|

»
Ebrill
- Awst 2009
»
Ionawr - Mawrth 2009
»
Hydref - Rhagfyr
2008
»
Gorffennaf - Medi 2008
»
Ebrill - Mehefin
2008
»
Ionawr - Mawrth 2008 |
Mae
Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi tyfu bellach i fod yn
rhyw fath o X-Factor ar gyfer S4C, ond gyda’r
bonws ein bod ni’n hepgor y rowndiau cyntaf. Dy’n
ni ddim, er enghraifft, yn mynnu dangos rhagbrofion
aflwyddiannus, a dy’n ni ddim hyd yn oed yn dangos
perfformiadau’r rheiny a ddaeth yn ail neu’n
drydydd, dim ots pa mor glodwiw. Na, mae ein safonau
ni fel cenedl llawer uwch na hynny, gan sicrhau fod
y rheiny sy’n ymgiprys am yr ysgoloriaeth eisioes
wedi cyrraedd safon arbennig.
Roedd
tri yn sefyll allan eleni yn fy nhyb i; Tudur Phillips,
a’i ddyfeisgarwch a hiwmor wrth foderneiddio’r
ddawns werin, Mared Emlyn a’i awen gerddorol yn
cynnau’r piano, a’r enillydd, Rhian Lois
Evans, a lwyddodd i arddangos proffesiynoldeb, disgyblaeth,
ac aeddfedrwydd llais hynod. Ar ben hynny, llwyddodd
y cynhyrchiad i gadw’r naws yn ysgafn ac yn ddeinamig;
gan wneud ymdrech bwrpasol i gynyddu proffil y gystadleuaeth
ar gyfer cynulleidfa iau, yn ogystal â chynnig
pecyn safonol ar gyfer y to hyn. Roedd dewis Elin Fflur
fel ‘angor’ i’r rhaglen (yn hytrach
na’r rhywun-rhywun arferol) hefyd yn gam clyfar
– gan bod ei phrofiad cerddorol yn cynnig rhyw
agosatrwydd a pherthnasedd arbennig.
Er
‘mod i mewn peryg o swnio fel hen famgu fan hyn
– mae’n braf gweld talentau’r to ifanc
yn dominyddu’r sgrin fach yn nosweithiol, yn enwedig
ar ddiwedd wythnos lle bu pryderon am eu hiaith a’u
hagwedd. Cyn belled a’n bod ni’n parhau
i’w denu at ein sianel gyda chyfleoedd gwych fel
yr ysgoloriaeth hon, gan gyflwyno’r cyfleoedd
hynny mewn modd atyniadol, fe fydd yr X-Factor –
a’i rhagbrofion gwael - wedi mynd yn angof.
27/09/08

Yn
dilyn ei chyfnod fel bardd plant Cymru, fe leisiodd
Caryl Parry Jones y farn fod safon y Gymraeg yn dirywio
o fewn ysgolion Cymru. Roedd hi’n gwybod wrth
wneud hynny, ei fod e’n destun tabw i sawl un,
ac mae’n rhaid edmygu ei dycnwch a’i dewrder
wrth dynnu sylw’r cyfryngau at y pwnc llosg hwnnw.
Ro’n
i wedi disgwyl y byddai’r rhifyn yma o Taro 9
yn dilyn y patrwm rhagweladwy arferol; cynnal ambell
gyfweliad, dangos ambell glip dogfennol cyn lluchio’r
cwestiwn (a’i ateb amhosib) i isymwybod y gwyliwr
gydag un troslais dramatig i orffen. Ond yn hytrach,
cafwyd ymdrech i greu rhaglen llawer mwy swmpus na hynny,
yn cynnwys panel o sylwebyddion. Fel arfer, cafwyd ymatebion
gonest gan y rhan fwyaf, a’r aer poeth arferol
gan y Bwrdd Iaith. Ond nid oedd yr egin-Pawb-a’i-Farn
hwn yn caniatáu amser i ddadansoddi’r sefyllfa
go iawn nac i roi darlun cytbwys, gan mai cyfres o sylwadau
unigol a wnaed yn hytrach na gadael i’r panel
ymateb i sylwadau ei gilydd. Gwnaed cam, hefyd, a’r
ddau wr ifanc ar y panel, a phobl ifanc yn gyffredinol,
wrth beidio a rhoi cyfle iddyn nhw ymateb yn fwy uniongyrchol
i’r honiad.
Dy’n
ni ddim yn debygol o ddatrys dim mewn hanner awr o raglen,
yn enwedig un nad yw’n archwilio deinameg iaith
pobl ifanc Cymru yn ei holl amrywiaeth. Ac er fod ‘na
barodrwydd yma i gyfrannu at y drafodaeth, mae angen
gadael llonydd i bobl ifanc a dechrau trafodaeth ehangach
am y grymoedd sydd angen arnom fel cenedl er mwyn diogelu’r
Gymraeg, cyn y gallwn sicrhau bod iaith y sgrin yn ôl
yn ein stafelloedd byw.
20/09/08

