|
Sgwrs â Fflur Dafydd
Medi / Hydref 2006
Gofynnodd Cwlwm i Fflur Dafydd, enillydd
Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Abertawe i sôn ychydig
am gefndir y nofel fuddugol, 'Atyniad.'
Cyfrol
yn olrhain hanes awdur preswyl Ynys Enlli yw 'Atyniad'
a'r modd y mae'r awdur yn dod i gysylltiad â phob
math o wahanol bobl, yn archeolegwyr, adarwyr, artistiaid,
pobl teledu a'r ynyswyr eu hunain wrth gwrs. Fy mhrif
ddiddordeb i oedd y modd y gallai naratif ddwyn yr amrywiaeth
yma o bobl at ei gilydd er mwyn cynrychioli'r ynys fel
y mae heddiw, yn hytrach na rhamantu am y gorffennol,
er mwyn ceisio cynrychioli stori gyfoes yr ynys.
Fe
fuost ti am gyfnod yn awdur preswyl ar Ynys Enlli yn
2002. Ai dy stori di yw hon felly?
Na. Mae yna elfennau hunangofiannol ynddi,
fel sydd ymhob nofel am a wn i. Beth oedd yn fy niddori
i oedd y modd y mae'n bosib i chi wae hunangofiant a
ffuglen at ei gilydd, a bod y canlyniad yn rhywbeth
llawer mwy diddorol. Mater o roi siâp ar eich
profiadau er mwyn eu gwneud nhw yn fwy darllenadwy.
Beth
oedd argraffiadau'r ynyswyr o'r awdur preswyl?
Eitha drwgdybus, mae'n rhaid dweud! Roedd rhai
o'r ynyswyr yn meddwl bod gen i agenda, a phawb yn awyddus
iawn i wybod beth oedd canlyniad y gwaith. Dda'th dim
canlyniad am bedair blynedd! Dwi'n siwˆr bod rhai
o'r ynyswyr yn meddwl fy mod heb wneud dim ond chwarae'r
gitâr a chymdeithasu! Roedd yna artist preswyl
ar yr ynys hefyd. Roedd pobl yn gallu gweld ac yn gallu
trafod darluniau Susan Adams yn syth. Gan fod ffuglen
yn cymryd yn hirach, roedd llawer mwy o ddrwgdybiaeth
am yr awdur.
Mae
gen ti ddiddordeb mewn ysgrifennu ar gyfer ffilmiau
byrion a theledu. A yw'r diddordeb yma yn effeithio
ar sut wyt ti'n ysgrifennu nofel?
Dwi'n cael lot o syniadau o'r hyn dwi'n ei
weld ar ffilm a theledu. Gan fy mod yn ysgrifennu ar
gyfer Pobl y Cwm ar hyn o bryd, efallai bod deialogi
yn rhywbeth dwi'n ei gwneud fwy mewn nofelau. Dwi'n
hoffi darllen nofelau sydd â lot o ddeialog gan
fod y llyfrau yma yn llai mewnblyg ac mae rhywun yn
dod yn gyfarwydd â chlywed lleisiau pobl. Dwi
hefyd yn teimlo bod angen elfen weledol gref ar nofel
- fel bod y gynulleidfa'n gallu cysylltu'n fwy uniongyrchol
â'r cynnwys.
Mi
wyt ti'n darlithio yn Adran Saesneg Prifysgol Cymru
Abertawe. Pam peidio a dilyn gyrfa academaidd drwy gyfrwng
y Gymraeg?
Dwi'n teimlo ei bod yn fwy o her i fynd i'r
afael â llenyddiaeth mewn diwylliant arall. Dwi'n
credu fod rhaid i chi fod yn agored i ddylanwadau oddi
wrth ddiwylliannau eraill er mwyn cyfrannu at ddatblygiad
diwylliant yn eich iaith eich hun. Mae'r iaith Saesneg
hefyd yn caniatáu i rywun fynd at ddiwylliannau
gwledydd eraill ar draws y byd er mwyn cyfrannu at ddiwylliant
cyfrwng Cymraeg.
Mae dy Fam-gu, Mrs Jennie James, Heol Dwr Fach, Caerfyrddin,
yn un o ddarllenwyr ffyddlon Cwlwm, ac mae dy dad-cu,
y Parchedig T. Elfyn Jones, o Drefach, yn gyn-weinidog
yng nghapeli Peniel a'r cylch. Beth yw dylanwad y genhedlaeth
yma arnat ti?
Mae Tad-cu wedi bod yn ddylanwad mawr achos
ei fod yn ddyn llengar, a chariad mawr at lyfrau ac
at ddysg. Roedd e'n ddylanwad mawr ar Mam wrth gwrs
(Menna Elfyn) sydd hefyd wedi bod yn ddylanwad mawr
arna i. Mae Mam-gu Dre hefyd yn ddylanwad mawr o safbwynt
yr holl straeon sydd ganddi hi. Mae hi'n llawn bywyd,
ac yn llawn hanesion.
Mi oeddet ti yn chwarae yn Neuadd San Pedr ar Hydref
6ed mewn noson gyda Chôr Seingâr i godi
arian i'r Urdd. Beth arall sydd ar y gweill gyda'r band?
Fe fyddai a'r band yn chwarae ar 27ain o Hydref
mewn noson i lansio ymgyrch etholiadol Nerys Evans yn
Neuadd Bronwydd. Fe fydd Dafydd Iwan hefyd yn perfformio.
A'r dyfodol?
Dwi'n gweithio ar nofel newydd ar gyfer Nadolig
2007 ac yn gobeithio rhyddhau CD newydd gyda'r band
erbyn haf nesaf.
[http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/papurau_bro/
cwlwm/newyddion/medi_hydref06.shtml]
|