa mewn Cymraeg lliwgar, egniol-o-Eidalaidd yn brofiad arbennig iawn, ac fe lwyddodd i drosglwyddo ei brofiadau diwylliannol unigryw i’r gynulleidfa trwy gyfrwng ei bersonoliaeth cynnes, a’i hyder tawel, diffuant. Roedd cael bod yn llygad-dyst i’r parch aruthrol sydd iddo fel arweinydd, trwy gyfrwng ei gynulleidfa, ei gydweithwyr, a’i deulu yn sicr yn gwneud hon yn rhaglen gynnes, agos-atoch, gyda’r gerddoriaeth yn rhan greiddiol ohoni.

Dyma ddwy raglen a brofodd imi, felly, nad oes angen dihangfa wrth fywyd go iawn, bob tro...

29/03/08

 

A hithau’n adeg lle mae pawb ar dân eisiau symud am-yn-ôl, mae cysyniad rhaglen gerddorol newydd “Chis a Meinir” yn ddigon amserol. Fedrwch chi ddim troi’r radio ymlaen heb glywed rhyw fersiwn newydd o hen ‘glasur’ ac mae hi fel petai pob has-bîn-dan-haul eisiau bod yn rhan o’r sîn roc gyfredol, ac i brofi eu bod o flaen eu hamser, yn hytrach na’n henffasiwn.

Be’ well, felly, na raglen sy’n rhoi sylw dwys i gerddoriaeth y gorffennol, gan wahodd artistiaid cyfredol y sîn i ddehongli’r caneuon? Mae’n amlwg bod cynulleidfaoedd wedi laru bellach ar gerddoriaeth honedig-fodern, ac fe roddwyd taw ar greadigrwydd unigryw artistiaid fel Gwilym Morus, Lleuwen Steffan a Lowri Evans am y tro, a’u herio i ddehongli rhai o wir glasuron ein hoes.

Yr artist dan sylw yn yr wythnos gyntaf oedd Meic Stevens, sydd yn ddi-os wedi ‘sgwennu rhai o ganeuon amlycaf y sin roc. Ond mae’n ddiddorol bod Meic wedi nodi yn ei gyfweliad â Huw Chiswell, na fyddai wedi ysgrifennu rhai o’r clasuron hynny, (a’r ‘Brawd Houdini’ yn benodol), oni bai iddo gael ei gomisiynu gan gynhyrchydd teledu, a oedd eisiau iddo greu cerddoriaeth wreiddiol Gymraeg i wneud i bobl ddawnsio ar raglen Disc a Dawn. “Dechrau Roc a Rôl yng Nghymru,” yn ôl Meic, ac mae’n anodd credu fod yr hyn sydd bellach yn cael ei ystyried yn glasur wedi tarddu o weledigaeth cynhyrchydd, a hynny’n llwyddo hefyd i fagu hyder a phroffil artist, ynghyd â hybu’r broses greadigol a chyfrannu at ddiwylliant Cymraeg.

Mae’n debyg, yn y dyddiau hynny, roedd cynhyrchwyr yn credu mewn comisiynu gweithiau newydd sbon gan artistiaid ifanc. Sôn am henffasiwn!

22/03/08

 

A hithau’n ddiwrnod tyngedfennol i dîm rygbi Cymru, a strydoedd Caerdydd yn llenwi gyda chefnogwyr a chantorion fel ei gilydd; mae hi’n addas ddigon fod y sianel yn canolbwyntio ar ffyrdd o greu awyrgylch bythgofiadwy i’r gêm fawr. Er bod y syniad tu nôl i’r rhaglen ‘Codi Canu’ yn un digon abswrd yn ei hanfod, a’r rhaglenni ansoniarus cyntaf yn aml yn boenus i’w gwylio, mae’r rhaglen wedi tyfu’n rhyw fath o ffenomenon bellach. Mae aelodau’r corau yn syllu i’w camerau-cartref gyda difrifoldeb dwys, mae’r baswyr yn bwrw’r nodau gwaelod gydag arddeliad, ac mae ambell soprano’n esgyn i’r entrychion.