Fy
enw i yw Fflur Dafydd a dwi’n gaeth i Wedi 7.
Dyna ni. Dwi ‘di’i ddweud e o’r diwedd
ac mae’n deimlad braf cael cyffesu. Dros y blynyddoedd
ddiwethaf, gyda chymaint o newidiadau yn cael ei wneud
i’r amserlen, mae Wedi 7 wedi darparu hafan glyd,
brydlon i rywun sy’n credu mewn trefn; neu i rywun
sy’n credu mewn anhrefn, yn ddibynnol ar bwy yw’r
gwestai yn y stiwdio, wrth gwrs. Bellach mae’n
rhyw fath o gyffur imi, dwi’n gorfod cael fy mhilsen
goch ar ffurf llythrennau Wedi 7 yn nosweithiol, neu
wna i ddim cysgu.
Ond
yr wythnos hon, mae’n rhaid imi gydnabod bod fy
nibyniaeth wedi cyrraedd lefel arswydus. Ar ôl
cyfnod o weithio adre, dwi ‘di croesi’r
llinell. Dwi ‘di dechrau gwylio Wedi 3. Wel, tan
y toriad cyntaf, o leiaf. Cyn bo hir fydda i’n
chwilio am esgus i fynd i’r lolfa am dri o’r
gloch ac yn cael te-hufen-hirfaith yn ddefodol bob dydd.
Fe fydda i’n un o’r rheiny sy’n edrych
ymlaen at weld John Hardy yn cyflwyno mewn arddull traed-ar-ddesg
tra bod Elinor yn perffeithio’r grefft o edrych
ar ei wats a’r autocue ar yr un pryd.
Mae
hyn i gyd wedi digwydd am fod fy nghymar wedi cyfyngu’r
dôs o Wedi 7 lawr i hanner rhaglen yn unig, er
mwyn cynorthwyo gyda fy ngwellhad. Ond fedrith merch
ddim byw ar hanner Wedi 7, a dyna pam mae’n rhaid
trio gwneud lan am hanner Wedi 7 gyda chwarter Wedi
3. A fûm i erioed yn dda iawn gyda mathemateg
ond dwi’n siwr nad yw hynny’n gwneud cyfanswm
synhwyrol, hyd yn oed i jynci fel fi.
13/09/08

Agorwyd
drysau’r cwpwrdd dillad yr wythnos hon drachefn,
wrth i’r gyfres boblogaidd ddychwelyd am gyfres
arall, gyda’r Ty Cymreig yn dynn wrth ei sodlau-stileto.
Mae adolygu un o’r ddwy rhaglen hon wastad yn
gwneud imi deimlo ‘mod i’n troi mewn cylchoedd,
a hynny’n fwy fyth pan na allaf i ddod o hyd i
bethau negyddol i’w ddweud am y naill na’r
llall. Mae’r cyfresi’n parhau i fynd am
eu bod yn parhau’n sylweddol ac yn weledol-apelgar,
â’r safon yn codi’n uwch gyda phob
brethyn neu fricsen sy’n cael ei osod yn dwt o
flaen ein llygaid.
Yr
wythnos hon cafwyd clyfrwch gweledol a sylwedd arbennig
unwaith yn rhagor, wrth dwrio yng nghypyrddau tri mor
wahanol â’r maestro Owain Arwel Hughes,
y pync-rocar Efa Thomas, a’r wraig rygbi chwaethus
Maureen Edwards. Gwelwyd ôl cynllunio arbennig
ar bob un eitem, gydag eitemau Owain yn bennaf yn yr
awyr agored, neu yn erbyn cefnlen glasurol; tra bod
Efa yn swatio yng nghlydwch tywyll ei llofft, a Maureen
yn hamddena yn ei gardd yn ei dillad gorau. Cafwyd hiwmor
a gweledigaeth yn y cynhyrchu a’r gwaith camera;
bron nad yw pob un eitem yn ffilm fer, gelfyddydol,
gain – sy’n parchu’r cyfranydd a’r
cyfraniadau yn llwyr, ac yn dehongli gofod mewn ffordd
ddeallus sy’n codi uwchlaw raglenni ffordd-o-fyw
ar sianeli eraill.
Felly
dyma fi, unwaith eto, yn gwenieithu am yr hen gwpwrdd
(ac mi allwn draethu am harddwch tai Maesyfed, hefyd,
ond dwi’n dal yn ôl y tro hwn), tra fy mod
hefyd yn crefu am y newydd-deb a ddaw gyda’r Hydref,
fel na fydd yn rhaid i mi droi mewn cylchoedd mwyach,
er mor chwaethus y cylchoedd hynny.
06/09/08

