| 
|
Holi Fflur Dafydd
Medi 2006
Cyfweliad gydag enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod
Genedlaethol Cymru Abertawe 2006, Fflur Dafydd.
Ai
hwn yw'r tro cyntaf i ti gystadlu yn y Genedlaethol?
Dwi wedi bod yn cystadlu yn y Genedlaethol
ers rai blynyddoedd bellach - mae'n wir i ddweud ei
fod wedi troi'n dipyn o obsesiwn! Mi es ati i gystadlu
yn y mân gystadleuthau i ddechre, gan ennill gwobr
sgript deledu, ac yn dilyn hynny, ysgoloriaethau Geraint
Morris a ysgoloriaeth Emyr Feddyg. Ac wrth gwrs, mi
fuais hefyd yn anobeithiol o aflwyddiannus mewn sawl
cystadleuaeth! Wedi i mi ennill ar y stori fer yn 2004
mi benderfynais rhoi cynnig ar y Fedal Ryddiaith gyda'r
nofel Lliwiau Liw Nos. Gan iddi gael beirniadaeth ffafriol,
mi benderfynais ei chyhoeddi y flwyddyn honno. Y nod,
bob amser, am wn i, oedd ennill y Fedal Ryddiaith, a
phan enillais i eleni nes i feddwl "wel 'na ni,
tra'd lan am sbel nawr!"
Pam cystadlu o gwbl?
Mae cael beirniadaeth di-duedd yn rhywbeth
prin iawn yng Nghymru, felly mae'n braf llechu tu nôl
i ffugenw a chael beirniadaeth gynhyrchiol a gonest
wrth awduron profiadol. Dwi wedi dysgu cymaint trwy
wneud hynny dros y blynyddoedd - o gystadlu yng nghystadleuthau
llenyddol Eisteddfod Coed y Bryn pan ro'n i'n ddim o
beth, i gystadlu yn yr Eisteddfod Ysgol yn Nyffryn Teifi
a Steddfodau lleol fel Castellnewydd Emlyn a Pontrhydfendigaid,
ac yna ymlaen at Eisteddfod yr Urdd. Dwi'n meddwl bod
cystadlu'n gyson yn rhywbeth iach iawn i'w wneud, mae'n
rhoi nod pendant i chi - ac yn gwneud i chi wthio eich
hunan dipyn ymhellach bob tro. Mae e hefyd yn rhywbeth
anodd, wrth gwrs, pan fyddwch chi'n cael beirniadaeth
anffafriol - ond mae'n rhaid dysgu i ddelio â
hynny, ac i barchu barn y beirniaid a gweld lle mae'r
gwendidau.
Shwt deimlad oedd hi i ddarganfod dy fod yn fuddugol?
Teimlad braf a rhyfedd iawn! O'n i wedi bod
bant yn yr Eidal ac wedi blino'n lân a dyma alwad
yn dod rhyw nos Sul a finne'n dweud wrth fy nghariad
"Ateb di e - wy ddim ishe siarad da neb."
Ond gan ei fod wedi synhwyro rhywbeth 'swyddogol' yn
y llais mi basiodd y ffôn i mi a minne'n clywed
y geiriau mae pob cystadleuydd yn gobeithio eu clywed:
"Helo, Hywel Edwards trefnydd y Steddfod sydd yma!"
Wedi i mi ddadebru mi rhannais botel o siampên
gyda fy nghariad ac ymfalchïo a chwerthin a mynd
i gysgu y noson honno yn gwenu fel giât! Mi es
adre wedyn i ddweud wrth mam wyneb yn wyneb, a hithe'n
lled-hysterig o hapus! Yna, dweud wrth Dad, a oedd ar
y ffordd i Gaerdydd yn ei gar. Roedd e'n gyrru dros
rhiw Alltwalis pan ffonies i fe ar y ffôn symudol
a dweud, "Mae gen i rywbeth i ddweud wrthot ti,"
ond wrth gwrs, gan nad yw'r signal ffôn yn gryf
iawn yn y fan honno, mi ddiflannodd y signal ac bu'n
rhaid i Dad ddyfalu pob math o bethau anffodus cyn fy
ffonio'n ôl rhyw bum munud wedyn!