A pham lai? Mae ‘codi canu’ yn y stadiwm yn sicr yn rhywbeth hanfodol i’w wneud ar ddiwrnod fel heddiw, ac yn allweddol wrth osod naws y prynhawn ‘ma. Dwi ddim am roi pwysau ar neb, ond y gorau fydd y canu, y gorau fydd y chwarae…

Un sy’n sicr wedi taro’r nodyn cywir gyda S4C yw Cerys Mathews, un o gantoresau mwyaf llwyddiannus gwlad y gân erbyn hyn, ac un o’n perfformwyr mwyaf cyfareddol ac unigryw, ac ry’n ni ddwl-o-ddiolchgar iddi am gefnu ar Nashville a dod nôl i Gymru fach. Cafwyd cyfweliadau difyr a pherfformiadau trydanol ganddi yn y rhaglen ‘Cerys Nôl Adre’, a oedd hefyd yn cynnwys cerddorion gwych fel y delynores amrywddawn Catrin Finch.

Ond tra bod aelodau di-Gymraeg corau Codi Canu yn straffaglu’n ddewr i lafaru llond pen o Gymraeg, rhoddwyd rhwydd-hynt i Cerys ganu faint bynnag o ganeuon Saesneg ag oedd hi eisiau, a hynny mewn ymdrech i sicrhau ffigyrau gwylio uwch na’r arfer. Ai codi canu yw peth felly, neu godi pais?

15/03/08

 

Beth fyddai Gwyl Ddewi ar S4C heb ‘Cân i Gymru’ gwedwch? Ry’n ni’n gwisgo cennin pedr, yn canu clodydd Dewi Sant, ac yn gwneud y pethau bychain, fel pleidleisio ugain o weithiau i’r un gân, a hynny am resymau cwbl blwyfol.

Ond diolch i’r fformat newydd, mae ‘na banel sydd yn gallu cydbwyso’r bleidlais blwyfol erbyn hyn. Wedi i gwmni Avanti gymryd yr awenau rhyw dair blynedd yn ôl, fe wnaed amryw o fân newidiadau i’r raglen boblogaidd hon, mewn ymgais i ffeindio’r fformat mwyaf llwyddiannus. Ac yn ôl y disgwyl, tra fod ‘na ambell beth yn taro deuddeg, mae pethau eraill yn taro’r glust fel gordd.

Eleni, cafwyd adwaith digon effeithiol rhwng y cyflwynwyr Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips, wrth iddyn nhw benderfynu cyflwyno mewn steil Eurovision-aidd, egnïol, siwdaidd-o-slic, a oedd yn gweddu’n berffaith i naws ysgafn y rhaglen, er i’r cwestiwn di-ddim ‘Sut ti’n teimlo?’ gael y gor-ddefnydd arferol.

Ar y llaw arall, roedd dilyn model yr X-Factor wrth gyflwyno’r canlyniadau yn gam gwag, gyda’r ymgais ymdrechgar i greu mwy o fomentwm yn llwyddo i ddileu unrhyw awyrgylch neu fomentwm yn llwyr. Ac wrth ystyried mai holl bwrpas y rhaglen oedd rhoi gwrandawiad teg i ganeuon, roedd y lefelau sain yn bur anwastad, a’r canu cefndir ‘ffug’ fel cystadleuaeth meim ar brydiau.

Ond er gwaetha’r ffaeleddau, un gwellhad arwyddocaol yn y blynyddoedd diweddar yw’r ffaith mai’r caneuon gorau sydd bellach yn dod i’r brig bob blwyddyn, a llongyfarchiadau mawr i Aled Myrddin a Lowri Evans, felly, nid yn unig am gyfansoddi caneuon o safon, ac am eu perfformiadau caboledig ar y noson, ond hefyd am sicrhau parhad y datblygiad pwysig hwnnw.