Bob
hyn a hyn fe fydd ‘na gwis yn ymddangos ar S4C
sydd yn amlwg wedi ei gynllunio’n fanwl, wedi
costio’n ddrud i’w wneud, ac wedi ei gynhyrchu’n
raenus – ond eto sy’n gwneud dim synnwyr
o gwbl. Rhywbeth felly yw 0 ond 1, cwis tramor ei naws
sy’n ceisio bod yn eangfrydig ond sy’n portreadu
gwledydd tramor mewn ffordd mor elfennol mae’n
ymylu ar fod yn sarhaus (yn ôl y troslais, mae’r
haul yn Ne Affrica, mae Sion Corn yn y Ffindir, ac mae
Jamaica yn llawn cerddoriaeth.) Ar y llaw arall, mae’n
llwyddo i bortreadu’r Gymraeg yn bositif fel iaith
fyd-eang, ac mae’r cystadleuwyr oll yn deithwyr
brwd a phrofiadol sy’n barod i rannu straeon.
Mae’r
cyfan wedi ei lywio’n broffesiynol-ddigon gan
Nia Parry a Morgan Jones, sy’n ceisio’u
gorau i gadw’r naws yn ysgafn, tra bod Rhys ap
William, i’r gwrthwyneb, yn trosleisio fel tasai’n
godwr pwysau ar drothwy gornest ei fywyd. Mae’r
set afreal yn cynnwys ‘pont’ cwbl ddiangen
sy’n rhaid i’r cystadleuwyr ei chroesi wedi
iddyn nhw golli eu lle ar y llwyfan, (mae’n amlwg
nad oedd digon o arian yn y pot i gael llyn gyda chrocodeilod
oddi tano), a hyd yn oed os ydyn nhw’n cyrraedd
y rownd derfynol, mae ‘na siawns go lew i Gymro
‘oddi cartref’ (sydd wedi bod yn eistedd
adre gyda’i draed i fyny nes hynny) ddwyn y cyfan
am ei fod e neu hi yn digwydd gwybod enw cân gan
y Proclaimers.
Ond
dyna ni, nid Mastermind mohono, ac i’w roi yn
ei gyd-destun, mae e’n llai dwl na Tipit ac yn
llai brawychus na Risg. Ond serch hynny, wneith e fyth
rhagori ar Jacpot!
30/08/08

Braf
oedd gweld un wyl yn cael sylw o fath gwahanol mewn
dogfen yr wythnos hon – wrth i ni gael cyfle prin
i fwrw golwg dros hanes a datblygiad Gwyl Jazz Aberhonddu.
Fel mewn nifer o ddigwyddiadau eraill sydd yn agos at
y ffin ac sydd ag apêl rhyngwladol – mae’n
braf gweld nad yw’r elfen Gymreig yn cael ei cholli’n
gyfangwbl ynghanol y digwyddiadau hynny, gyda artistiaid
fel Osian Roberts, Huw Warren a’r triawd jazz
Burum yn sefyll ochr yn ochr â’r cewri,
ac yn ennill eu lle gyda pherfformiadau o safon arbennig.
Roedd y cyfweliadau hefyd yn cynnig dyfnder i’r
ddogfen, gan fod y cerddorion hyn oll yn bobl sydd â
diddordeb brwd yn yr wyl ei hun, ac yn gallu cynnig
gweledigaeth a phrofiad wrth drafod ei chyd-destun diwylliannol.
Rhaglen
arall ‘rhyngwladol’ ei naws oedd y gyfres
newydd Chwa, rhaglen i bobl ifanc sy’n dilyn cystadlaethau
chwaraeon eithafol. Dyma faes sydd wedi tyfu mewn poblogrwydd
dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n amlwg fod
y rhaglen hon yn rhyw fath o ymdrech i adlewyrchu hynny,
a hefyd i gyflwyno pecyn byrlymus, ifanc, lled-wallgof-ei-apêl.
Yn y fan hon, serch hynny, mae’n amlwg y gwnaed
ymdrech wan i geisio addasu a chyfieithu’r cynnwys,
gyda’r troslais a’r is-deitlo yn swnio’n
llafurus ac yn glogyrnaidd.
Cafwyd
hefyd rhifyn arbennig o’r Sioe Gelf yr wythnos
hon, yn dilyn Gai Toms wrth iddo droedio’r tir
‘Rhwng y llygru a’r glasu’ wrth greu
ei albym eco-gysyniadol newydd, gan ddefnyddio deunyddiau
‘gwyrdd’ yn unig. Fel y CD ei hun, dyma
raglen aml-haenog, a oedd yn codi cwestiynau pwysig
am gynaladwyedd y broses ‘werdd,’ a fydd
yn sicr yn ategiad pwysig at dymor amgylcheddol y sianel.
23/08/08