Beth oedd yn mynd trwy dy feddwl tra'n eistedd
yn y pafiliwn a gwrando ar y beirniadaethau?
Dwi'n meddwl bod pawb yn ofni i'r foment fawr gael ei
ddifetha trwy glywed mai mond nhw sydd yn y ras! Ond
wedi i mi glywed y feirniadaeth a chlywed bod 13 wedi
cystadlu, fy meddylfryd nesaf oedd, a fyddaf i'n gallu
codi ar fy nhraed? Fe aeth yr utgorn a dyma fy nghalon
yn dechrau curo'n uwch nag arfer. Pan dwi'n meddwl nôl
dwi'n chwerthin am y nerfusrwydd hynny - y cyfan oedd
yn rhaid i mi ei wneud oedd codi ar fy nhraed a cerdded
i'r llwyfan. Ond o dan amgylchiadau dwys fel 'na, mae'r
pethau symlaf yn ymddangos yn arallfydol!
Rho
fraslun o'r nofel
Hanes awdur preswyl yn cyrraedd Ynys Enlli ac yn cwrdd
â chymysgedd o gymeriadau lliwgar - archeolegwyr,
ecolegwyr, adaryddwyr a chriw teledu. Mae hi'n stori
sy'n pendilio rhwng y llon a'r lleddf ac yn rhoi darlun
triw, gobeithio, o'r ynys fel y mae hi heddiw. Mae hi
hefyd yn cwestiynu y broses o greu stori, ac yn gofyn
y cwestiwn - stori pwy yw hi mewn gwirionedd? Mae pawb
ishe hawlio'r ynys yn y nofel hon, a rhai yn mynd i
eithafion digri a gwallgo wrth geisio gwneud hynny.
Ond yn y pendraw, dwi'n gobeithio ei bod hi'n stori
dda am bobl diddorol - ac yn rhywbeth ar gyfer pobl
o bob oed.
Faint
o dy amser a gymerodd i ti ei hysgrifennu?
Dwi'n cofio'n glir y foment nes i ddechrau arni. Ro'n
i yn y Llyfrgell Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2004,
wedi blino'n lân ar fy ngwaith ymchwil, ac mi
ddiffoddais y ddogfen o'n i'n gweithio arni a syllu
ar y dudalen lân o 'mlaen, a honno'n llawn posibiliadau.
Sgwennais i'r geiriau yma'n unig - `Colli'r cwch cyntaf
- am mai dyma'n wir a ddigwyddodd y tro cyntaf i mi
ymweld ag Enlli. A rhywsut, daeth rhyw ffrwd o syniadau
o rhywle, a mi fum i'n sgwennu'n ddibaid am awr, a chreu,
yn ddiarwybod i mi, beth fyddai ail bennod y nofel 'Atyniad'.
Yna, wrth gwrs, dechrau teimlo'n euog am esgeuluso fy
ngwaith ymchwil a mynd yn ôl at hwnnw, yn ddigalon
ddigon.
Rhyfedd
meddwl bu'n rhaid aros blwyddyn a hanner, bron, cyn
mynd ati i sgwennu'r gweddill rhwng Hydref a Rhagfyr
2005. Ond rhwng y ddau gyfnod ges i dipyn o amser i
feddwl ynghylch beth o'n i am ei ddweud, a sut ro'n
i am ddweud y stori, ac roedd y pellter hwnnw yn angenrheidiol
er mwyn clymu'r holl beth at'i gilydd.
Hon
yw dy ail nofel; cafodd dy un gyntaf `Lliwiau Liw Nos'
ymateb da iawn. Pam felly, gystadlu â nofel arall
yn hytrach na'i chymryd at y wasg a'i chynhyrchu?
