|
Datganiad
Y Lolfa, Medi 2009
Bu
cymaint o alw am gyfrol fuddugol Fflur Dafydd ers yr
Eisteddfod Genedlaethol fel y bu rhaid adargraffu'r
gyfrol o fewn mis i'w chyhoeddi. Enillodd Fflur Dafydd
Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Y Llyfrgell yn Eisteddfod
Y Bala, a bu'r ymateb yn hynod frwd gan adolygwyr a
phrynwyr fel ei gilydd. Disgrifiwyd y nofel gan Dafydd
Morgan Lewis fel “un o'r nofelau gorau i ennill
Gwobr Goffa Daniel Owen erioed”.
Profwyd
ei phoblogrwydd gan brynwyr hefyd wrth iddi gyrraedd
brig rhestr gwerthwyr gorau mis Awst – y tro cyntaf
i enillydd y Daniel Owen wneud hynny ers i Robin Llywelyn
ennill yn 2004. Meddai Garmon Gruffudd o'r Lolfa: “Mae'n
wych cael cystal ymateb i nofel ac i weld y gwerthiant
yn parhau - mae'n amlwg i'r gair fynd ar led fod hon
yn nofel wirioneddol arbennig, ac yn haeddu'r clod a
roddwyd iddi gan feirniaid y gystadleuaeth.”
Ond
yn ogystal â'i nofel fuddugol bu hefyd galw mawr
am ei nofel Saesneg gyntaf, Twenty Thousand Saints,
sydd hefyd newydd fynd i ail argraffiad. Enillodd y
nofel hon Wobr Oxfam awdur mwyaf addawol y Gelli i Fflur
yn gynharach yn y flwyddyn.
Yr
wythnos hon mae Fflur yn dechrau cyfnod fel awdur Preswyl
ym Mhrifysgol Iowa yn yr Unol Daleithiau, lle bydd yn
cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau yn cyflwyno'i
gwaith yn ogystal â darlithio i fyfyrwyr ar ysgrifennu
creadigol. Ond ar ei dychweliad i Gymru mae Fflur hefyd
wedi cytuno i gynnal sgwrs am ei nofel sy'n gwatwar
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a hynny yn y Llyfrgell
Genedlaethol ei hun! Cynhelir y sesiwn ar 27ain o Dachwedd
yn Y Drwm.
[http://www.ylolfa.com/index.php?lang=cy]
|