| 
|
YDI ADOLYGIAD ERIOED WEDI LLADD NEB?
- Adolygiad Catrin Beard o gyfrol fuddugol Gwobr Daniel
Owen
- Golwg360.com
O diar.
Rwy'n
teimlo ychydig yn betrus yn adolygu cyfrol fuddugol
Gwobr Daniel Owen eleni. Wedi'r cyfan, adolygiadau Eben
Prydderch o nofelau Elena Wdig sy'n esgor ar y digwyddiadau
brawychus un diwrnod yn y Llyfrgell Genedlaethol yn
2020, sy'n cael eu hadrodd yn Y Llyfrgell, nofel fuddugol
Fflur Dafydd. Er bod Eben yn ceisio ei gysuro ei hun
nad oes "y fath beth ag achosi marwolaeth drwy
adolygu'n beryglus", yn sicr mae'n talu i adolygydd
fod yn ofalus.
Ond
cysuraf fy hun mai gwlad wahanol iawn i'r Gymru bresennol
sydd yn cael ei disgrifio yn y nofel. Mae'r genedl yn
cael ei rhedeg gan fenywod, ac mae i'r Llyfrgell Genedlaethol
rôl allweddol benodol yn siapio a ffurfio ymwybyddiaeth
a chof y genedl. Does dim llyfrau'n bod bellach; does
dim mo'u hangen, nawr fod yr e-lyfr wedi disodli'r hen
gyfrolau papur yn llwyr. Mae'r prosiect digido y mae'r
Llyfrgell mor falch ohono yn ein Cymru ni wedi trawsnewid
llenyddiaeth Gymraeg yn ogystal â'n hymwybyddiaeth
ni o'n hanes a'n diwylliant. (Gyda'r Llyfrgell Genedlaethol
wedi'i lleoli llai na milltir o fy nghartref, a nifer
o'm cydnabod a'm cyfeillion yn gweithio yno, ar ôl
darllen Y Llyfrgell, rwy'n ofni y byddaf i'n edrych
ar yr archifwyr a'r digidwyr mwyn â llygaid newydd
o hyn ymlaen.)
Yn
dilyn marwolaeth frawychus Elena Wdig, mae ei merched,
efeilliaid o'r enw Ana a Nan, yn penderfynu dial ar
yr adolygydd yr honnir iddo ddifetha ei bywyd. Daw eu
cyfle pan ddaw Eben i'r Llyfrgell, lle mae'r ddwy yn
gweithio, i ddarllen archif o ddyddiaduron Elena sydd
wedi'u cadw mewn ystafell arbennig. Ei fwriad yntau
yw ysgrifennu cofiant i Elena, fel penyd am yr hyn a
wnaeth iddi, a hefyd er mwyn adfer ei enw da yn llygaid
y cyhoedd. Ar y diwrnod y daw Eben i archwilio'r archif,
mae'r Brif Lyfrgellwraig a llawer o swyddogion y sefydliad
wedi mynd i gyfarfod yn y Senedd yng Nghaerdydd gan
adael diogelwch yr adeilad yng ngofal Dan, y porthor
diog sy'n manteisio ar bob cyfle posibl i osgoi gwaith
a sleifio allan am sbliff. Mae iddo yntau ei ran yng
nghynllwyn y chwiorydd, sy'n gymhleth a dweud y lleiaf,
ond dyw popeth ddim yn gweithio yn ôl y bwriad.
Aiff yr awdur â ni ar wib ar antur drwy goridorau
a chilfachau tywyllaf crombil yr adeilad gan ddatgelu
nifer o gyfrinachau ar y ffordd cyn cyrraedd uchafbwynt
dramatig.
Yn
ogystal â stori gyffrous, mae yma ddychan deifiol
gydag aml i gic, a blew yn cael eu tynnu o sawl trwyn
Cymreig. Ceir yma rybudd i ni ofalu am ein hunaniaeth
a'n hanes, gwarchod ein hannibyniaeth a'n hetifeddiaeth
a chadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd o'n cwmpas rhag
i bopeth fynd yn llythrennol o'n dwylo. Ond cyffyrddiad
ysgafn sydd gan Fflur Dafydd, a'i neges yn cael ei chyfleu
yn gynnil gyda chryn hiwmor. Dyma chwip o nofel sy'n
gyfuniad prin a phleserus o stori dda, gyffrous, a digon
o ddeunydd meddwl.
Adolygiad
gan Catrin Beard.
[http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx
?ID=4693&navigationID=95805&domainID=0]
|
|