|
Adolygaid Glyn Jones o Atyniad gan Fflur Dafydd
Dyma'r
nofel a enillodd y Fedal Ryddiaith i Fflur Dafydd yn
Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006. Hawdd gweld pam.
Llwyddodd
i droi lle mor ddiflas ag Ynys Enlli yn garnifal o gynnwrf
ac emosiwn a hynny sy'n cario'r nofel yn hytrach na
phlot.
Wedi'r
cyfan, beth all ddigwydd ar ynys, prin ddwy filltir
o hyd?
Y
teitl
Mewn gair, busnesu mae'r awdures, a chyfaddef
neu beidio, mae helbulon pobl eraill yn fêl ar
fysedd pob un ohonom. Mae'n
rhoi cip sydyn inni, ac rydym ni felly am wybod mwy.
Credaf
mai dyma arwyddocâd teitl y nofel, Atyniad.
Cawn ein 'hatynnu' at y cymeriadau fel caiff y cymeriadau
eu 'hatynnu' at yr ynys.
Ond
peidiwch disgwyl darlun neis, neis, o'r ynys hon ychwaith.
I'r gwrthwyneb.
Aeth
yr awdures ati i rwygo'r darlun o'r ynys ugain mil o
saint yn garpiau.
Rhaid
canmol ei dychymyg a'i gwreiddioldeb. Mae Enlli'r nofel
hon yn ynys o ddiawledigrwydd a gwallgofrwydd.
O'r
dudalen gyntaf un mae awyrgylch sinistr lle gallwn deimlo'r
tensiwn rhwng y cymeriadau.
Cloddio
Wrth i'r ynyswyr helpu'r archeolegwr gloddio,
yn ddiarwybod i bob un ohonynt, maent yn cloddio'n ddyfnach
i'w bywydau eu hunain.
Mae
pobl yn gorffen â'u cariadon, yn canfod rhai newydd,
yn ffraeo, cenfigenu a chasáu.
Caiff
mantelli'r unfed ganrif ar hugain eu diosg i ddangos
y natur ddynol yn ei holl gymhlethdod cyntefig.
I
ganol hyn daw awdures breswyl ifanc sy'n gobeithio canfod
symbyliad i ysgrifennu ond yn magu dim ond cariad at
yr archeolegydd diflas sy'n ddigon hen i fod yn dad
iddi, ac amheuon am y bywyd a adawodd ar ôl ar
y tir mawr.
Diddorol
yw sylwi nad enwir yr awdures breswyl ond y sonnir amdani
yn y person cyntaf. Ai sôn amdani'i hun mae Fflur
Dafydd?
Dryslyd
braidd yw'r dechrau gyda chymeriadau'n cael eu taflu
i'r nofel un ar ôl y llall pan ddylai llenor gyflwyno
cymeriadau i'w gynulleidfa yn lle eu hau fel hadau dros
bob man. Cyfrais o leiaf un ar ddeg ohonynt yn y bennod
gyntaf!
O
un i'r llall
Hoffaf y ffordd y mae'r stori yn gwibio rhwng
y trydydd person a'r person cyntaf - mae'n newid braf
ac yn gyfle inni weld yr ynys mewn ffordd ychydig yn
wahanol.
Hoffaf hefyd y ffordd y bu i'r awdures ganolbwyntio
ar ddarlunio cymdeithas, ac osgoi'r demtasiwn i ganolbwyntio
ar unigolyn.
Mae'r
arddull hefyd yn effeithiol. Mae'n syml a dealladwy
ond yn frith o ddisgrifiadau cyfoethog.
"Roedd
y ffenestri'n gloywi gyda chynhesrwydd teuluol,"
meddai am y fferm.
Neis te?
Diwedd
siomedig
Does gen i fawr o feddwl o'r diwedd - pennod
o athronyddu dibendraw.
Does
dim tro yn y gynffon.
Does dim digwyddiad cyffroes.
Mae'r stori'n gorffen wrth i'r cymeriadau adael yr ynys.
Credaf
hefyd y collwyd cyfleon i greu cynnwrf, fel pan gaiff
Justin Bowen ei dwyllo i adael yr ynys. Digwydd
hyn mewn brawddeg neu ddwy, a minna'n edrych ymlaen
at ffeit go dda.
Er
mai nofel i ferched yw hon gyda'i chariad a'i chyfrinachau,
mwynheuais innau hi'n fawr fel nofel i swatio o flaen
tân gyda hi ganol gaeaf.
Un
peth bach arall - y clawr.
Argraffu'r
teitl ac enw'r awdur heb brif lythyren - rhywbeth sy'n
dân ar fy nghroen ac yn hen arferiad gwirion y
byddai'n well inni hebddo.
[http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/
llyfrau/adolygiadau/bro-atyniad.shtml]
|