FFLUR DAFYDD YN ENNILL GWOBR GOFFA DANIEL OWEN
Fflur Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod
Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau eleni, mewn
cystadleuaeth a ddenodd saith o lenorion.
Rhoddir
Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel sydd heb ei chyhoeddi
gyda llinyn storiol cryf, heb fod yn llai na 50,000
o eiriau. Y beirniaid eleni oedd John Rowlands, Geraint
Vaughan Jones a Rhiannon Lloyd, a Y Llyfrgell yw teitl
y nofel fuddugol.
Rhoddwyd
£3,100 o’r wobr ariannol eleni gan Ymddiriedolaeth
D Tecwyn Lloyd a £1,500 gan Siop Awen Meirion,
Y Bala.
Tair
blynedd wedi iddi ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod
Abertawe a’r Cylch 2006, ac ychydig fisoedd wedi
iddi gipio gwobr Awdur Ifanc Oxfam a Gwyl y Gelli 2009
am ei nofel Saesneg Twenty Thousand Saints, mae Fflur
Dafydd wedi cyrraedd y brig unwaith eto gyda nofel ddadleuol
sy’n cymryd cipolwg ar un o brif sefydliadau Cymru,
y Llyfrgell Genedlaethol. Wedi ei gosod yn y flwyddyn
2020, mae’r nofel yn dilyn criw o gymeriadau yn
ystod un diwrnod dramatig pan fydd dwy lyfrgellwraig
arfog yn meddiannu’r Llyfrgell.
Mae
hon yn nofel ddychanol, ag iddi ddogn hael o hiwmor
du, sy’n dychanu lyfrgellwyr, academyddion, gweision
sifil, gwleidyddion a phorthorion, ac yn eu taflu’n
ddidrugaredd at ei gilydd mewn argyfwng sinistr a bisâr.
Y mae’r nofel hefyd yn ymdrin â nifer o
themâu cyfredol – digideiddio, ôl-ffeministiaeth,
beirniadaeth lenyddol, ac, yn bwysicaf oll, cof a hunaniaeth
cenedl. Mae’r nofel yn ddrych amgen o ddyfodol
y genedl, dyfodol lle fydd menywod yn llywodraethu;
gwleidyddion yn dylanwadu’n ormodol ar y celfyddydau,
a’r llyfr – a’r awdur - yn bethau
sydd wedi mynd yn angof wrth i’r dechnoleg newydd
gymryd eu lle. Mae hon yn sicr yn nofel heriol fydd
yn tynnu blewyn o drwyn sawl darllenydd – yn enwedig
y beirniaid gwrywaidd - ac sy’n sicr o ysgogi
trafodaeth.
Yn
debyg i weithiau eraill Fflur Dafydd, fel ei nofel am
Enlli, mae’r nofel yn ddadansoddiad difyr o un
o eiconau Cymru, gyda’r lleoliad ei hun yn troi’n
brif gymeriad yn ystod y nofel, wrth i’r darllenydd
weld y sefydliad hwn mewn golau newydd a chyffrous.
Cafodd yr awdur ei hysbrydoli gan y lle pan roedd hi
yno yn cwblhau ei doethuriaeth ar R.S. Thomas yn 2004,
wrth iddi ymweld â’r Llyfrgell yn ddyddiol
am gyfnod o dri mis.
“Ro’n
i’n ffeindio’n hun yn dychmygu pob math
o senarios gwahanol y gallai ddigwydd yn y Llyfrgell
yn hytrach na chanolbwyntio ar fy ngwaith! Mae ‘na
rhywbeth gwefreiddiol am fawredd yr adeilad, y carped
coch, y pileri gwynion, a’r cysyniad fod holl
gyfrinachau a hanes y genedl wedi ymgasglu mewn un man.
Dyma un o’r sefydliadau mwyaf pwerus ac arwyddocaol
sydd gennym yng Nghymru – ond eto dyma’r
lle diwethaf y buasai rhywun yn disgwyl terfysg o unrhyw
fath, gan ei fod yn le mor dawel a thangnefeddus –
a’r ddeuoliaeth honno sy’n fy niddori.”
Mae’r
nofel eisioes wedi torri tir newydd, gan mai dyma’r
nofel gyntaf i gael ei lleoli yn gyfangwbl yn y Llyfrgell
Genedlaethol. Mae’r nofel hefyd yn gwthio’r
ffin rhwng y real a’r abswrd yn wastadol, wrth
gynnwys cyfeiriadau at bob math o awduron hanesyddol
a ffuglennol, ac er ei bod wedi ei lleoli yn 2020, camp
yr awdur yw ei bod wedi creu dyfodol arswydus ac abswrd
sy’n ddigon credadwy.
Caiff
y nofel ei chyhoeddi ddwy flynedd wedi canmlwyddiant
y Llyfrgell Genedlaethol yn 2007 ac fe fydd ar werth
ar Faes yr Eisteddfod ac mewn siopau ar hyd a lled Cymru
o heddiw ymlaen.
Magwyd
Fflur Dafydd yn ardal Llandysul. Graddiodd mewn Saesneg
ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i ennill
doethuriaeth am ei hastudiaeth o waith R.S. Thomas ym
Mhrifysgol Bangor. Mae hi bellach yn darlithio yn yr
Adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.
Daeth
i’r brig mewn sawl cystadleuaeth yn yr Eisteddfod
Genedlaethol, gan gynnwys gwobr y stori fer ac ysgoloriaeth
Emyr Feddyg. Enillodd ei hail nofel, Atyniad, Fedal
Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r
Cylch, 2006, a derbyniodd ei nofel Saesneg gyntaf, Twenty
Thousand Saints, wobr Oxfam a Gwyl y Gelli am Awdur
Mwyaf Addawol 2009.
Y
mae hi hefyd yn gantores-gyfansoddwraig boblogaidd,
ac fe fydd ei thrydydd albwm, Byd Bach, sef taith o
gwmpas Cymru trwy gyfrwng caneuon, yn cael ei rhyddhau
ym mis Hydref eleni, ar label Rasal.
Mae
hi newydd briodi ag Iwan ddydd Sadwrn diwethaf ac mae’r
ddau wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin.
Mae’r
Eisteddfod Genedlaethol yn denu tua 160,000 o ymwelwyr
yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r
de bob yn ail blwyddyn. Ceir mynediad am ddim i holl
weithgareddau’r Eisteddfod Genedlaethol am bris
tocyn maes dyddiol.
Mae’r
Eisteddfod yn derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad
Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a rhoddodd y Llywodraeth
£100,000 yn ychwanegol ar gyfer Eisteddfod Meirion
a’r Cyffiniau 2009. Yn ogystal, mae’r Eisteddfod
yn derbyn arian gan awdurdodau unedol Cymru drwy bartneriaeth
gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cynhelir yr
Eisteddfod ar Stad Rhiwlas ger Y Bala tan 8 Awst.
[http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=3&newsID=121]
|