Mae
hi’n dymor ail-ddarlledu, gyda phob noson ar ein
sianel yn cynnig y gybolfa arferol o raglenni a ddioddefwyd
eisioes – yn fflach o liw a heulwen pan fo’r
awyr ‘go iawn’ yn llwyd. Rhaid mai ni yw’r
unig genedl yn y byd sydd yn mynnu ‘mwynhau’
uchafbwyntiau yr un digwyddiad am flwyddyn gron, gan
odro’r diferion lleiaf o gyffro’r Sioe Fawr,
yr Eisteddfod Genedlaethol, Sesiwn Fawr Dolgellau, Y
Faenol ac Eisteddfod yr Urdd yn ara’ deg dros
gyfnodau hesb yr Haf. Ond os y’n ni’n benderfynol
o grafu gwaelod y gasgen fel hyn, onid oes modd i ni
ymestyn ymhellach i’r gofod du a dechrau cyflwyno’r
isafbwyntiau? Glaw Eisteddfod Caerdydd, faux pas
cyhoeddus ambell i seleb, perfformiadau gwael gan gewri’r
sin roc, mae ‘na hen ddigon o ddeunydd pe bai
rhywun yn ddigon dewr i dwrio amdano!
Dim
syndod, felly, mai byngalo yw’r peth mwyaf cyffrous
imi ei weld ar y sgrin yr wythnos hon, a hynny mewn
rhifyn arbennig o’r Ty Cymreig. Dyma raglen sy’n
cynnig achubiaeth gyson imi pan fydd pethau’n
llwm arnaf o ran difyrrwch, a bob tro, dwi’n rhyfeddu
cystal yw’r safon, ac mor ddifyr yw’r cynnwys.
Unwaith eto, cafwyd cyfuniad deallus o raglen hanesyddol
a raglen ffordd-o-fyw, ac fe fûm i’n canfon
ceinder o fewn onglau twt, gan deimlo’n freintiedig
i gael swatio mewn sawl gofod bach, a deall pam fod
rhai yn honni mai trigolion byngalos yw’r hapusa’
ym Mhrydain.
Dyma
fy uchafbwynt personol i yr wythnos hon, beth bynnag
- neu isafbwynt, i fod yn fanwl gywir gyda’r mesuriadau.
A yw hi’n werth i ni ystyried, felly, mai isafbwyntiau
yw’r uchafbwyntiau newydd?
16/08/08