08/03/08

 

Yr wythnos hon, fe greodd y rhaglen ddogfen am Jennie Eirian argraff ddofn arnaf, cymaint o argraff nes fy mod, bron i wythnos wedi ei gwylio, yn dal i ail-fyw rhai munudau tyngedfennol o’r ddogfen honno. Dyna sy’n tystio i ddogfen dda, am wn i, un sydd yn gallu cyfathrebu gyda’r emosiynau mewn ffordd gofiadwy, gan gysylltu â’r dychymyg ar yr un pryd.

Yr oedd llwyddiant y rhaglen yn ffynnu o’r modd gelfydd, greadigol y’i strwythurwyd, a hynny trwy fritho’r cyflwyniad theatrig gyda chyfweliadau crafog a diddorol, a hynny gan gyfoedion, cyfeillion a theulu Jennie Eirian. Mae sawl dogfen wedi ymdrechu i ddefnyddio strwythur tebyg, a hynny’n aneffeithiol yn fwy na heb, ond y tro hwn, roedd ‘na sensitirwydd arbennig wrth y llyw. Roedd cyflwyno’r cymeriad trwy gyfres o olygfeydd llwyfan byr, bachog, yn ffordd hynod o gadw’r ffocws yn ddwys ar Jennie Eirian ei hun, gyda pherfformiad ysgytwol Rhian Morgan yn ategu haen ar ôl haen i’r cymeriad aml-ochrog, cymhleth, hynaws yma; a hynny’n cyferbynnu’n effeithiol, ac yn drasig-ddigon weithiau, gyda’r dadasoddiad gwleiddyddol, craff o du ei chyfoedion a sylwebwyr.

Nid yn unig oedd hon yn ddogfen haeddiannol, ond yn un hanfodol rhywsut, i ddwyn i gof enw a chymeriad arbennig a fu’n un o ffigyrau amlycaf Cymru, menyw gref a chanddi weledigaeth, uchelgais a dewrder heb ei ail. A pha well ffordd o gofnodi hynny na thrwy gelfyddyd ei hun, a gan ei chyflwyno, nid fel gwrthrych absennol i’w thrin a’i thrafod mewn pellter oer, ond yn agos atom, wrth i ni gael cyfle unigryw i ail fyw Jennie Eirian, trwy ddehongliad gwych Rhian Morgan, fel ffigwr tanbaid, bythgofiadwy.

01/03/08

 

Yn ddiweddar, fe’m denwyd yn ôl at Rownd a Rownd, fel sy’n dueddol o ddigwydd gyda’r fath deitl bachog. Dyw hynny ddim i ddweud ‘mod i erioed wedi cael fy ngyrru oddi wrth y sebon-slic yma, ond mae’n rhaid fy ‘mod wedi anghofio am ei bodolaeth rhwng hwn-llall-ag-arall, nes i wythnosau cynyddol o ail-ddarlledu dynnu sylw at y ffaith fod ‘na ambell raglen sy’n dal i gynnig tamaid wythnosol o wreiddioldeb.

Mae ‘na rhyw sicrwydd mewn dychwelyd at sebon sy’n hen ffefryn, rhyw gynhesrwydd yn y ffaith y gallwch chi lithro i’r byd dychmygol hwn o fewn eiliadau, gan gau’r bylchau’n dwt ac yn ddiymdrech. Yr wythnos hon, fe fum i’n chwerthin yn uchel ar ystumiau Kay, yn torri ‘nghalon dros Iris, ac yn gwenu’n foddhaol wrth weld Meical a Michelle yn gafael am ei gilydd, a hynny gyda’r un difrifoldeb a phetawn wedi bod yn gwylio’r rhaglen yn ddi-dor. Yr hyn sy’n hynod am Rownd a Rownd yw’r ffaith ei bod wedi llwyddo i gadw ei hâpel yn ifanc ac yn ffres cyhyd, heb golli gafael ar yr hiwmor a’r themâu dyfnach wrth wneud hynny. Mae’r sebon hefyd yn arwain y ffordd o ran gwneud defnydd gwych, pwrpasol a dramatig o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

Mae’n bosib fod ‘na rhywfaint o gyfiawnhad dros yr ail-ddarllediadau yr wythnos yma, wrth i ddwy rhaglen ddogfen – Merch y Gadair Ddur a Martin Thomas – gael eu henwebu ar gyfer gwobrau yng Ngwyl Gyfryngau Celtaidd 2008. Mae’n wych o beth i weld rhaglenni safonol fel y rhain yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol. Ac mae’n braf o beth cael dathlu bod safon ein rhaglenni dogfen cystal â safon ein swigod, weithiau.

