| Fflur
Dafydd a'r Barf
Caerdydd, Medi 2005
Iwan England
Lle
a phryd
Gwesty'r Riverbank, Riverside, Caerdydd
Medi 1, 2005
Y
bandiau
Fflur Dafydd a'r Barf - noson lansio'r albwm
'Coch Am Weddill Fy Oes'.
Awyrgylch
'Hamddenol' yw'r gair sy'n crisialu naws y
bar selar dywyll - y lleoliad delfrydol ar gyfer cabaret
myglyd neu jazz swynol. Roedd y band yn amlwg wedi gwneud
ymdrech fawr ar gyfer noson lansio eu halbwm gynta,
gan addurno'r llwyfan gyda phlanhigion egsotig, llwythi
o ddefnydd coch a stribedi o oleuadau bychain, ac roedd
y lle'n llawn dop gyda theulu, ffrindiau, a glitterati
diwylliannol a cherddorol y brifddinas. Cynulleidfa
eclectig ar gyfer noson cerddorol anarferol.
Roedd
mwyafrif y gynulleidfa wedi dod i wrando'n astud ar
y caneuon, ac roedd y gerddoriaeth bregus a swynol yn
gofyn am fwy o ganolbwyntiad nag yn eich gig chwyslyd
arferol.
Trac
y noson
Byth Mynd i Newid / Y Gwir am Gelwydd.
Dyma
ddau o draciau mwyaf cyhyrog a chadarn y noson, oedd
yn dangos geiriau clyfar Fflur a thalentau'r band ar
eu gorau.
Disgrifiwch
y perfformiadau
Cafwyd set acwstig i gychwyn, oedd yn datgelu
ochr mwy bregus rhai o'r caneuon. Roedd yr alawon a'r
trefniant syml yn atgoffa rhywun o ganeuon torcalonus
Aimee Mann pan mae hi ar ei mwya synfyfyriol, er fod
tipyn mwy o hiwmor yng nghaneuon Fflur. Fel y byddech
chi'n ddisgwyl gan rywun sydd wedi ennill torreth o
wobrau llenyddol, mae geiriau Fflur yn fwy diddorol
na'r hyn gewch chi gan fandiau arferol, ac roedd y set
cyntaf yn cyfleu hyn yn berffaith.
Yn
ail hanner y noson cafwyd set gyda'r band llawn, a dyma
ddangos ochr mwy cyhyrog i gerddoriaeth Fflur. Roedd
naws jazz cryf ar gychwyn y set yma, a thua'r diwedd
ychwanegwyd mwy o elfennau ffync bywiog. Roedd y perfformiad
tynn hefyd yn dangos y llu o dalentau cerddorol sydd
yn y band, a'r ffordd mae'n nhw'n clymu'n berffaith
wrth ddehongli caneuon Fflur.
Y
prif wendid efallai oedd fod steils cerddorol y noson
yn pwyntio at sawl cyfeiriad gwahanol. Roedd yr acwstig
synfyfyriol, jazz hamddenol Norah Jonesaidd, a'r ffync
mwy cyhyrog yn awgrymu cerddor sy'n dilyn nifer fawr
o ddylanwadau gwahanol i gyd ar yr un pryd. Serch hynny,
roedd Fflur a'r band yn llwyddo i newid gêr cerddorol
heb unrhyw drafferth ar hyd y noson, gan arwain y gynulleidfa
gyda nhw bob cam o'r ffordd.
Uchafbwynt
y noson
Y gymeradwyaeth wresog ar ddiwedd y noson oedd
yn dangos yn glir faint oedd y gynulleidfa wedi mwynhau.
Y
peth gwaethaf am y noson
Y criw bychan o bobl yng nghefn y bar oedd
yn siarad trwy gydol caneuon mwyaf tawel a synfyfyriol
y noson.
Achlysur
Roc a Rol
Fflur yn dweud wrth y bobl hyn i gario mlaen
â'u siarad ar ôl i drefnwyr y noson ofyn
iddyn nhw gau eu cegau.
Beth
sy'n aros yn y cof?
Sgidiau bach coch Fflur, sydd hefyd yn ymddangos
ar glawr yr albwm.
Marciau
allan o ddeg
8/10
Un
(neu ddau!) air am y gig
Hamddenol a Hyfryd
Unrhyw
sylwadau eraill
Prynwch yr albwm.
[http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/c2/
adolygiadau/adolygiadau_gigs/fflurdafydd.shtml]
|