Fe
fu hi’n wythnos ddifyr a chelfyddydol-gyfoethog
yng Nghaerdydd yr wythnos hon – a diolch byth
fod gennym ni S4C i adlewyrchu hynny, gan mai prin iawn
oedd y sylw a gafodd yr Eisteddfod yng nghanol y ddinas.
Fe fyddai’n hawdd iawn i rywun ymweld â’r
ddinas heb syniad fod yna wyl anferthol yn ei chrombil
– yn wahanol iawn i’r hw-ha sy’n digwydd
bob tro fydd gêm rygbi yn cael ei chynnal.
Cafwyd
rhaglenni nosweithiol swmpus, fel arfer, gyda Rhun Ap
Iorwerth yn ein tywys o gwmpas yn ei arddull cynnes,
prif-fachgennaidd arferol, gan ddirprwyo sawl digwyddiad
i’w dîm cyflwyno afieithus. Yr oedd y darlledu
o’r Babell Lên hefyd yn safonol, ac fe fyddai’n
dda gweld rhagor o ddatblygiadau tebyg i hyn –
gydag arlwy Theatr y Maes a’r Llwyfannau Perfformio
hefyd yn cael sylw dyledus ar y sgrin fach.
A
hithau bellach yn ddiwedd wythnos, braf yw cael bwrw
golwg yn ôl ar rai o uchafbwyntiau’r wyl.
Fel arfer, dwi’n sgwennu hwn ar drothwy prynhawn
dydd Mercher, heb wybod pwy fydd gweddill enillwyr y
prif wobrau llenyddol, ond gyda balchder arbennig o
weld dau lenor ifanc yn dod i’r brig, gyda Hywel
Griffiths yn cipio’r Goron a Ifan Morgan Jones
yn cipio gwobr goffa Daniel Owen. “Ma’n
neud fi’n sâl,” ebe Bethan Gwanas
o’r soffa ddydd Mawrth, gan gyfeirio at gamp hynod
Ifan Morgan Jones wrth gyfansoddi nofel ffantasïol
anarferol, ag yntau’n 24 oed. Ond mor dda yw gweld
– mewn oes sy’n gallu bod mor negyddol am
barhad ein diwylliant hynod – fod ‘na ddiddordeb
ymhlith y llenorion ifanc, sy’n sicr o wneud i’r
to hyn grynu yn eu wellingtons gwyn.
09/08/08

Ar
drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol, fe aeth Llwyd
Owen ar daith trwy isymwybod Caerdydd ar ei feic bach
melyn, gan ymddangos ychydig yn llai bygythiol nag angylion
uffern ei nofel ddiweddara’, a llawer mwy huawdl.
Fel awdur a chyflwynydd y rhaglen, roedd hi’n
amlwg o’r cychwyn cyntaf fod ganddo syniadau pendant
am ba drywydd yr hoffai gymryd, wrth iddo wau ei ffordd
trwy lwybrau amgen y ddinas, gan chwilio am y cilfachau
a’r cysgodion.
Oherwydd
natur anffurfiol y rhaglen, cafwyd safbwyntiau diddorol
gan amryw o gyfranwyr, gyda chyfraniadau Geraint Jarman
a Nia Wyn Jones yn gosod y ddinas mewn cyd-destun diwylliannol
diddorol iawn, a hynny o safbwynt dau artist sy’n
gweithio mewn meysydd gwahanol dros ben – y naill
yn gerddor ac yn fardd sydd yn ddinesig-ei-weledigaeth,
a’r llall yn artist mewn metel, sydd yn elwa o’r
twf a’r bwrlwm cyfredol sydd yn y ddinas. Roedd
hi hefyd yn braf clywed yr hyn oedd gan Lloyd Robson
i’w ddweud, fel awdur sydd wedi dylanwadu’n
drwm ar waith Llwyd ei hun – ac roedd gweld y
ddau ‘Lwyd’ yn cerdded gyda’i gilydd
fel gweld personoliaeth ddeuol y ddinas yn cael ei ymgorffori
yn y fan a’r lle – er ‘mod i’n
gresynu’r ffaith fod Lloyd wedi parchuso, a wedi
torri’i wallt – gan ddinistrio’r elfen
doppelgänger-aidd, braidd.
Dyma
raglen hynod addas i’n paratoi ar gyfer wythnos
o ddathlu yn y ddinas, wrth i’r pafiliwn pinc
agor ei ddrysau unwaith eto i gynulleidfa newydd. Ac
er ein bod eisioes yn gyfarwydd â’r hen
le, mae’r wythnos hon yn gyfle prin i’w
ddarganfod o’r newydd, wrth i ni droi y strydoedd
i gyd yn gae ‘Steddfod.
02/08/08