23/02/08

 

Yr wythnos hon, Aled Glyn Williams oedd yr wyneb dan sylw yn “Wynebau Newydd,” chef ifanc o Ynys Môn a fu’n gweithio ym mwyty Gordon Ramsay yn Efrog Newydd. Pytiog braidd oedd y rhaglen i ddechrau, a hynny’n ddigon rhagweladwy, wrth feddwl ei bod yn cael ei ffilmio ynghanol un o geginau prysura’r byd, yn ystod adeg o densiwn uchel. Ro’n i’n hanner disgwyl i’r camera ei hun gael ei ddwrdio gan y prif gogydd.

Ond wrth i’r raglen fynd yn ei blaen, roedd ‘na fflachiadau o waith camera celfydd a chyfarwyddo ysbrydoledig, gyda’r ddinas ei hun yn cael ei phortreadu’n ddifyr, a gydag ambell olygfa, fel gweld Aled yn eistedd yn Central Park ymhlith y dorf, yn dangos fod yma gynhyrchiad o safon. Y trueni mawr oedd, nad oedd ‘na fawr o sylwedd yn y sylwadau a wnaed yn y cyfweliadau, rhywbeth a wnaeth i’r elfennau hynny edrych yn addurniadol. Ac roedd ambell gyfweliad yn well na’i gilydd – roedd clywed Aled yn sôn am y grefft o goginio ychydig yn fwy difyr na’i weld yn arogli a didoli madarch, gan ddatgan am un: “dyma ‘di favourite mushroom fi.”

Prif wendid y rhaglen imi, oedd nad oedd hi’n bosib gwneud mwy crafu wyneb “newydd” Aled, ac roedd hi’n anodd iawn canfod y themâu dyfnach angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn rhoi gwir sylwedd i unrhyw rhaglen ddogfen. Fe nodwyd ar ddiwedd y rhaglen fod Aled bellach wedi derbyn swydd fel Prif Gogydd ym Mhlas Bodegroes, gwrthbwynt diddorol i’r cyd-destun dinesig hwn, ond gan nad oedd modd cynnwys hynny, roedd cyd-destun ‘ynysig’ y ddinas ychydig yn oeraidd, er mor boeth oedd hi yn y gegin.

16/02/08

 

“Ma’ hyd yn oed Fflur yn lico rygbi dyddie ‘ma” – dyna ddywedodd un o fy ffrindiau gorau rhyw bythefnos yn ôl, mewn ebost a oedd yn ceisio hudo criw ohonon ni i’r ddinas i wylio’r gêm fawr ddydd Sadwrn diwethaf. Ac yn wir, yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol y tîm yn Twickenham, mae gen i deimlad y bydd “hyd yn oed Fflur” yn parhau’n un o ffrindiau gorau’r bêl hirgron dros yr wythnosau nesaf, er ffrind mor aneffeithiol yw hi fel arall – yn mynnu gwylio’r gêm o ofod diogel ei stafell fyw. Ond dim ond yn y fan honno oedd modd gwrando’n astud ar sylwebaeth safonol Huw Llywelyn Davies, a oedd wedi cyffroi’n lân erbyn y deng munud olaf.

Ac efallai fod awyrgylch ffres rhaglen Jonathan wedi effeithio rhywfaint ar atgyfodiad y tîm, wrth i’r criw afieithus heidio nôl at ei gilydd i gynnig adloniant yn ystod tymor newydd sbon o rygbi. Ro’n i wedi pryderu rhywfaint am ddyfodol y rhaglen hon yn ddiweddar, ond wrth i’r hen ffefrynnau ddychwelyd i’r soffa, yn ffurf Roland Phillips a Nigel Owens, ac wrth i Eleri Siôn barhau i ddal y wyneb siwdaidd-o-seriws yna, dwi’n gwbl ffyddiog y bydd y rhaglen hon yn ail-brofi llwyddiant i’r un graddfeydd.

