| Ma
‘na fenyw’n dal i gerdded i ganol y stafell
Gan estyn mas ei bysedd brau
Mae hi’n meddwl bod hi’n cofio teipiadur
ar ddesg
Oedd yno pan odd hi’n iau
Ac
er nad oes ‘na ddim byd yn y gofod na mwyach
Ma’n dal i fynd na’r un peth
Ma ‘na bethe sydd yn dod, pethe sy’n mynd
A weithie welwn ni byth eu gwell
Ac
mae’r gwagle ynddi o hyd
Di-doreth, ar derfyn dydd
Ac er mor fodlon yw ei byd
Ma rhwbeth sy’m yn iawn o hyd
Ma
‘na bethe sy’n brin
Pethe da a fuodd fan hyn
Ac os oes rhywbeth di bod fan hyn
Dyw e byth wir byth wir byth wir wedi mynd
Ma
‘na ddyn sy’n dal i daflu un brigyn i’r
aer
Gan ddisgwyl i rhywun ei ddal
Ond mae’i wyres bach benfelen wel ma’i ‘mond
yn daer
Dyw hi’m yn deall be ‘di’r brigyn
tal
Ac
er fod yr hen gi wedi trigo ers teirblwydd nawr
Ma’n dal i daeru fod e
Yn clywed ei gyfarth clywed ei gyfarth
Yn yr ardd bob amser tê
Ac
mae’r gwagle ynddo o hyd
Di-doreth ar derfyn dydd
Ac er mor fodlon yw ei fyd
Ma rhwbeth sy’m yn iawn o hyd
Ma
‘na bethe sy’n brin
Pethe da a fuodd fan hyn
Ac os oes rhywbeth di bod fan hyn
Dyw e byth wir byth wir byth wir wedi mynd
A
dwi’n dal i yrru lawr Heol Dwr Fach
A disgwyl dy weld di mas
Heibio’r waliau gwyrdd heibio’r ffenest
fach
Gyda’n nghalon yn mynd ar ras
Ac er mod i’n gwbod ddoi di byth mas i’r
drws ffrynt to
Na ddoi di, ddoi di ddim
Ma ‘na rhwbeth sy’n gwneud imi arafu’r
car
A meddwl ‘falle, falle tro hyn.’
Ac
mae’r gwagle yno o hyd
Di-doreth ar derfyn dydd
Ac er mod fodlon yw fy myd
Ma rhwbeth sy’m yn iawn o hyd
Ma
‘na bobl sy’n brin
Pobl da a fuodd fan hyn
Ac os oes rhywun di bod fan hyn
Dyn nhw byth wir byth wir byth wir wedi mynd
O’r fan hyn
Fel yr hen gi
A’i theipiadur hi
Fel wyt ti
Fel fydda i...
GONE: a song about all the missing things in life;
an old typewriter that was thrown out, a beloved dog
that passed away, and a person who died and who will
never again be seen at their front door, looking at
the cars going by. The presence of both the inanimate
and animate remains a strong force - “If you’ve
been, you’re never gone.”
«
nol i 'cerddoriaeth'
|