Am
y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, do’n i ddim
ym mwrlwm y Marian i wylio perfformiadau byw Sesiwn
Fawr Dolgellau, ond yn hytrach yn gwylio’r uchafbwyntiau
adre. Ac fel rhywun sydd wedi mwynhau sawl perfformiad
byw ‘mond i glywed gan rywun wedyn ei fod yn ofnadwy
ar deledu, roedd yn rhaid goddef (a maddau) ambell frycheuyn
cerddorol mewn swig sydyn o win, gan atgoffa fy hun
nad yw’r nodau amhersain hynny yn berthnasol i’r
rheiny ynghanol y dorf, am eu bod nhw’n rhy brysur
yn canu mas o diwn eu hunain.
Wedi
dweud hynny, cafwyd sawl perfformiad godidog a chofiadwy.
Mae’r cyfryngau wedi rhoi cymaint o sylw i ymddangosiad
‘hir-ddisgwyliedig’ Endaf Emlyn dros yr
wythnosau diwethaf, nes ‘mod i bron yn rhy nerfus
ar ei ran i wylio’r digwyddiad. Ond dyma gerddor
hudolus, diymhongar, addfwyn a roddodd wledd o gerddoriaeth
melodig a chynnes a chyfoethog-ei-wead i ni, a swynodd
y rheiny’n sefyll yn stond o’i flaen, yn
ogystal â’r rheiny ar soffas ledled Cymru.
Band arall a lwyddodd i drosglwyddo’r perfformiad
byw yn llwyddiannus i deledu oedd Gwibdaith Hen Frân,
ac wrth feddwl fod teledu yn dueddol o ddofi egni cerddorol,
a gwneud iddo ymddangos yn llai na’r hyn ydyw,
dwi bron a dychryn wrth feddwl faint o egni oedd yng
ngwythiennau’r band go iawn!
Yn
gwau’r cyfan at ei gilydd yr oedd llais llorweddol
Owen Powell a gwên blygeiniol Lisa Gwilym, ac
er fod yr ymgais i efelychu arddull Glastonbury ychydig
yn ffuantus ar brydiau, cafwyd sylwebaeth ddifyr a deallus,
ac ymdrech i wneud i chi deimlo eich bod chi yn ei chanol
hi, nid ar yr ymylon.
26/07/08

Bob
hyn a hyn, fe fydd rhywun yn dadlau achos dros ddarlledu
Hacio yn ystod yr oriau brig. A bob tro, dwi’n
amheus-ddigon ohoni wrth droi’r teledu ymlaen,
a hynny’n bennaf am fy mod i’n dal i gofio’r
rhifynnau cynnar. Roedd hi, ac yn wir, y mae hi, yn
rhaglen sydd yn targedu pobl ifanc yn bennaf, ac roedd
hi’n arfer gwneud hynny trwy ddulliau amgen o
ffilmio, diffyg cynhyrchu, diffyg ffocws (a dwi’n
sôn am gynnwys a chamerâu) a chast rhyfedd
o gyflwynwyr lled-hysterig.
Ac
er ‘mod i lond fy nghroen o ragdybiaethau, buan
iawn y toddodd fy amheuon yng nghwmni dau gyflwynydd
graenus, hunanfeddiannol, sef Lisa Haf a Gwyn Loader.
Hawdd iawn anghofio, am unwaith, mai cyflwynwyr ‘ifanc’
a oedd wrth y llyw, heblaw am y ffaith fod ganddyn nhw’r
hyder i herio gwleidyddion, lle fyddai sawl cyflwynydd
hyˆn wedi methu. Yn fwy na hynny, roedd y rhaglen
wedi ei chynhyrchu’n ddeallus, gan roi cyd-destun
polisi i’r materion dan sylw, a chan osod y materion
mewn fframwaith Ewropeaidd. Yn hynny o beth, roedd hi’n
rhaglen dipyn yn fwy blaengar o ran ei thrafodaeth na’r
rhifyn dof o CF99 a’i dilynodd.
Ond
wedi dweud hynny, mae ‘na olion o’r hen
Hacio yno o hyd. Dyma raglen i bobl ifanc sy’n
achlysurol yn gorfod ffugio ei bod hi’n rhaglen
i bawb, a hynny trwy fod yn ddogfennol-blaen, gyda’r
islais lleiaf o hunaniaeth ifanc yn y gerddoriaeth gefndirol.
Yn fy nhyb i, fe fyddai’n rhaglen dipyn cryfach
pe bai modd ei phecynnu yn fwy penodol a deniadol, er
mwyn pwysleisio ymhellach ei hâpel ifanc a’i
hasbri crafog, a hynny’n ddigyfaddawd.
19/07/08

