| 
(cliciwch
yma ar gyfer
fersiwn PDF o'r datganiad) |
ARTIST:
FFLUR DAFYDD A’R BARF
ALBWM: BYD BACH
LABEL: RASAL
DYDDIAD RHYDDHAU: DYDD LLUN, TACHWEDD 16eg
Byd bach Fflur Dafydd!
Fe
fydd Fflur Dafydd, y gantores-gyfansoddwraig boblogaidd
o Gaerfyrddin, yn rhyddhau ei thrydedd albym ar Dachwedd
16eg. Yn wahanol i’r ddwy albym gyntaf, mae “Byd
Bach” yn albym cysyniadol sydd yn ymwneud â
lleoliadau gwahanol yng Nghymru, ac sy’n cludo’r
gwrandäwr ar daith o gwmpas y lleoliadau hynny
sydd wedi dylanwadu ar fywyd a cherddoriaeth Fflur.
Mae’r amrywiaeth o leoliadau yn eang dros ben,
yn amrywio o lefydd arfordirol braf fel Aberaeron a
Phorthgain, i dywyllwch dinesig Caerdydd, ac yna ar
hyd lwybr cerddorol yr A470 at Ynys Môn a Mynydd
Llandygai.
“Dwi
wedi byw mewn nifer o lefydd gwahanol yng Nghymru,”
meddai Fflur. “Ac er ein bod weithiau’n
gweld y ffaith ein bod yn byw mewn “Byd Bach”
yn rhywbeth negyddol, ry’n ni’n lwcus, mewn
ffordd, fod ganddon ni’r cyfle i ddod i nabod
ein gwlad mor dda, ac i weld pob cornel ohoni, yn wahanol
i bobl sy’n byw mewn gwledydd mawr. Dwi wastad
yn teimlo ‘mod i’n berson fwy crwn o fod
wedi byw mewn gymaint o lefydd, ac mae’r albym
yn rhyw fath o daith emosiynol imi trwy’r ardaloedd
gwahanol sydd wedi fy ffurfio i fel person.”
Wrth
deithio o fan i fan trwy gyfrwng y caneuon, mae pob
un lleoliad yn hawlio ei steil gerddorol unigryw ei
hun, ac yn brawf o’r cydweithio egniol, creadigol
sydd rhwng Fflur a’i band gwych, “Y Barf.”
Mae’r geiriau hefyd yn llawn hiwmor tywyll, swreal,
ac yn llawn cymeriadau a chyfeiriadau difyr, gyda’r
gân “Pobol Bach” er engraifft, yn
ymateb chwareus i gân Randy Newman, “Short
People.” Mae’r caneuon yn sicr yn dangos
crefft a gweledigaeth hynod Fflur fel artist, ac yn
brawf o’i chyfraniad unigryw at gerddoriaeth gyfoes
Gymraeg.
A
hithau newydd ddychwelyd o gyfres o berfformiadau yn
Iowa a Portland yn yr UDA, fe fydd Fflur yn hyrwyddo’r
deunydd newydd mewn sawl gig yng Nghymru dros yr Gaeaf
gyda’i band ‘Y Barf’. Fe fydd hi hefyd
yn ymddangos ar eitem arbennig ar y Sioe Gelf, a fydd
yn bwrw golwg dros ei blwyddyn gelfyddydol-gynhyrchiol
fel awdur a cherddor, wedi iddi ddod i’r brig
yng nghystadleuaeth y Daniel Owen eleni gyda’i
nofel “Y Llyfrgell.” Mae’r fideo o
gân olaf yr albym, “Yr Ymylon” a gafodd
ei ffilmio yn Iowa a’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr
o Bacistan, Azeem Sajjad, hefyd ar gael i’w wylio
ar www.myspace.com/fflurdafydd
Os
am wybodaeth pellach, cysylltwch gyda Guto Brychan:
gutobrychan@me.com / 07816664185
Gigs:
• Tachwedd 13 - Clwb y Cwins Caerfyrddin, Lansiad
yr albym
• Tachwedd 20 - Duke of Clarence, Caerdydd
• Tachwedd 21 - Clwb Golff Caerfyrddin
|
|