| Un
ffordd mas
Ti’n gorfod neud be ti’n gorfod neud
Sdim byd gwaeth
Ti’n gorfod neud be ti’n gorfod neud
Weithie
Mae e’n gyrru ei gar
Trwy y ddinas fawr
Yn chwilio
Am rhwbeth i liwio’i fyd
Yn amal
Ma’r trafod yma’n lot rhy wamal
Mae e’n esgus gwrando
Yn methu peidio
A gwneud cam gwag ar ôl cam gwag
City
Arms
Canteen bar
Yr un wynebau o hyd ac o hyd
Café Brava, tydi hi’n braf ma?
Medde fe medde hi medde fe medde hi
Wedyn Dempseys ‘wel be gym’i di?’
Ei wyneb mewn Guinness yn ddu ddu ddu
Cyn Clwb Ifor Bach
Mae e nôl yn y car
Yn dianc rhag y dim-byd
Heddi
Ma hi’n syllu i’r drych
Yn y ffrog fawr wen
Yn ysu iddo’i ffitio fymryn gwell
Fory
Fydd y ffrog yn rhy dynn amdani
Fydd hi’n dweud ei phader
Yn mynd i’r capel
A cymryd cam gwag ar ôl cam gwag
Cliff
Hotel
Plis aros am sbel
Yr un wynebau o hyd ac o hyd
R’awyr las ‘ma, tydi hi’n braf ma?
Medde fe medde hi medde fe medde hi
Wedyn dathlu ‘wel be gym’i di?’
Ei hwyneb mewn gwin coch yn ddu ddu ddu
Cyn y dawns gynta,
Wel ma hi o ‘na
I ddianc rhag y dim-byd
ONE
WAY OUT: this clings to the old adage, ‘the only
way out is through.’ Even if this means seeing
something through to the end, like living in a busy
city for ten years just to make sure it isn’t
for you, or going through with a wedding to find out
if the doubts were more than just a case of wedding
nerves. Ultimately, if one faces the problem head on,
one escapes the sense of nothingness that comes with
making a bad decision.
«
nol i 'cerddoriaeth'
|