Fflur Dafydd yn ennill gwobr goffa Daniel Owen am ei
nofel 'Y Llyfrgell'
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mercher, 05 Awst '09
Cyhoeddwyd ddoe ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol mai
yr awdures o Landysul Fflur Dafydd oedd ennillydd Gwobr
Goffa Daniel Owen. Ennillodd Fflur y wobr o £5,000
am ei nofel ddiweddaraf Y Llyfrgell, nofel ffantasi
wedi ei lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Roedd
beirniaid y wobr yn gytun fod y nofel yn ddarn o waith
dychanol a heriol byddai'n tynnu blewyn o drwyn sawl
darllenydd ac yn annog trafodaeth am ddyfodol ein treftadaeth
cenedlaethol.
Yn
y nofel, mae Fflur yn portreadu byd lle mae merched
wrth lyw y llywodraeth, mae gan wleidyddion ddylanwad
amdwyol dros y celfyddydau, ac mae technoleg newydd
yn bygwth bodolaeth y llyfr, a'r awdur hefyd. Cafodd
yr awdur ei hysbrydoli gan y Llyfrgell pan roedd hi
yno yn cwblhau ei doethuriaeth ar R S Thomas yn 2004,
wrth iddi ymweld â’r Llyfrgell yn ddyddiol
am gyfnod o dri mis.
“Ro’n
i’n ffeindio’n hun yn dychmygu pob math
o senarios gwahanol y gallai ddigwydd yn y Llyfrgell
yn hytrach na chanolbwyntio ar fy ngwaith! Mae ‘na
rhywbeth gwefreiddiol am fawredd yr adeilad, y carped
coch, y pileri gwynion, a’r cysyniad fod holl
gyfrinachau a hanes y genedl wedi ymgasglu mewn un man.
Dyma un o’r sefydliadau mwyaf pwerus ac arwyddocaol
sydd gennym yng Nghymru – ond eto dyma’r
lle diwethaf y buasai rhywun yn disgwyl terfysg o unrhyw
fath, gan ei fod yn le mor dawel a thangnefeddus –
a’r ddeuoliaeth honno sy’n fy niddori.”
Disgrifiodd
John Rowlands, un o feirniaid y wobr goffa fod Fflur
yn “awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi creu sefyllfa
bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu, ein sobri, ein
harswydo, a’n gogleisio ar ein ail ddarn o lenyddiaeth
sy’n bleser pur.” Dwedodd Rhiannon Lloyd,
hefyd yn feiriniad ar y wobr, “Nofel glyfar iawn
y gellir ei mwynhau ar sawl lefel ac y mae ynddi stori
ardderchog.”
Wedi ei gosod yn y flwyddyn 2020, mae’r nofel
yn dilyn criw o gymeriadau yn ystod un diwrnod dramatig
pan fo dwy lyfrgellwraig arfog yn meddiannu’r
Llyfrgell
Yn
ól Andrew Green, “Mae’r nofel yma
yn torri tir newydd, y nofel gyntaf i’w gosod
yn gyfangwbl yn y Llyfrgell Genedlaethol, sydd yn adeilad
eiconig i Gymru, nid yn unig oherwydd y penserniaeth
clasurol ond oherwydd y casgliadau unigryw hanesyddol
sydd o fewn yr adeilad. Mae’r Llyfrgell yn falch
bod nofelydd gyda llais mor unigryw fel Fflur Dafydd
wedi dewis gosod ei nofel ffantasi yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Gobeithiwn na fydd ei harolygon am ddyfodol llyfrgelloedd
yn 2020 yn dod i fodolaeth.”
Magwyd
Fflur Dafydd yn ardal Llandysul. Graddiodd mewn Saesneg
ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i ennill
doethuriaeth am ei hastudiaeth o waith R S Thomas ym
Mhrifysgol Bangor. Mae hi bellach yn darlithio yn yr
Adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.
Daeth
i’r brig mewn sawl cystadleuaeth yn yr Eisteddfod
Genedlaethol, gan gynnwys y fedal ryddiaith yn Eisteddfod
Genedlaethol Abertawe a’r Cylch, 2006.
[http://www.llgc.org.uk/index.php?id=1514&no_cache=1&tx_ttnews
[cat]=3&tx_ttnews[tt_news]=2453&cHash=7ed062a440]
|