|
Blwyddyn goch Fflur
Adolygiad Hafina Clwyd o lliwiau liw nos gan
Fflur Dafydd. Lolfa £6.95
Mae
yna ambell flwyddyn gofiadwy yn hanes pawb ohonom. Ambell
dro am resymau trist, dro arall ceir dyddiau llythyren
goch.
Credaf
mai blwyddyn llythyren goch a gafodd Fflur Dafydd eleni.
Am y tro cyntaf anfonodd ymgais i gystadleuaeth y Fedal
Ryddiaith a dod yn agos i'r brig.
Mwy
na hynny cafodd eiriau canmoliaethus oddi wrth feirniaid
sydd yn gwybod be di be.
"Trwy
ddychymyg ffrwythlon yr awdur llwyddir i roi inni olwg
newydd sbon ar themâu megis cariad, anffyddlondeb
ac eiddigedd..."
Ac
yng ngeiriau Meinir Pierce Jones "nofel gyfoes
a soffistigedig..... ysgrifennu sensitif...caiff y darllenydd
bleser rhyfeddol...."
Dawn
gerddorol
Anlwc fawr Fflur oedd bod Dylan Iorwerth wedi
anfon Darnau i mewn.
Mi
wyddem am ei dawn gerddorol ac eleni hefyd y lansiodd
ei halbwm cyntaf, Coch am weddill fy Oes.
Heb glywed yr albwm ni allaf ddirnad beth yw ystyr y
'coch' yn y teitl.
Mae
un peth yn wir: nid yw ei llenyddiaeth yn goch - yn
ystyr ogleddol y gair.
Mae hon yn nofel feistrolgar os anodd ei darllen ar
brydiau.
Bloc
o fflatiau
Y cefndir yw bloc o fflatiau ac o fewn tair
fflat ceir trigolion llawn cyfrinachau.
Mae
yna unigedd a thwyll ac eiddigedd a ffetish.
Mae
enwau'r trigolion yn dweud rhywbeth wrthym amdanynt.
Dyna
Gwydion y gwr priod sydd yn cario 'mlaen hefo'r ferch
yn y fflat uchaf.
Mae'r enw Gwydion yn awgrymu Cymro dosbarth canol gyda
phwerau arbennig - y gallu i ddenu merched efallai.
Ffotograffydd ydyw a gwêl bopeth yn ddu a gwyn.
Lena yw ei wraig - enw cyffredin yn creu darlun o lygoden
fach.
Mae Gwydion yn medru bod yn ddigon difeddwl a miniog
ei dafod hefo Lena. "Beth wyt ti'n ei weld wrth
edrych arna i?" hola Lena. "Wal" meddai
a cherdded allan o'r ystafell.
Nid wyf yn hoffi Gwydion o gwbl.
Ni
cheir enw'r ddynes ffansi ac y mae hynny hefyd yn arwyddocaol;
cyfrinach, wyneb mewn edrych, y tu ôl i'r llenni.
Ond llawn cyfrwystra a hi a chwaraeodd y tric mwyaf
annynol ar Lena druan.
Yn
y fflat ganol y mae Cain.
Y mae ef fel y Cain gwreiddiol yn ddyn trist a chymhleth;
mae ganddo berthynas od a'i fam. Perthynas odiach a
Julie (enw arall ddewiswyd yn ofalus) y ferch adawodd
wrth yr allor ond sydd yn disgwyl ei blentyn. Mae gan
hwn obsesiynau afiach ac yr ydym i gyd yn adnabod dynion
digon tebyg. Mae'r ddeialog rhyngddo ef a Julie uwch
y pryd bwyd yn y gwesty yn orchestol ac yn rhoi inni
ddarlun llawn o'i bersonoliaeth.
Gweledigaeth
a dyfnder
Mae yma stori afaelgar a chymhleth. Mae yma
weledigaeth a dyfnder.
Ac
eto yr wyf yn teimlo bod yr holl angst yn peri bod y
darllen yn llafurus ar brydiau.
Teimlwn
hefyd nad yw pobl gyffredin yn meddwl ac yn pensynnu
fel y cymeriadau yn y nofel hon.
Anodd
hefyd yw cymryd at yr un ohonyn nhw ac erbyn y diwedd
yr oeddwn yn teimlo eu bod i gyd yn cael yr hyn a haeddent.
Heblaw
am fab Gwydion efallai.
Mae
un peth yn sicr.
Mae Fflur yn sicr o fynd o nerth i nerth ac fe gawn
fwy o waith disglair ganddi yn y dyfodol.
[http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/
llyfrau/adolygiadau/549-lliwiau.shtml]
|