|
- Adolygiad Meg Elis o Awr y Locustiaid gan
Fflur Dafydd.
Rydw
i yn sgwennu storiâu byrion weithiau,
a hyd yn oed wedyn ddim yn hollol siwr beth ydyn nhw.
Mae'r
ffurf yn newid, mae arddulliau yn newid, y byd yn newid
- ac wrth gwrs, rhai sgwenwyr yn aros yr un fath, yn
sgwennu storiâu ac yn sgwennu nofelau fel petai'r
ugeinfed ganrif yn newyddbeth ffres.
Diolch
byth nad yw Fflur Dafydd yn un o'r rheiny a diolch hefyd
ei bod yn gallu cyfuno ffresni gyda sylwebaeth a threiddgarwch
sy'n oesol.
Wrth blymio i mewn i'r stori gyntaf un, dyma ni yn stafell
yr athrawon efo "tri dyn llychlyd a dwy fenyw sy'n
edrych fel hwyaid cysetlyd..." ac mae'r cameo byr
o olygfa sy'n dilyn yn crynhoi cymaint (heb sôn
am roi esboniad go dda pam fod perfformiad disgyblion
ysgol Cymru yn bwmblan yn yr iselfannau islaw Estonia...
).
Stori
afreal yw'r gyntaf hon, Dwy Law yn Erfyn -
ond efo cyffyrddiadau sy'n hollol real ac mor adnabyddus
fel eu bod yn brifo.
Ar ei gorau
Mae'r
awdures ar ei gorau pan fo fel hyn: yn dwyn y cyfarwydd
yn sydyn i olygfa ffantasïol, neu yn gwneud y gwrthwyneb
yn hollol, yn troi stori neu sefyllfa weddol gyfarwydd
yn sydyn yn ddieithr, yn arswydus hyd yn oed.
Campwaith
y gyfrol yw'r stori sy'n rhoi iddi ei theitl: mae cymaint
wedi ei gywasgu i'r stori hon fel bod rhywun yn rhyfeddu
mai stori fer ydyw.
Rydych
yn gorffen ei darllen trwy deimlo eich bod wedi bod
ar daith oes.
Anwastad
ar lefel uchel!
Mae'r daith yn ddieithr weithiau ac yn aflwyddiannus
yn rhai o'r storiâu, megis Merano. Dichon
ei bod yn ceisio dweud rhywbeth am ganfyddiad dieithriaid
o lefydd sy'n gyfarwydd i ni, ond nid yw'n llwyddo.
Teimlais
hyn yn Hollti Blew hefyd, lle mae'r sgwennu
ar adegau yn rhy ymwybodol orchestol. Ond wedyn, mae
Mis Mêl a'i sgwennu synhwyrus, sinistr,
neu Cath Heb Glustiau, sy'n dechrau'n ddiniwed
annwyl ond yn datblygu ar hyd llwybrau annisgwyl, yn
adfer ffydd y darllenydd eto.
Anwastad,
efallai - ond anwastadrwydd ar yr uchelfannau sydd yma.
Meg
Elis
[http://www.bbc.co.uk/cymru/cylchgrawn/llyfrau/adolygiadau/locustiaid.shtml]
|