Datganiad i'r Wasg

Y 'Ffordd Mas’ i sain newydd Fflur Dafydd

Ar ôl profi chwyldro y gitâr drydanol, mae Fflur Dafydd wedi cefnu ar ei steil acwstig blaenorol ac wedi ychwanegu dimensiwn newydd a chyffrous i’w sain unigryw. Dyma ddechrau siwrne gerddorol newydd i Fflur Dafydd a’r Barf, ac o ganlyniad mae Rasal yn falch cael cyflwyno Un Ffordd Mas, ail albwm hir-ddisgwyliedig y band, a fydd yn cael ei lansio’n swyddogol yn y Cwins, Caerfyrddin ar Dachwedd 16ain.

Mae’r albwm, sy’n sy’n llwyddo i fod yn ddi-amser yn ogystal ag i’r-funud, yn cynnwys toreth o draciau egnïol, angerddol a chofiadwy wedi’u cyfansoddi gan y gantores-gyfansoddwraig o Gaerfyddin. Mae’r chwarae byw rhyngddi hi a’r Barf wedi’i drosglwyddo’n ddi-drafferth i’r albwm ac mae’n amlwg ein bod yng nghwmni cyfansoddwraig grefftus, gwahanol-i’r-arfer..Mae dylanwad soul i’w glywed yn gryf ar yr albwm, gyda’r caneuon wedi’u haenu gydag offerynau trydanol ac acwstig, gan gyfuno curiadau ffres a rhythmig gyda chanu angerddol, hypnotig.

Yn ogystal â chynnwys Helsinki, y sengl boblogaidd a gafodd ei rhyddhau yn gynharach eleni, a’r sengl Dala Fe Nôl, mae’r albym hefyd yn cynnwys traciau newydd sbon a rheiny yn gyforiog o hiwmor tywyll, straeon swreal, ac agwedd-afieithus, wrth i Fflur ddychwelyd i’w gwreiddiau storïol, a chreu cast o gymeriadau unigryw ar gyfer ei chaneuon. Mae trac agoriadol, er enghraifft yr albym Sa Fan ‘Na yn fath o gân-brotest sy’n ymateb i’r rheiny sy’n mynnu y dylai’r band ganu yn Saesneg, tra bod Pan Oeddwn Fachgen, yn faled tafod-mewn-boch am artist gwrywaidd ar y Sin Roc Gymraeg sy’n colli ei apêl wedi dyfodiad artist benywaidd mwy llwyddiannus.

Mae hefyd traciau mwy addfwyn i’w glywed ar yr albwm sy’n llawn soul melodiaidd a thyner, sy’n dangos hyblygrwydd dawn gyfansoddi Fflur, yn ogystal â’i aml-ochredd lleisiol.

Bu eleni’n flwyddyn brysur i Fflur Dafydd a’r Barf o ran sesiynau radio a theledu, wrth iddyn nhw recordio fideo i Bandit, ymddangos ar raglen Yr Ystafell Werdd gyda Bethan Elfyn a recordio Sesiwn C2. Fe fu’r band hefyd ar daith fawreddog o gwmpas Cymru yr Haf hwn, gan ymddangos mewn gwyliau poblogaidd yng Nghymru yn ogystal â Chroatia, yr Unol Daleithiau a’r Iseldiroedd. Ynghanol y daith, fe gymrodd y band saib fer yn stiwdio Sonic One, Llangennech i gwblhau’r albwm gyda’r cynhyrchydd Tim Hamill.

Ychwanegodd Fflur,
“Roedd recordio ynghanol y daith yn gwbl hanfodol. Roedden ni’n awyddus iawn i ddal y teimlad byw yna sy’n dod wrth chwarae’n gyson, fel bod y perfformiad yn y stiwdio yn un ffres, cyffrous, unedig, ac yn rhoi personoliaeth arbennig i’r caneuon.”

Bydd Un Ffordd Mas ar gael trwy siopau Cymraeg ar ddydd Llun 19eg o Dachwedd ac yng ngweddill Prydain ar ddydd Llun 26ain o Dachwedd. Mae hefyd yn bosib ei brynu’n uniongyrchol o Sain, neu yn ddigidol trwy iTunes. Caiff yr albwm ei ddosbarthu gan Sain yng Nghymru a thrwy SRD yng ngweddill Prydain.

Cysylltwch â Nerys Lloyd ar y cyfeiriad isod am luniau a mwy o wybodaeth.

 

Dyddiadau Taith Fflur Dafydd a’r Barf:
24 Hyd Gwyl Gelfyddydol Merthyr, 26 Hyd Ty Siamas, 31 Hyd Canolfan Dylan Thomas, 3 tach Gig Rhyngol, 16 Tach Lansiad Cwins Caerfyrddin, 24 Tach Gwyl Crossing Borders, 8 Rhag Tafarn Ty Newydd

www.myspace.com/fflurdafydd