Gyda
ail-gylchu yn thema sy’n cael ei hail-gylchu yn
gyson y dyddiau ‘ma, ro’n i wedi osgoi gwylio
‘Popeth yn Wyrdd’ tan yr wythnos hon, gan
feddwl mai’r un hen syniadaeth a fyddai wrth wraidd
y rhaglen. Ond nid felly y bu – gyda Ifor ap Glyn
wrth y llyw-ffug fel rhyw gymysgedd cynnes a gwallgo’
o Louis Theroux a Dewi Pws – cafwyd rhaglen ddifyr,
afieithus, a chynhyrchiol, a lwyddodd i rhoi ffresni
arbennig i’r pwnc.
Yr
hyn a oedd yn fwyaf trawiadol am y rhaglen hon oedd
ei slicrwydd. Yn rhy aml o lawer y mae rhaglenni ffeithiol
neu ddogfennol yn lafurus o hirhoedlog wrth geisio ymdrin
â’r hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud
– gan ddefnyddio tactegau gweledol i lenwi amser
a gofod pan nad oes fawr o ddim yn digwydd ar y sgrin.
Ond yn achos y rhaglen hon, yr oedd y dyfeisiadau hynny
yn rhai pwrpasol, a oedd yn gwthio naratif y rhaglen
ymlaen yn ddiymdrech. Braf oedd gweld fod egwyddorion
‘Popeth yn Gymraeg’ hefyd yno fel is-destun
i’r cynnwys, gyda sawl cyfrannydd yn cael cyfle
annisgwyl i ddefnyddio’r Gymraeg, gan edrych yn
hynod falch o gael y cyfle i wneud.
Roedd
‘na gyffyrddiadau hyfryd eraill, hefyd, fel gweld
‘bws cerdded’ un o’r ysgolion cynradd
yn lwybr melyn ar hyd y ffordd, a chael y cyfle i gydbwyso
hynny gyda’r bysus ‘go iawn’ sydd
yn teithio trwy gefn gwlad Cymry. Yn fwy na dim, ro’n
i’n teimlo fod yma rhaglen hafal, realistig, nad
oedd yn bregethwrol mewn unrhyw ffordd ond un a oedd
yn benderfynol o newid agwedd ei chynulleidfa –
ac un sy’n debygol o wneud hynny, hefyd.
12/07/08

Cafwyd
rhifyn syfrdanol o’r Byd ar Bedwar yr wythnos
hon, a fu’n ymchwilio i’r broblem gynyddol
o ymddygiad gwrth gymdeithasol ymhlith pobl ifanc. Cyflwynwyd
y mater mewn modd digon amrwd, gyda’r bwriad,
am wn i, o greu argraff ddofn ar y gynulleidfa, a’n
syfrdanu gyda’r canfyddiadau.
Yn
sicr roedd hi’n syndod i mi fod cymaint o bobl
ifanc mewn un ardal wedi derbyn tagiau, cardiau melyn
ac ASBOS, ac roedd hi hefyd yn rhyfeddod i weld mor
ddu a gwyn oedd agwedd yr awdurdodau a’r dioddefwyr
ynghylch yr hyn y dylid ei wneud i gosbi’r troseddwyr.
Ar ddiwedd y dydd, plant yw’r troseddwyr hyn,
nid oedolion, ac mae hynny’n rhywbeth i’w
archwilio a’i ddadansoddi’n fanylach. Yn
sicr ni wnaed ymdrech i ehangu’r drafodaeth o
fewn y rhaglen hon, ond mae’n bosib iawn mai rol
y rhaglen yw cyflwyno’r sefyllfa fel y mae, fel
y gall esgor ar drafodaeth fanylach maes o law.
Ar
y llaw arall, y mae ieuenctid yn cael ei gynrychioli
a’i ddathlu mewn ffyrdd llawer mwy positif ar
hyn o bryd, a braf yw gweld y “Cyw” yn clwcian,
gyda’r gwasanaeth newydd i blant bach yn tystio
i ymroddiad y sianel i fagu cynulleidfa newydd. Dyma
i ni ddarpariaeth gynhwysfawr a chreadigol i blant bach
sydd bron yn gwneud i mi eiddigeddu wrth blant Cymru
eu bod yn derbyn y fath sylw a safon! Mae’r rhaglenni’n
egniol ac yn amrywiol, ac mae ‘na hefyd wefan
hynod liwgar a diddorol sy’n ategiad pwysig i’r
gwasanaeth. Ac mae hyd yn oed hen iâr fel fi yn
canfod fy hun yn canu “Helo Cyw” yn ddiddiwedd!
05/07/08
|
|