Roedd hi’n ddiddorol gweld un o gyfweliadau cyntaf Rhydian Roberts, enillydd yr X-Factor, gwestai a oedd yn ddiffuant o ddifrifol am ei yrfa a’i ddyfodol, yn wahanol iawn i’r disgwyl, efallai. Ond roedd y ffaith ei fod yn trin rhaglen Jonathan fel unrhyw rhaglen ‘sgwrsio’ arall yn rhywbeth hynod oleuedig, am fod y rhaglen hon ar ei gorau pan mae’n llwyddo i gydbwyso’r difrifol a’r digri. Mae angen saib ar bawb wrth ddwli-pur, wedi’r cyfan, mae “hyd yn oed Fflur” yn credu hynny...

09/02/08

 

Pryd y’n ni’n bwriadu cymryd y busnes doniolwch ‘ma o ddifri, d’wedwch? Os oedd sioe PC Leslie Wyn yn profi rhywbeth, yna’r ffaith ein bod yn bodloni ar hiwmor eilradd oedd hynny, wrth i gynulleidfa o Fôn biffian i mewn i’w peintiau yn dilyn jôcs am organau rhywiol a baw defaid. Thema’r noson oedd ‘byw’n ‘wyrdd’ ac er ‘mod i’n traethu’r efengyl honno fy hun y dyddie ‘ma, dwi ddim yn credu bod ailgylchu jôcs yn mynd i achub y blaned – nid yr un a elwir yn S4C, beth bynnag.

Er bod Tudur Owen yn actor ac yn gomedïwr penigamp, dy’n ni ddim wastad yn gadael i rywun ymddwyn fel nhw’u hunain ar deledu. Na, mae’n llawer fwy diogel i daenu ychydig o golur oren dros ei wyneb, gwneud iddo siarad mewn llais uchel, a rhoi gwisg blismon amdano, gan fod hynny’n fwy ‘credadwy’ na gadael iddo gyfweld â gwesteion ar ei dermau ei hun, a chan ddefnyddio ei hiwmor naturiol ei hun.

Ond efallai’n wir mai’r ffaith imi wylio ailddarllediad o ‘Rhagor o Wynt’ yn syth wedi’r rhaglen hon a dynnodd sylw at y ffaith mai teithio am-yn-ôl ydym ni o ran ein soffistigeiddrwydd. Ro’n i’n ifanc iawn yn gwylio’r rhaglenni yma am y tro cyntaf, a dim ond wrth wylio eto fel oedolyn dwi’n deall pa mor wleidyddol-graff, mor grafog-o-Gymreig a mor afieithus-abswrd oedd y sgriptiau hynny, wrth iddyn nhw gael eu dehongli’n ddeallus gan actorion comedi gwych fel Dewi Pws, William Thomas, Nia Caron a Gareth Lewis.

Ac mae’n eironig braidd fod ‘Rhagor o Wynt’ wedi mynd o fod yn deitl dychanol i fod yn destun un o jôcs gorau Leslie Wyn...

02/02/08

 

Efallai’n wir mai am resymau plwyfol yn unig y gwyliais i’r rhaglen “Ty Cymreig – Sir Gaerfyrddin” yr wythnos hon, ond braf oedd darganfod nad plwyfol mohoni o bell ffordd. Yn wahanol i 04 wal, mae ganddi weledigaeth ddiwylliannol eang, sy’n caniatau i ni weld cartrefi hynafol o’r newydd, gan ddyfnhau ein gwybodaeth hanesyddol o’r Cymry a’u cyd-destun cymdeithasol trwy lygaid tri arbenigwyr praff – Aled Sam, Dr. Greg Stevenson a’i gi.