Ro'n i wedi bwriadu sgwennu am Enlli ers i
mi ddod oddi yno yn 2002, ac mi rhoddodd thema'r Fedal
y flwyddyn honno - `Llanw a Thrai' - gyfle perffaith
imi wneud hynny. Mae angen dyddiadau cau ar rywun fel
fi i orfodi fy hunan i ddod â darn o waith i ben.
Dwi'n gweithio'n well dan bwysau, ac at bwrpas, ac mae'r
Eisteddfod yn gosod cyfyngiadau angenrheidiol. Gan i
mi ddod yn agos y llynedd ro'n i'n teimlo y dylwn gystadlu
eto - ac mae'r ffaith bod y nofel bellach yn gwisgo
bathodyn cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith wedi gwneud
tipyn o wahaniaeth, o ran poblogrwydd a gwerthiant,
sydd yn braf o beth.
Rwyt
ti'n ddarlithydd yn yr adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe
- oes gen ti ddiddordeb ysgrifennu yn yr iaith honno?
Dwi ddim yn erbyn sgwennu yn Saesneg, ond pe
bawn yn gwneud hynny, fe fyddwn yn addasu neu gyfieithu
syniadau o'r Gymraeg er mwyn trosglwyddo'r syniadaeth.
Mi sgwennais stori fer yn Saesneg ar gyfer prosiect
Ewropeaidd y Scritture Giovani a oedd yn gyfieithiad
o stori fuddugol Eisteddfod Casnewydd, a chafodd honno
ei chyfieithu wedyn i Eidaleg, Almaeneg a Norwyeg, ac
roedd hi'n gyffrous i weld y stori honno'n 'teithio'
o'r naill ddiwylliant i'r llall ac yn cael ei gwerthfawrogi
tu allan i Gymru. Iaith academaidd y bu Saesneg i mi'n
bennaf - ces fy swyno gan yr iaith a'i llenyddiaeth
wrth astudio dan arweiniad Y Prifardd Ceri Wyn Jones
yn Nyffryn Teifi, a mynd ymlaen wedyn i wneud gradd
yn Saesneg. Roedd hi'n fwy o sialens, rhywsut, ac yn
anoddach ei meistroli, ac mae 'na bob amser rhyw atyniad
rhyfedd at rywbeth 'estron,' a'r ysfa i deall a dehongli
yr elfen estron honno.
Beth
wyt ti am ysgrifennu nesaf?
Dwi wedi bod digon ffodus i gael nawdd gan Gyngor Llyfrau
Cymru i ysgrifennu nofel arall. Mae hon yn gomedi tywyll
sy'n olrhain hanesion trefnwyr angladdau yn Sir Gâr,
lle dwi bellach yn byw. Efallai y bydd rhai ohonoch
yn ymwybodol bod tad fy nghariad yn drefnwr angladdau,
felly mae gen i gysylltiadau da! Dwi hefyd yn sgriptio
i Pobol y Cwm ar hyn o bryd.
Rwyt
ti hefyd yn chwarae'n gyson gyda'r band 'Fflur Dafydd
a'r Barf' gan gyfansoddi'r caneuon, beth yw amser hamdden
i ti?
Bu cerddoriaeth yn hobi ers cyhyd dwi ddim yn meddwl
'mod i wedi sylwi ei fod wedi mynd yn waith! Ond mae'n
wir i ddweud bod darllen, sgwennu, hyd yn oed gwylio
sebon bellach yn perthyn i'r categori 'gwaith'! Yr unig
bryd dwi wir yn teimlo'n ymlaciedig ac 'off-duty' yw
pan dwi'n gwylio ffilmiau - prynodd fy mrawd lyfr imi'n
ddiweddar o'r enw '2001 films to see before you die'
felly dwi'n meddwl fydd gen i ddigon i fy nifyrru am
sbel!
[http://www.bbc.co.uk/cymru/canolbarth/
papurau_bro/y_garthen/newyddion/medi06.shtml]
|
|