Bywgraffiad

Mae Fflur Dafydd, (g. 1978) yn nofelydd, academydd a cherddor o Gaerfyrddin. Daeth i amlygrwydd gyda’i chyfrol “Y Gwir am Gelwydd,” casgliad arobryn Medal Lenyddiaeth yr Urdd 1999, tra’r roedd hi’n dal yn fyfyrwraig. Aeth ymlaen i ennill gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o gwrs enwog Prifysgol Dwyrain Anglia, cyn ennill doethuriaeth ar waith y bardd R.S. Thomas ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Wedi hynny, gweithiodd mewn amryw o gyfryngau, gan ysgrifennu ar gyfer y theatr, radio a theledu, cyn penderfynu canolbwyntio ar ryddiaith. Cafodd ei nofel gyntaf “Lliwiau Liw Nos” ei chyhoeddi yn 2005 ac enillodd ei hail nofel, “Atyniad” Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol 2006. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio ar ei thrydedd nofel “Ffordd o Fyw,” i’w chyhoeddi yn 2008/9.

Bu’n awdur preswyl ar Ynys Enlli (2002) ac yn ninas Helsinki, Y Ffindir (2006) ac mae hi’n teithio’n gyson i amryw o wyliau llenyddol ledled y byd. Mae hi wedi cynnal darlleniadau yn Croatia, yr Eidal, yr Almaen, Norwy a’r Unol Daleithiau, ac fe fydd hi’n ymweld â’r Iseldiroedd ym mis Tachwedd 2007. Mae hi hefyd yn cyhoeddi ysgrifau beirniadol ar farddoniaeth R.S. Thomas ac yn darlithio ym Mhrifysgol Cymru Abertawe.

Mae hi hefyd yn adnabyddus yng Nghymru fel cantores a chyfansoddwraig. Darllen mwy.