Penyrallt Fadog ym Mhentrecwrt oedd dan sylw yn gyntaf, ty a ddefnyddiwyd wrth ffilmio Y Palmant Aur a Tân ar y Comin, a braf oedd cael dysgu am gefndir pensaernïol yr adeilad hwn, yn ogystal a’i berthnasedd i’r gymuned amaethyddol. Yna ymlaen at Ty Mawr, Llwyndryssi, a’i gynllun gwerinol, to gwellt, cyn esgyn i entrychion bonedd gyda Neuadd Fawr Llanwrda a phlasty Castell y Strade, Llanelli.

Mae’n bosib, serch hynny, y byddai’n hawdd iawn i raglen fel hon eich diflasu o bryd i’w gilydd, gyda’i chorneli tywyll a’i thrafodaeth aml-haenog, heblaw am y cyfarwyddo a’r gwaith camera bendigedig, sy’n rhan mor greiddiol o’i llwyddiant. Gyda’r defnydd celfydd o olau naturiol, cysgodion a gwrthrychau mae’n bosib creu naratif weledol ochr yn ochr â naratif mwy ffeithiol y cyflwynwyr.

Ac nid ffeithiol mohoni bob tro, chwaith, gyda’r sgyrsiau yn gyfuniad hyfryd o draethu brwd a thaer Greg Stevenson a sylwadau cellweirus Aled Sam. Tra bod Greg yn rhyfeddu ar hen gwt moch wedi ei drawsnewid yn ystafell ‘molchi modern, yr hyn sy’n poeni Aled Sam yw ei fod yn arwain allan at y clos, a bod peryg i rywun darfu ar ymolchwr yn ei noethni. Dim ond Aled Sam allai wneud i “jingl-jangls” swnio fel terminoleg ffeithiol...

26/01/08

 

Yr un hen jôcs rhagweladwy sydd gen i am y gyfres ddrama newydd ‘Teulu’ – sef ei bod yn llawn ‘ysbrydion’ o Gwmderi. Mae cymeriadau sebon cofiadwy fel Llew, Fiona a Barry John wedi eu hatgyfodi er mwyn byw mewn alltudiaeth moethus yn Aberaeron, ac wrth i weddill y cast ymddangos ar y sgrin, mae hi fel rhifyn o ‘Cymar Pwy?’ (os oes unrhywun bellach yn cofio’r sioe ryfedd honno o’r wythdegau, lle roedd yn rhaid dyfalu pwy-oedd-yn-briod-â-pwy ymhlith enwogion y genedl).

Ond ta waeth am hynny. Yr hyn a geir yma yw drama difyr-ddigon, hawdd ei gwylio, sy’n syrthio’n dwt i genre y ddrama-saff-nos-Sul (er bod angen i’r parchusion warchod eu clustiau mewn ambell olygfa.) A minnau wedi nofio’n ddi-drafferth trwy bum pennod bellach, dwi wedi llyncu’r abwyd, ac yn mwynhau cael fy nhywys yn araf i’r lan gan y straeon slic, a’u strwythur di-ffws, ffwrdd-â-hi.

Y prif broblem sydd gen i hyd yma, yw fy mod yn methu’n lân a chynhesu at y mwyafrif o’r cymeriadau. Mae ‘na rhywbeth oeraidd am bob un, sy’n fy rhwystro rhag poeni a fydd Llyr yn llwyddo i adeiladu ei glwb, a fydd Llinos yn aros gyda Danny, neu a fydd Hywel byth yn canfod cyfrinach ei fam. Cymeriadau un-dimensiwn yw’r rhelyw ohonynt, yn llawn ystumiau ac ystrydebau, ond gydag ambell linell euraid, glyfar yn eu codi uwchben wyneb y dwr bob hyn a hyn.

Ond mae gen i ddiddordeb yn stori Eric a Eirlys, a hynny’n bennaf am nad yw Dewi Rhys Williams na Eiry Thomas yn euog o gloffi llinellau na tagu ar eu hacenion fel petai’n ddarn o bysgodyn yn llawn esgyrn…

19/01/08