| Yno
rhwng y dod a’r diod-ar-ôl
Fydd ‘na wastad rhyw syched o hyd
Ac er nad yw y cnawd ond cusan dau fawd
Fydd ‘na wastad rhyw ddistawrwydd rhyngom ni
Distawrwydd cynta’r byd
Ac
er mod i’n trio ‘i ddeall e
Ti’n dweud “Fe dâl i ti beidio darllen”
A wel dwi’n dal i drio, wrth i ti droi’r
dudalen
Yno
yn y gwair, rhwng hwnnw a’r aer
Dyna i mi yw lliw dy lyged o hyd
Ac yno yn yr hwyr, yno’n llwyr
Fydd ‘na wastad dy gesail yn grud, lle gore’r
byd
Ac
er mod i’n trio dy ddeall di
Ti’n dweud “Fe dâl i ti beidio darllen”
A wel ma’n rhaid i mi heno, cyn i ti droi’r
dudalen at y...
Dwr
a’r tân, at y lleuad sy’n lân
Ac yn y gole fydd dy wallt di ar dân
Ma’r haul di mynd a mond ti sydd fan hyn
Ac ydw nawr dwi’n deall, yn deall i’r dim
Meddal
yw’r gân
Wastad mor lân
Meddal yw...
Yno
yn yr aer yno’n gwau
Fydd na wastad rhyw ystyr o hyd
Ac yn y wifren ffôn, yno’n y bôn
Fydd na wastad rhyw drydan mawr drud
«
nol i 'cerddoriaeth'
|