| Mr
Freestyle
Mr cof-mor-wael
Mr Babycham
Mr hanner-pan
Mr gwallt-fel-Robert Plant
A dant sy’n hanner cant
Yn llosgi nghalon bant, i nunlle, ma’n hunlle
Mr
te-cryf
Mr gweld-y-byd
Fel blaidd ar derfyn dydd
Gwydd sy’n torri’n rhydd
Mr
clustie-fel-y-sêr-a-damcaniaethau-blêr
Ma gen ti dafod bêr
Ti’n wallgo’, yn honco
Mr
Freestyle, Mr cof-mor-wael
Ti’m yn fêl i gyd, na ti’n fwy fel
glud
A ti’n glynu i bob man a dwi’m yn gwbod
pam
Fod gen i fannau gwan
I ildio, heb stopio
Dwi’n ildio, mae’n chwyldro
«
nol i 'cerddoriaeth'
|