|
Teg darogan y bydd ail nofel Fflur Dafydd, sef cyfrol
y Fedal Ryddiaith 2006, yn cael ei hadolygu o bob cyfeiriad,
gan ddechrau yn y Cyfansoddiadau a chan ymestyn yn lled
eang trwy ein cylchgronau a’n cyfnodolion. Bydd
cryn drafod ymhlith yr adolygwyr ar ei theilyngdod llenyddol
ac ar sylwadau’r tri beirniad, a bydd cylchoedd
darllen ar hyd a lled y wlad yn astudio’r nofel
ynghyd â gweddill cynnyrch buddugol Prifwyl Abertawe.
Ond
beth am ddewis ei darllen nid yn sgil y Fedal Ryddiaith
nac ychwaith am ei bod tua chwarter trwch y gyfrol ddaeth
i’r brig yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel
Owen, ond fel nofel ‘a rydd gryn ddiddanwch’
ac a fydd ‘yn profi’n atyniad i gynulleidfa
eang’ – os caf ddyfynnu’r Cyfansoddiadau
am eiliad cyn gadael yr Eisteddfod o’m hôl?
Wedi
cychwyn ar y nofel a chael blas arni, ro’n i’n
mwynhau dychwelyd at Atyniad i barhau â’r
darllen, ac am sbel ar ôl ei gorffen fe fues i’n
meddwl ei bod yn drueni na fyddai Fflur Dafydd wedi
ysgrifennu nofel oedd ddwywaith yr hyd. Roeddwn i eisiau
gwybod mwy am yr hyn oedd yn symbylu’r cymeriadau,
yn enwedig felly Leri a Sinsir, a Bela ac Anni. Yn yr
un modd, roeddwn i eisiau gwybod mwy am hynt Justin
wedi iddo adael yr ynys a dychwelyd i’r ddinas
fawr. Eisiau hanesion mwy crwn, os mynnwch chi. Ond
buan y des i sylweddoli nad yw Enlli yn cynnig y fath
foethusrwydd yn ei phrofiadau ac mai dim ond adlewyrchu
cyfyngiadau naturiol bywyd ar yr ynys y mae’r
prif gymeriad, yr awdures, yn ei chofnod o’i chyfnod
yno. Croesi’r Swnt yw tynged mwyafrif y cymeriadau,
boed ar adeg gyfleus yn eu hanturiaethau ai peidio,
ac ni all hyd yn oed y tywydd gynnig mwy na rhwystr
dros dro. Yr un yw’r cyfyngiad ar berthynas yr
awdures â Tomos – un o linynnau cryfaf y
stori yn fy marn i. Rhaid cofio hefyd, wrth gwrs, nad
yw amodau’r gystadleuaeth yn rhoi rhwydd hynt
o safbwynt nifer geiriau ychwaith.
Mae
arddull farddonol, ddychmygus a chryno Fflur Dafydd
wastad wedi apelio ataf ac mae’r cyfuniad o swyn
y geiriau a hud Ynys Enlli yn sicr yn gweithio yma.
Fe ges i flas ar gyfrol y Fedal Ryddiaith eleni –
fel cyfrol Eisteddfodol ac fel nofel yn ei rhinwedd
ei hun.
Nia
Peris
Adolygiad
oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau
Cymru.
[http://www.gwales.com/reviews/?isbn=9780862439330&tsid=1]
|