|
Atyniad
Cefndir hyfryd a sgyrsiau ystwyth
Adolygiad Hafina Clwyd o Atyniad gan Fflur Dafydd.
Cyfrol Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe
2006. Y Lolfa £6.95
Fum
i erioed ar Enlli ond yr wyf yn 'nabod nifer sydd yn
taeru mai dyma baradwys Cymru ac ânt yno am seibiant
a llonydd a chatharsis bob hyn a hyn.
Er
cymaint yr hoffwn gael tipyn o seibiant a llonydd a
chatharsis, nid i Enlli yr awn gan nad wyf yn hoff o
deimlo bod fy nhraed mewn cyffion.
Hynny
yw, bod y cwch i fynd yn ôl i'r tir mawr yn dibynnu
ar y gwynt.
Er
hynny i'r fan hon yr aeth Fflur Dafydd am gyfnod byr
fel awdur preswyl ac y mae'n rhaid ei bod wedi cael
budd a maeth oherwydd esgorodd ar gyfrol fechan hyfryd
tu hwnt a enillodd iddi'r Fedal Ryddiaith yn Abertawe
eleni.
Gwasgu'n
noeth
Daeth y wên gyntaf pan ddarllenais y
dudalen gyntaf pan fo Cadi a Leri ac Alys a Sinsir yn
ofni na fyddai yno ddigon o ddynion, "Rhai y medrech
chi eu gwasgu'n noeth yn erbyn wal gerrig dan y lloer".
Os
yw'n swnio'n erotig mae hefyd yn swnio'n boenus.
A
beth bynnag, yr hyn a glywais i ar hyd y blynyddoedd
oedd mai un o'r manteision mawr oedd y diffyg dynion
ac mai mynd yno i ddianc rhagddynt yr oedd fy ffrindiau.
Chwilio
am gwm tawelwch heb angen golchi trôns a gwneud
bwyd yn ddiddiwedd. Rhywbeth hollol wahanol oedd yn
corddi Alys a Leri a'r gweddill. Ieuenctid a hormonau
er enghraifft.
Yr
ynys ei hun
Prif gymeriad y gyfrol yw Ynys Enlli ei hun.
Mae'r ynys yn debyg iawn i Dy'r Brawd Mawr. Hynny yw,
y mae'n cynnwys nifer o gymeriadau sydd yn medru bod
yn ddigon od ac yn mynd ar nerfau ei gilydd.
Oherwydd
ar yr ynys y mae yna Nikki a Lea ac Imogen. Dylanwad
yr ynys ar y bobl sydd yno yw'r thema.
Yr
anhawster mwyaf i mi oedd bod yna gymaint o gymeriadau
a bod yn rhaid mynd yn ôl o hyd ac o hyd i weld
pwy oedd pwy a pham yr oeddynt yn rhygnu ar ei gilydd.
Ond
os oeddwn yn cymysgu rhwng yr holl drigolion ac ymwelwyr
pwy fedr anghofio Justin a Lucinda. Dyma ddychanu ardderchog.
Cyfryngis
o Gaerdydd ydyn nhw - Justin yno i ffilmio'r bywyd a
Lucinda'r cynhyrchydd.
Yr
ydym wedi adnabod pobl fel hyn; oriog a hunandybus,
dim llychyn o ddiffuantrwydd yn perthyn iddynt. Ac yn
llawn angst.
A'r
peth mwyaf doniol yw iaith Lucinda wrth gwrs - Wenglish
go iawn, iaith lyfis yr ydym yn gyfarwydd ag o.
Wedi
llwyddo
Mae Fflur wedi llwyddo i greu cefndir hyfryd
ac y mae ei sgyrsiau'n ystwyth ac yn llifo fel triagl.
Mae
hi hefyd yn ysgrifennu'n farddonol iawn. (dim syndod
o gofio pwy yw hi). Yn wir medrai tudalennau cyfain
fod yn vers libre.
Dyma
ichi ddarn sydd yn farddoniaeth:-
Porthmeudwy, porthi'r meudwy.
a'r meudwy'n borthladd.
Dos i fyny'r allt,
Cadwa i'r chwith,
a gwylia eto am yr arwydd sy di torri'n ei hanner.
Porthmeudwy.
Yn bownsio'n ôl ac ymlaen
rhwng tafod a thaflod,
heb yr un ystyr,
ond yn llawn delweddau.
Mae
ganddi ddawn arbennig i ysgrifennu tafodiaith. Rhywbeth
y mae ambell awdur a llawer actor yn methu ei wneud.
Mae
ganddi hiwmor hefyd. Mae hi mewn un lle'n dychanu colofnwyr.
'Colofn?
Dwyt ti ddim yn un o'r rheina sy'n sgrifennu am dy wr
a dy blant a dy gi a dy blydi fabi gobeithio. Wy'n casau
rheina...ddoe bues i a'r plant yn ...bla bla bla - a
gesi di byth beth ddigwyddodd a beth ma hynny'n ddeud
am ein cymdeithas ni heddiw ac am foesoldeb... ....efalle
mai petha arwynebol felly ydy pob colofn, yn y bôn.'
Felly
dyna fy rhoi fi yn fy lle.
A'i mam!
[http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/
llyfrau/adolygiadau/639-atyniad.shtml]
|